Part of the debate – in the Senedd at 3:16 pm on 31 January 2017.
May I thank Sian Gwenllian for her comments this afternoon and for the opportunity to speak to her over the past months, when we were endeavouring to develop on what’s in the statement to the Assembly this afternoon? Just to say something on the final point that she raised on the Welsh language—there are many issues in the White Paper referring to the Welsh language, and how we can collaborate in the local authorities for the benefit of the Welsh language and future planning. The White Paper alludes twice to Rhodri Glyn Thomas’s report—in chapter 2 of the White Paper. The White Paper is silent on whether that should be mandatory—bringing the county councils together, as Rhodri Glyn referred to, as regards economic development. But, of course, the White Paper is up for discussion and to collate the views of the people from those local authorities to see what they thought was the best way forward for the future.
Ynglŷn â nifer o'r pwyntiau eraill a wnaeth Siân Gwenllian, Lywydd, rwy’n cytuno â hi, wrth gwrs, bod y Papur Gwyn, yn y bôn, yn rhoi dyfarniad ynglŷn â fframweithiau polisi cenedlaethol a materion y mae’n well eu gadael i awdurdodau lleol eu hunain, gan eu bod yn deall eu poblogaethau lleol a'u hanghenion yn well. Credaf fod y Papur Gwyn hwn yn ailfwrw'r berthynas honno o blaid yr awdurdodau lleol eu hunain. Fy agwedd i at hyn yw y dylem weithio'n galed gydag awdurdodau lleol fel partneriaid allweddol i gytuno ar amcanion allweddol, ac yna mae'n rhaid inni fod yn gwbl ymrwymedig i’r amcanion hynny, a gwrthod cael ein taro oddi ar y llwybr. Ond yn aml mae awdurdodau lleol eu hunain mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniadau am sut y gellir cyflawni’r amcanion hynny. Mae'r Papur Gwyn yn adlewyrchu’r meddylfryd hwnnw.
Rwy’n cytuno â hi hefyd bod y mater o gymhlethdod wedi bod yn un yr ydym wedi brwydro yn ei erbyn drwy gydol y broses hon. Rwy'n credu bod yna ffyrdd y gallwn helpu aelodau'r cyhoedd i ddeall sut y mae penderfyniadau sy'n bwysig iddynt yn cael eu gwneud, ble maent yn cael eu gwneud, a sut y gall pobl ddylanwadu ar y penderfyniadau hynny pan eu bod yn dymuno ymgysylltu â nhw. Rwy'n meddwl y bydd swyddogaeth aelodau etholedig yn arbennig o bwysig yn y dyfodol. Rwy'n credu y bydd yn waith newydd ac arwyddocaol y byddwn yn disgwyl i aelodau etholedig gynorthwyo aelodau'r cyhoedd i ddeall y dirwedd newydd, i fod yn eiriolwyr drostynt, ac i wneud yn siŵr bod ganddynt arweiniad arbenigol i ddeall ble mae penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud. Yn bersonol, nid yw syniad meiri etholedig erioed wedi apelio ataf fi, ond mae darpariaeth ar y llyfr statud ar hyn o bryd sy'n caniatáu profi hynny â phoblogaethau lleol lle ceir awydd i wneud hynny.
Yn olaf, o ran y cynnig am gynrychiolaeth gyfrannol ganiataol, rwy’n ymdrin â hynny yn yr un ffordd yn union, Lywydd, ag yr wyf wedi ceisio llunio gweddill y Papur Gwyn hwn: drwy roi penderfyniadau yn nwylo awdurdodau lleol eu hunain. Nid wyf yn credu ei fod yn fater lle bydd un dull yn addas i bob awdurdod lleol, ond yn union fel yr ydym ni yn y Cynulliad hwn yn mynd i allu gwneud penderfyniadau am sut i ethol y Cynulliad hwn yn y dyfodol, rwyf hefyd yn credu ei bod yn deg rhoi’r gallu hwnnw i awdurdodau lleol hefyd fel y gallant hwy eu hunain wneud y penderfyniad hwnnw yn eu hamgylchiadau lleol gyda'u dealltwriaeth leol ac y gallant raddnodi’r ffordd o ymdrin â materion mewn ffordd sy'n adlewyrchu’r ddealltwriaeth leol.