5. 3. Statement: Local Government Reform

Part of the debate – in the Senedd at 3:02 pm on 31 January 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:02, 31 January 2017

(Translated)

Thank you very much, Llywydd. In October, I set out the broad parameters of a way forward on local government reform. Today, I have published for consultation a White Paper, ‘Reforming Local Government: Resilient and Renewed’. I am grateful to those in this Assembly, in local government and in wider public service who have offered significant help in refining the original proposals. This engagement has shown a shared commitment to greater regional working. It has helped to confirm those areas where a more systematic approach to regional working would benefit people and communities, and support the local government workforce to deliver essential public services.

The proposals in the White Paper are the outcome of this shared endeavour. They reflect the many discussions held with leaders, members and officers across all local authorities and their partners in other public services and in the voluntary sector. The White Paper sets out proposed arrangements for regional working; a strengthened role for councils and councillors; a framework for any future voluntary mergers; and an outline of the way forward for community councils.

My starting point has always been the vital importance of good local government here in Wales. We need local government to be resilient and be able to work with citizens and other public services to create sustainability for the future. Those who work in local government, or represent it, want the same thing. This requires more progress on collaborative working.

Yn y cyd-destun hwnnw, Lywydd, y mae’r Papur Gwyn yn adeiladu ar yr ymagwedd ddeublyg a nodwyd yn natganiad mis Hydref. Mae'n cadarnhau'r bwriad i fandadu gweithio rhanbarthol ar gyfer cynllunio trafnidiaeth strategol, rhai swyddogaethau cynllunio defnydd tir a datblygu economaidd, ac yn cynnig y dylid cyflawni’r cyfrifoldebau hyn ar y tri ôl troed a gynrychiolir gan ranbarthau presennol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Un o nodweddion calonogol y trafodaethau ers mis Hydref yw bod awdurdodau lleol eu hunain wedi nodi ystod ehangach o wasanaethau sy'n addas i’w cyflawni ar lefel ranbarthol. Ym mis Hydref, roedd cydbwysedd y cyngor yn ffafrio mandadu olion troed y byrddau iechyd ar gyfer cyflawni dibenion fel gwella addysg, diogelu'r cyhoedd a gwasanaethau cymdeithasol yn rhanbarthol. Mae'r drafodaeth fanylach wedi amlygu pryderon y gallai glynu’n gaeth at ôl troed y byrddau iechyd ar gyfer gwasanaethau eraill olygu darnio unedau mwy o gydweithio sydd eisoes yn bodoli, neu rwystro datblygiad trefniadau newydd ar raddfa fwy.

Mae'r Papur Gwyn felly yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol i gytuno ar olion traed ar gyfer y dibenion hyn sydd wedi’u mandadu. Byddai’r dewis hwnnw yn gweithredu o fewn fframwaith a bennir gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o gael gwared ar orgyffwrdd a hyrwyddo symlrwydd. Bydd hyblygrwydd dan arweiniad yn osgoi'r angen am newid trafferthus i drefniadau rhanbarthol sefydledig ac effeithiol, gan greu posibilrwydd o drefniadau mwy arloesol pan fo hynny'n briodol. Mae'r adroddiad iaith, gwaith a gwasanaethau dwyieithog a gomisiynwyd gan fy rhagflaenydd, er enghraifft, yn argymell datblygu strategaeth ieithyddol-gymdeithasol ar gyfer siroedd Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Gallai hyblygrwydd o ran trefniadau gwaith rhanbarthol ganiatáu inni ystyried dull o'r fath, ac rwy'n edrych ymlaen at wneud mwy i archwilio hyn a phosibiliadau eraill yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Lywydd, gadewch imi droi yn awr at fater llywodraethu. Mewn trafodaethau manwl ers mis Hydref, mae cydbwyllgor statudol cryfach, neu bwyllgor cydlywodraethu, wedi dod i'r amlwg fel y model llywodraethu a ffefrir. Mae'r Papur Gwyn yn cynnig y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu i greu llwyfan cyffredin cyson a chadarn y byddai pob awdurdod lleol yn gweithredu arno, gan roi sail statudol i waith y pwyllgorau cydlywodraethu hyn.

Rwyf hefyd yn bwriadu manteisio ar y cyfle a gynigir gan y Papur Gwyn hwn i gynnig rhoi darpariaeth ar gyfer awdurdodau cyfun ar y llyfr statud. Bydd hyn yn sicrhau bod y pwerau angenrheidiol wedi eu sefydlu os bydd awdurdodau lleol yn dangos y byddai dull awdurdod cyfun yn helpu i gyflawni ein hamcanion cyffredin yn y dyfodol.

Mae'r Papur Gwyn yn amlinellu ffordd o ddefnyddio model cyfuno cyfraniadau i ariannu'r trefniadau rhanbarthol. Bydd eisiau i’r Aelodau hefyd fod yn ymwybodol fy mod i’n bwriadu cyhoeddi datganiad ysgrifenedig y prynhawn yma i ymdrin â'r agenda ddiwygio ehangach o ran system cyllid llywodraeth leol.

Lywydd, dylwn dynnu sylw at un agwedd arall ar y Papur Gwyn sy'n ymwneud â mwy o gydweithio. Mae'r ddogfen yn amlinellu cyfres o gamau gweithredu i gyflymu cynnydd awdurdodau lleol o ran rhannu gwasanaethau cefn swyddfa. Mae hwn yn faes lle mae cynnydd wedi bod yn anghyson a lle mae'n debygol y bydd potensial i wella effeithlonrwydd, cydnerthedd ac ansawdd gwasanaethau; mae’n rhaid inni ddechrau manteisio ar hyn.

Cyn belled ag y mae cynghorau cymuned dan sylw, mae'r Papur Gwyn yn tynnu sylw at y rhan bwysig y maen nhw’n ei chwarae mewn rhai rhannau o Gymru gan gydnabod yr amrywiaeth enfawr yn y trefniadau presennol. Fel y cyhoeddwyd ym mis Hydref, rwy’n bwriadu cymryd camau i gefnogi cynghorau cymuned i fod yn fwy effeithiol yn y tymor byr, ond rwyf hefyd yn bwriadu comisiynu adolygiad annibynnol cynhwysfawr o'r sector. Bydd hwn yn llywio trafodaeth am ddyfodol cynghorau cymuned a beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio'r trefniadau presennol a’u gwneud yn nodweddiadol o'r system yn ei chyfanrwydd.

Lywydd, mae’r Papur Gwyn yn disgrifio sut yr ydym yn bwriadu bwrw ymlaen â’r agweddau hynny ar y Bil drafft llywodraeth leol, a gyhoeddwyd yn 2015, a gafodd gefnogaeth eang, fel darparu pŵer cymhwysedd cyffredinol, dull newydd o wella perfformiad a strategaethau i ymgysylltu’n well â’r cyhoedd. Rydym wedi ail-lunio’r cynigion hynny ac eraill, fodd bynnag, i daro eglurder newydd ar nodau cyffredin, gan ddarparu hyblygrwydd i awdurdodau lleol i benderfynu sut i gyflawni’r amcanion cyffredin hyn. Mae'r dull hwn i’w weld, er enghraifft, yn ein cynigion i roi pwerau i'r awdurdodau lleol i ddewis rhwng gweithredu drwy system lywodraethu â chabinet neu bwyllgor, neu i benderfynu beth yw’r ffordd orau o roi gwybod i’w hetholwyr am weithgareddau cynghorwyr. Mae'r Papur Gwyn hefyd yn gwahodd barn gychwynnol am gyfres o ddiwygiadau i'r trefniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys mesurau i wella cofrestru pleidleiswyr a phleidleisio, fel cofrestr Cymru gyfan a phleidleisio drwy'r post neu’n electronig, yn ogystal â gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol i 16. Rwyf hefyd yn ceisio barn am gyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol ganiataol i alluogi prif awdurdodau i ddewis mabwysiadu naill ai system etholiadol cyntaf i’r felin neu system pleidlais sengl drosglwyddadwy, gan fod Bil Cymru wedi cwblhau ei daith drwy'r Senedd erbyn hyn. Rwy'n bwriadu ymgynghori ymhellach am y pecyn hwn o fesurau yn ddiweddarach eleni.

Lywydd, mae diwygio yn hanfodol er mwyn i awdurdodau lleol fod yn ariannol gadarn a gallu cynnal a gwella ansawdd eu gwasanaethau. Mae'r cynigion yn y Papur Gwyn hwn â’r nod o ddarparu’r cydnerthedd hwnnw a ffurfio perthynas newydd rhwng llywodraeth genedlaethol a lleol a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae wedi bod yn nod imi ers imi ddod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i adeiladu consensws ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Rwy’n ddiolchgar iawn i'r rhai yr wyf wedi siarad â nhw, gan gynnwys aelodau o bleidiau eraill yn y Siambr hon. Bydd llawer ohonynt, rwy’n gobeithio, yn adnabod eu cyfraniadau a'u hawgrymiadau yn y Papur Gwyn ei hun, wrth iddo geisio llunio dyfodol dichonadwy a llwyddiannus i lywodraeth leol yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn yr Aelodau y prynhawn yma.