Part of the debate – in the Senedd at 6:09 pm on 17 January 2017.
Thank you, Deputy Presiding Officer. I am pleased to lay before the Assembly for approval the local government settlement for 2017-18 for the 22 county councils and county borough councils in Wales. Next year, after taking everything into consideration, local authorities in Wales will receive over £4.15 billion in general capital funding. This is an increase of 0.2 per cent as compared to the year 2016-17. This is the first increase in the local government settlement since 2013-14.
The settlement reflects our agreement with Plaid Cymru to allocate £25 million in addition to local government to help it provide vital services, as well as £1 million for school transport and £3 million for a pilot scheme with regard to parking arrangements in town centres. Bearing in mind the pressure from all directions on the Welsh budget, I believe that this is a fair settlement for local government and that it is much better than what the majority of people within local government would have expected.
Ddirprwy Lywydd, mae’r Llywodraeth wedi diogelu cyllid ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac nid yw’r setliad hwn yn wahanol. Yn awr, rwyf yn cydnabod, er gwaethaf yr ymdrechion hyn fod y cyllid refeniw gros sydd gan yr awdurdodau 4 y cant yn is mewn termau gwirioneddol dros y cyfnod 2010-11 i 2015-16. Ar draws y ffin yn Lloegr, fodd bynnag, yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, roedd cynghorau yn gorfod ymdopi â gostyngiadau o 25 y cant mewn termau real yn y pwer gwario sydd ar gael iddyn nhw dros yr un cyfnod.
Wrth baratoi'r setliad, rhoddwyd ystyriaeth ofalus i gyngor yr is-grŵp dosbarthu a’r is-grŵp cyllid ynghylch diwygio fformiwla ariannu llywodraeth leol. Mae'r dosbarthu yn adlewyrchu'r asesiad mwyaf diweddar o angen cymharol, yn seiliedig ar drysorfa o wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol pob awdurdod yng Nghymru. Yn ôl yr arfer, cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y setliad dros dro, ac rwyf yn hyderus fod y nawdd a gyhoeddwyd yn rhoi’r cynghorau ar sylfaen gadarn ar gyfer eu gwaith cynllunio ariannol yn y flwyddyn sydd i ddod.
Yn y setliad terfynol, darparwyd £ 6 miliwn yn ychwanegol at y nawdd a ddynodir yn y setliad drafft ar gyfer gwaith cefnogol i atal digartrefedd. Mae digartrefedd, neu’r bygythiad ohono, yn cael effaith negyddol ar fywydau pobl. Mae ei atal, felly, yn cyfrannu at y bwriad sydd gennym o sicrhau bod Cymru yn wlad iachach ac at gyflawni ein hymgais i wneud yn siŵr bod rhagor o gartrefi diogel a saff ar gael.
Dywedais yma yn y Cynulliad yn ystod ein dadl gyntaf ar y gyllideb ddrafft lawn fod hon yn gyllideb ar gyfer sefydlogrwydd ac uchelgais, a bod yr uchelgais hwnnw yn ymestyn yn uniongyrchol iawn hyd at yr ymrwymiadau hynny yn 'Symud Cymru Ymlaen' sydd i’w cyflawni mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Mae'r setliad hwn, felly, yn darparu £ 4.5 miliwn ar gyfer ariannu'r ymrwymiad i gynyddu’r terfyn cyfalaf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol sy'n codi tâl am ofal preswyl. Bydd y terfyn yn codi o £ 24,000 i £30,000 yn y flwyddyn ariannol nesaf, a dyma fydd y cam cyntaf yn y gwaith o gyflawni ein hymrwymiad i symud tuag at derfyn o £50,000. Yn ail, mae'r setliad yn darparu £ 0.3 miliwn er mwyn ariannu'r ymrwymiad i gyflwyno diystyriad llwyr o'r pensiwn anabledd rhyfel mewn asesiadau ariannol ar gyfer codi tâl am ofal cymdeithasol. Ac yn drydydd, mae £ 1.6 o gyllid ychwanegol y tu hwnt i'r setliad wedi ei gynnwys i sicrhau na fydd unrhyw awdurdod yn gweld gostyngiad o fwy na 0.5 y cant yn ei gyllideb, o'i gymharu â'i ddyraniad o refeniw nawdd cyffredinol yn 2016-17.
Ddirprwy Lywydd, mae'n ddyhead a rennir â llywodraeth leol fod grantiau penodol i’w defnyddio’n gynnil ac mewn modd strategol. Mae'r setliad ar gyfer 2017-18 yn cynnwys £ 3.1 miliwn o gyllid a ddarparwyd yn flaenorol drwy grantiau penodol. Mae hyn yn cynnwys £2.85 miliwn o gyllid a ddarparwyd yn flaenorol gan y gwasanaethau cymdeithasol drwy gyflwyno grant trawsnewid. Golyga hyn fod nawdd blynyddol o dros £ 194 miliwn wedi ei drosglwyddo i’r setliad ers 2011-12, ac, fel Gweinidog Cyllid, yn ogystal â Gweinidog llywodraeth leol, mae hon yn drefn y bwriadaf ei dilyn eto wrth i’r Cynulliad hwn fynd rhagddo.
Ddirprwy Lywydd, mae newidiadau i'r gyllideb yn digwydd yn y ddau gyfeiriad. Mae'r newid yn y trefniadau ar gyfer cofrestru’r gweithlu addysg wedi arwain at dalu £ 1 filiwn o'r setliad a ddarparwyd ynghynt er mwyn gwneud cymorthdaliadau i ffioedd cofrestru athrawon. Mae'r rhan fwyaf o'r newidiadau, fodd bynnag, wedi ychwanegu at yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.
Roedd y gyllideb derfynol, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos ddiwethaf, yn darparu £ 10 miliwn yn ychwanegol er mwyn cydnabod yr heriau ariannol penodol sy'n codi oherwydd darpariaeth gofal cymdeithasol, gan gynnwys pwysau ar y gweithlu. Mae hyn yn ychwanegol at y £ 25 miliwn a gyhoeddwyd yn wreiddiol, a oedd yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol lleol cryf yn llwyddiant hirdymor y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac yn cydnabod y pwysau cynyddol sy’n wynebu’r gwasanaethau cymdeithasol.
Fel y gŵyr yr Aelodau, drwy gyhoeddiadau a wnaed cyn y Nadolig, bydd swm ychwanegol o £10 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi annomestig yn 2017-18 yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â'r £ 10 miliwn a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer y cynllun rhyddhad dros dro. Cytunwyd ar y mecanwaith ar gyfer defnyddio’r nawdd ychwanegol hwn trwy drafod â Phlaid Cymru. Caiff ei gyflwyno trwy’r awdurdodau lleol a’i dargedu at fusnesau’r stryd fawr a’r sector lletygarwch.
Ochr yn ochr â'r setliad, cyhoeddais yr wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau grant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am nawdd cyfalaf awdurdodau lleol wedi ei ryddhau hefyd. A chymryd y flwyddyn nesaf ar ei hyd, unwaith yn rhagor ni fu gostyngiad mewn nawdd cyfalaf cyffredinol, sy’n dal i fod yn £143 miliwn.
Fel y gŵyr yr Aelodau, er mai’r setliad heb ei neilltuo yw'r ffynhonnell unigol fwyaf o nawdd sydd ar gael i awdurdodau, nid honno yw’r unig un. Wrth iddyn nhw osod eu cyllidebau a lefelau eu treth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwyf yn disgwyl i bob awdurdod ystyried yr holl ffrydiau ariannu sydd ar gael a meddwl sut y gallen nhw sicrhau’r gwerth gorau er budd trethdalwyr Cymru drwy ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon, a defnyddio cyngor diweddaraf Swyddfa Archwilio Cymru yn eu hamgylchiadau arbennig.
Rydym yn cynnig cryn hyblygrwydd i awdurdodau yng Nghymru, nad yw ar gael i'w cymheiriaid yn Lloegr. Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu iddyn nhw ymarfer hunanlywodraeth ac egwyddor wrth reoli eu materion ariannol. Yn gyfnewid am hyn, mater iddyn nhw yw llunio eu cyllidebau yn gyfan, gan gyfuno adnoddau sydd ar gael yn genedlaethol â refeniw a godwyd yn lleol.
Ddirpwy Lywydd, mae hwn yn setliad teg ar gyfer llywodraeth leol mewn cyfnod heriol ac yn rhoi cyfle i awdurdodau ganolbwyntio ar y newidiadau mawr a fydd yn ofynnol i reoli'r lleihad mewn nawdd yn y cyfnod hwy.
Ailadroddaf y neges yr wyf wedi ei rhoi i bob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a'u partneriaid ers y gyllideb ddrafft gyffredinol ym mis Hydref: nawr yw'r amser i gynllunio ymlaen llaw yn bendant ac yn ddibaid ynglŷn â’r penderfyniadau hynny sydd eu hangen i wneud dewisiadau anos ac wynebu'r cyfnodau caletach sydd o'n blaenau yn y dyfodol. Yn y cyfamser, ac ar gyfer y flwyddyn nesaf, gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig ger eu bron y prynhawn yma.