7. 5. Debate by Individual Members under Standing Order 11.21(iv): Contaminated Blood

Part of the debate – in the Senedd at 4:01 pm on 25 January 2017.

Alert me about debates like this

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:01, 25 January 2017

(Translated)

It’s a pleasure to participate in this important debate this afternoon. There is unanimity on this issue. May I start by acknowledging the work of the cross-party group here in the Assembly, chaired by Julie Morgan? I thank her for her opening remarks. Of course, I also thank Haemophilia Wales and Lynne Kelly for all the support that they’ve provided and their very strong evidence, their very passionate evidence, provided in the meetings that we have attended over these past few months.

Efallai fy mod wedi sôn o’r blaen wrth fynd heibio fy mod wedi bod yn feddyg teulu yn Abertawe dros y 32 mlynedd diwethaf.

‘Cynhyrchion gwaed a fewnforiwyd o’r Unol Daleithiau sydd wedi achosi’r problemau. Tuedda cynhyrchion gwaed yr Unol Daleithiau ddod o garchardai. At hyn, caiff pobl eu talu am gyfrannu gwaed yn yr Unol Daleithiau, ac felly mae grwpiau perygl uchel, megis rhai sydd yn gaeth i gyffuriau, yn tueddu i gymryd rhan. Ni fu unrhyw un o Lywodraethau’r DU yn hunan-gynhaliol o ran cynhyrchion gwaed. Addewidwyd y nod hwnnw gyntaf yn 1945, ond nid ydym wedi ei gyflawni o hyd. Mae hepatitis C yn gyflwr arwyddocáol ac ni ddylid ei ddiystyru fel mân haint. Gall ymosod ar yr iau, a gallai fygwth bywyd. Gall hyd at 80 y cant o’r sawl a heintiwyd ddatblygu afiechyd iau cronig, gall hyd at 25 y cant, yn ôl rhai astudiaethau, ddatblygu sirosis yr iau, ac mae perygl y gall hyd at 5 y cant ddatblygu canser yr iau.’

Mae angen diweddaru rhywfaint o’r wybodaeth honno, gan mai’r tro cyntaf i’r geiriau hynny gael eu clywed oedd gan fy nghyd-Aelodau Cynulliad ar y pryd pan gynheliais ddadl fer yn y Cynulliad ar 8 Mawrth 2001—8 Mawrth 2001. Yr un mater—ymchwiliad cyhoeddus, iawndal. Mae ein pobl yn dal i ddioddef. Roeddwn yn cymryd tystiolaeth bryd hynny gan bobl sydd wedi marw bellach, yn anffodus—Haydn Lewis, Gareth Lewis—roeddent yn rhan o’r ymgyrch, a siaradais yn hir â hwy. Dyna oedd ffrwyth y ddadl rwyf newydd ei dyfynnu o’r Cofnod 16 mlynedd yn ôl. Nid oes dim wedi newid i’r bobl ar lawr gwlad yma yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Jane Hutt oedd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, ac fe atebodd fedrus. Roeddem mewn Siambr wahanol. Mae’r ddadl yr un fath, sy’n ddigon i’ch gwylltio—yr un fath. Rydym wedi clywed hanes ymchwiliad Archer. Rydym wedi clywed am yr holl anghyfiawnder sy’n mudferwi. Oherwydd mae hwn yn anghyfiawnder sy’n mudferwi. Mae’n rhaid i ni gael yr ymchwiliad cyhoeddus llawn hwnnw. Mae’n gywilyddus fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi osgoi’r mater, wedi gwrthod mynediad at bapurau, gan obeithio y bydd y mater yn diflannu a bod pobl yn marw. Nid dyna’r ffordd i redeg llywodraeth yn y Deyrnas Unedig. Mae gennym i gyd hanesion am deuluoedd sy’n dioddef: gweddwon ifanc gyda phlant ifanc mewn tlodi am fod y tad wedi marw yn anffodus o ifanc oherwydd cynhyrchion gwaed halogedig fel person hemoffilig; pobl sy’n byw gyda hepatitis C, nad ydynt yn ffit i weithio—cosb gydol oes o flinder ac anhwylder aruthrol ac eithafol—ynghyd â’r risgiau y soniais amdanynt bron i 16 mlynedd yn ôl yma. Ni allwch gael sicrwydd yswiriant bywyd na diogelu morgais, ac eto ni allwch ychwaith gael iawndal digonol yn sgil rhywbeth nad yw’n fai arnoch chi. Rydym yn llusgo ar ôl yr Alban, rydym yn sicr yn llusgo ar ôl Gweriniaeth Iwerddon—buom yn siarad am yr angen am iawndal yma i’n pobl yng Nghymru ers blynyddoedd. Rydym yn disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet newid y sefyllfa honno, gan fod gennym bobl sy’n byw mewn tlodi heb fod unrhyw fai arnynt hwy.

Felly, mae angen i ni roi iawndal digonol i deuluoedd. Rwy’n dweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig: mae’n hen bryd i hyn ddigwydd, mae’n hen bryd sicrhau cyfiawnder—cynhaliwch ymchwiliad cyhoeddus llawn i drasiedi cynhyrchion gwaed halogedig. Nid yw ‘sgandal’ yn air rhy gryf. Mae anferthedd y dioddefaint wedi mynd heb ei gydnabod yn rhy hir—mae’n enfawr.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, fel yr oeddwn yn falch 16 mlynedd yn ôl i gymryd rhan mewn dadl debyg. Cynhaliwch yr ymchwiliad cyhoeddus hwnnw yn awr. Diolch yn fawr.