8. 6. ‘Securing Wales' Future’: Transition from the European Union to a New Relationship with Europe

Part of the debate – in the Senedd at 4:22 pm on 7 February 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 4:22, 7 February 2017

(Translated)

Thank you, Llywydd. I move the motion.

Ar 24 Ionawr, cyflwynais i'r Siambr ein Papur Gwyn, 'Sicrhau Dyfodol Cymru'. Mae'n gosod blaenoriaethau Cymru wrth inni nesáu at drafodaethau’r DU i ymadael â'r UE. Rwyf i wedi bod yn falch â’r gefnogaeth y mae Aelodau o wahanol bleidiau ac eraill yn ehangach wedi ei rhoi i'r papur hwnnw. Mae'n dangos pa mor llawn a chyflym yw’r agenda bod rhai datblygiadau eithaf arwyddocaol wedi digwydd yn y bythefnos ers hynny. Heb fod mewn trefn benodol, rydym ni wedi gweld adroddiad defnyddiol iawn gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar effaith gadael yr UE, dyfarniad gan y Goruchaf Lys na châi Llywodraeth y DU ddefnyddio uchelfraint frenhinol i alw erthygl 50 i rym, rydym ni wedi gweld cyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion yma yng Nghaerdydd, cyflwyno Bil y DU i ganiatáu i Lywodraeth y DU danio erthygl 50, ymrwymiad annisgwyl gan y Prif Weinidog i Bapur Gwyn gan Lywodraeth y DU, ac, yn fuan wedi’r cyhoeddiad hwnnw, cyhoeddi’r Papur Gwyn hwnnw. Ond, yn anffodus, yr hyn yr ydym yn dal i aros amdano yw esboniad clir a manwl o beth yw safbwynt Llywodraeth y DU mewn gwirionedd. Mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU yn gam bach i'r cyfeiriad hwnnw, ond rwy’n dal i ofni nad yw Llywodraeth y DU eto wedi llunio strategaeth gynhwysfawr ar gyfer sut i ymdrin â'r heriau sydd o'u blaenau a pha fath o daith y maen nhw’n dymuno mynd arni. Nid wyf wedi gweld llawer o dystiolaeth o roi sylw i'r materion hyn.

Fel erioed, mae pob datblygiad yn ateb rhai cwestiynau ac yn codi llawer o rai eraill, ond mae un sicrwydd cyson yn hyn: fel yr wyf wedi’i ddweud droeon ers 24 Mehefin, mae'r DU yn gadael yr UE; mae’r ddadl honno drosodd. Ond hoffwn bwysleisio eto mai fy swyddogaeth i yw arwain Llywodraeth Cymru a siarad â Llywodraeth y DU ar ran Cymru i sicrhau'r canlyniad gorau i bobl Cymru. Ar y cyfan, rwy'n hyderus iawn y bydd y safbwyntiau a'r egwyddorion a nodwyd gennym yn y Papur Gwyn bythefnos yn ôl yn parhau i fod yn berthnasol iawn drwy gydol y trafodaethau. Rydym wedi eu cyfleu mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Heb fradychu cyfrinachedd, mae'n deg dweud bod Llywodraeth y DU, ac yn enwedig yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, wedi dweud yn glir eu bod yn rhannu llawer o'n hamcanion ni. Lywydd, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau yn awr wedi cael cyfle i'w hystyried yn fanwl ac y byddan nhw’n eu gweld fel sail gadarn i gefnogi'r penderfyniad.

Felly, gadewch imi nodi ein blaenoriaethau unwaith eto, a byddaf yn cyfeirio at safbwynt Llywodraeth y DU ble y gallaf.

Yn gyntaf, gadewch imi ailadrodd ein prif flaenoriaeth economaidd. Mae angen inni gadw mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl. Mae’r mynediad hwnnw’n allweddol i ddenu a chadw buddsoddiad, mae'n hanfodol i gynifer o swyddi—ac, yn arbennig, i gynifer o swyddi medrus iawn sy’n talu’n dda yma yng Nghymru —mae'n sylfaenol i'n dyfodol economaidd, felly pam y byddem ni eisiau cerdded i ffwrdd oddi wrthi?