Part of the debate – in the Senedd at 6:18 pm on 7 February 2017.
I’m very pleased to have an opportunity to take part in this very important debate and to congratulate those who have brought this White Paper, ‘Securing Wales’ Future: Transition from the European Union to a new relationship with Europe’, into existence, on both sides: in Labour and Plaid Cymru. Also, I’d like to congratulate several contributors this afternoon on the maturity of the debate that we have had here: Steffan Lewis particularly, but also Eluned Morgan, Hannah Blythyn, Julie Morgan—I could continue; and even David Melding. I congratulate you all—and also Leanne Wood and Simon Thomas. But, I only have five minutes, so I’ll stop there naturally.
Rydym wedi clywed llawer am barchu canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin, ac rydym yn gwneud hynny. Nid yw’r ddadl ynghylch sbarduno erthygl 50 yn ymwneud ag ailgynnal yr ymgyrch refferendwm honno—mae honno wedi hen fynd heibio; mae'n ymwneud â chael cynllun manwl i adael Ewrop. Dyna beth mae'r ddadl hon yn ymwneud ag ef.
Mae llawer wedi cael ei ddweud am yr angen i iachau cymdeithas ranedig. Dylai iachau—ac rwy’n gwybod ychydig am iachau—ond dylai iachau ar ran Llywodraeth y DU, awgrymaf, fod ar ffurf parchu barn y 52 y cant yn naturiol ac, ar yr un pryd, gwneud eich gorau i ddarparu ar gyfer y 48 y cant, gan nad yw ymorchestu cyfresol yn arbennig o annwyl nac yn iachaol. Rhwbio trwynau’r 48 y cant a bleidleisiodd ‘aros’ yn barhaus ynddo oherwydd eu bod wedi colli, drwy wthio yn awr ar gyfer y Brexit caletaf posib: sut mae hynny yn iachau cymdeithas ranedig? Siawns y byddai Brexit meddal, yn nes at farn y 48 y cant, gan barchu barn y 52 y cant, yn ateb y diben. Gwneud y gorau o'r gwaethaf. Huw.