Part of the debate – in the Senedd at 4:29 pm on 1 February 2017.
I will point out, and I’m sure you’ll forgive me, the irony of a Conservative Member talking about the need to invest in social care at a time when we have seen so many cuts. Although, of course, I have noted that the party here in the Assembly perhaps takes a different approach. There are finite budgets, of course, and I’ll help the Government out in those terms, but one of the things that, hopefully, we’ll be able to do in this debate today is say that it’s not just about how much money that goes in, it’s what we do with that money in order to achieve better outcomes. But, of course, I agree, the more money that can be found to deal with increasing demand is something that is going to have to be addressed as we move forward.
Rwy’n mynd i ganolbwyntio rŵan ar ofalwyr. Mae gofalwyr, rydw i’n meddwl, wedi dioddef mewn dwy ffordd yn y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw wedi dioddef oherwydd y newidiadau lles ar lefel y Deyrnas Unedig—ac mae’n ddrwg iawn gen i, Janet Finch-Saunders, am dynnu sylw unwaith eto at ffaeleddau’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Mae’r effaith y mae’r cwtogiadau wedi’u cael, rydym ni’n gwybod, yn rhywbeth y mae’r Aelodau yn fan hyn yn ymwybodol iawn ohonyn nhw. Ond maen nhw hefyd wedi dioddef oherwydd perfformiad gwael mewn nifer o feysydd yma. Mae gofal ysbaid yn un penodol. Mae yna ostyngiad wedi bod o 24 y cant yn nifer y nosweithiau o ofal ysbaid sydd ar gael, ac mae’r gofal ysbaid yma yn bwysig iawn. Yn aml iawn, dyna ydy’r gwahaniaeth rhwng rhywun yn gallu cynnal cyfrifoldebau gofalu neu beidio.
Rydym ni’n gwybod o arolwg diweddar fod dwy ran o dair o ofalwyr wedi rhoi’r gorau i weithio neu wedi lleihau eu horiau er mwyn gofalu, a bod hanner y gofalwyr wedi cael trafferthion ariannol o ganlyniad i hynny. Mae 55 y cant yn dweud bod eu hiechyd corfforol nhw wedi gwaethygu a bron i hanner y gofalwyr yn dweud bod eu hiechyd meddwl nhw wedi gwaethygu—y ganran uchaf yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ac rydw i’n gobeithio y byddwn ni i gyd yn bryderus ynglŷn â hynny. Mae hanner y gofalwyr hefyd—mae hwn yn ystadegyn—wedi gadael i’w problemau iechyd eu hunain fynd heb gael eu trin oherwydd y pwysau sydd arnyn nhw fel darparwyr gofal eu hunain. Felly, mae’r ysbaid yma’n hanfodol. Nid yw, yn sicr, ddim yn help bod llai o welyau mewn ysbytai cymunedol ar gael rŵan, fel un opsiwn ar gyfer cynnig y math yna o ysbaid. Fe rown ni ragor o sylw i hynny yn nes ymlaen.
Mae’n mynd yn waeth. Mae Gofalwyr Cymru wedi cyhoeddi eu monitor nhw o berfformiad ers y Bil gwasanaethau cymdeithasol. Dyma maen nhw wedi’i ganfod: nid yw 17 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gallu rhoi unrhyw ddata ar faint o ofalwyr sy’n cysylltu efo nhw dros y ffôn, y rhyngrwyd, neu yn bersonol, am wybodaeth, cyngor neu gymorth. Nid yw’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwybod faint o ofalwyr maen nhw wedi’u cyfeirio at sefydliadau eraill. Fe wnaeth Gofalwyr Cymru, Carers Wales, ddarganfod nad yw 16 allan o’r 22 awdurdod yn gallu dweud faint o bobl roedden nhw wedi’u cyfeirio ymlaen at sefydliadau eraill. Mae angen i ni gael y math yma o ddata. Nid yw anghenion gofalwyr o leiafrifoedd ethnig yn cael eu hystyried o hyd ac nid oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ar fyrddau lleol, grwpiau llywio, pwyllgorau na fforymau. Mi oedd yna amrywiaeth sylweddol yn faint o asesiadau gofalwyr yr oedd pob awdurdod lleol wedi’u cynnal, rhywbeth a oedd yn bwysig iawn fel rhan o’r Bil. Ac, o’r bobl a wnaeth gwblhau’r arolwg, nid oedd 80 y cant wedi cael cynnig asesiad anghenion gofalwyr—tipyn o syndod o ystyried y ffaith fod y bobl hynny a wnaeth gwblhau’r arolwg eisoes wedi nodi eu bod nhw yn ofalwyr, ac rydym ni’n gwybod beth mae’r Ddeddf yna yn ei ddweud.
Felly, mae’n rhaid i ni gryfhau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mi fydd fy nghyd-Aelodau fi yn siarad y prynhawn yma am rai o’r camau rydym ni’n credu y dylai gael eu cymryd, gan gynnwys, fel y dywedais i yn gynharach, yr angen i ddadwneud y broses yma o golli gwelyau mewn ysbytai cymunedol. Ond mae cymaint o wahanol elfennau i’r darlun cyflawn o ofal cymdeithasol mae’n rhaid sicrhau nad oes yr un ohonyn nhw’n cael eu gadael ar ôl. Rydw i’n edrych ymlaen at y ddadl ac ymateb y Gweinidog. Rywsut, mae angen cyfundrefn gofal cymdeithasol arnom ni sy’n fwy gwydn ac yn fwy cynaliadwy at y dyfodol, lle bydd yna fwy o bwysau a mwy o alw amdano fo.