Part of the debate – in the Senedd at 4:06 pm on 8 February 2017.
Thank you, Deputy Presiding Officer. It’s a pleasure to move amendments 2 and 3 in the name of Plaid Cymru. May I thank the Conservatives for bringing this debate forward this afternoon? I don’t think we discuss FE often enough—in the Chamber, anyway. I don’t think that FE is covered as much as it should be, and I think this is an important opportunity for us. Perhaps we’re all guilty of a lack of equal respect in what we’re trying to achieve for the sector as compared to academic education. This is certainly an opportunity for us to air some aspects of this issue.
I’m disappointed that the Conservatives won’t support our second amendment, amendment 3, because reference was made to a consensus around Hazelkorn. Well, what we say to all intents and purposes emerges from what Hazelkorn said, and there’s a need to move to a better balance of competition and regulation—that’s what the Hazelkorn report says. But we can have that debate on another occasion in the course of the debate around that piece of work.
Nawr, rwy’n dod o genhedlaeth, wrth gwrs—neu roedd fy rhieni’n dod o genhedlaeth—pan oedd addysg yn ymwneud â chael eich lefelau O. Oeddwn, roeddwn yn y flwyddyn ddiwethaf a safodd arholiadau lefel O. Rydych yn cael eich lefelau O, rydych yn cael eich Safon Uwch, rydych yn mynd i brifysgol ac rydych yn cael eich gradd. I fod yn gwbl onest, nid wyf wedi gwneud llawer o ddefnydd ymarferol o’r radd a gefais heblaw ei glynu ar cv i ddweud fy mod wedi cael gradd. Ond nawr fy mod yn dad—. O, peidiwch â dweud hynny wrth fy narlithwyr. Rwy’n gweld ychydig o ddarlithwyr yn edrych arnaf—. Dyna ni. Ond gan fy mod bellach yn dad, wrth gwrs, ac mae’r hynaf yn mynd drwy’r ysgol uwchradd, rydych yn dechrau meddwl am y dewisiadau sydd allan yno ac yn sydyn, wrth gwrs, fe fyddwch yn sylweddoli, o fod yn dod o gefndir o’r math hwnnw fy hun, lle roeddech ond yn gweld un cyfeiriad, fod yna ehangder—llu—o gyfleoedd allan yno, rhywbeth nad yw’n cael ei werthfawrogi’n gyffredinol rwy’n siŵr, yn sicr gan bobl ifanc, buaswn yn dychmygu, i’r graddau y buasem i gyd yn dymuno. Yn aml iawn, mae’n cymryd rhywbeth go syfrdanol i wneud i chi sylweddoli mewn gwirionedd nid yn unig yr opsiynau sydd yno, ond gwir werth llawer o’r opsiynau hynny, o’i gymharu efallai â’r canfyddiad a oedd gan rai ohonom yn y gorffennol ynglŷn â chael gradd—os ydych am gamu ymlaen, fe gewch radd.
Un o’r eiliadau hynny y llynedd oedd y gwaith a wnaeth Ymddiriedolaeth Sutton—ymchwil i botensial ennill cyflog graddedigion prifysgol o gymharu â phrentisiaid—a ganfu y gall prentisiaid uwch ddisgwyl ennill miloedd yn fwy yn ystod eu hoes na llawer o israddedigion, yn enwedig o brifysgolion nad ydynt yn perthyn i Grŵp Russell. Canfu’r adroddiad y bydd y rhai sy’n dewis astudio ar gyfer prentisiaeth uwch lefel 5 yn ennill £1.5 miliwn yn ystod eu gyrfa, yn fwy na graddedigion o rai o’r prifysgolion hynny, a allai ddisgwyl ennill £1.4 miliwn. Felly, mae prentisiaethau uwch ar lefel 5 yn arwain at fwy o enillion dros oes na graddau israddedig ac wrth gwrs, heb lawer o’r ddyled sydd, yn anffodus, yn aml iawn yn dod gyda gradd addysg uwch. Mae potensial ennill cyflog prentisiaeth uwch ar lefel 3 yn dal i fod ychydig yn well na rhywun sydd â Safon Uwch yn gymhwyster uchaf. Rydym wedi clywed llawer am fanteision cyffredinol addysg bellach, ac rydym yn gwybod eu bod yn helaeth, wrth gwrs. Ond mae’r canfyddiad yn dal yno—yn rhy gryf, rwy’n credu—ynglŷn â gwerth addysg bellach o gymharu ag addysg uwch. Cafodd hynny ei danlinellu eto mewn arolwg YouGov y llynedd: roedd 68 y cant o’r farn mai addysg uwch oedd yr opsiwn gorau, a 7 y cant yn unig o bobl 18 i 24 oed a ystyriai mai prentisiaethau oedd yn iawn ar eu cyfer hwy, a dywedodd 51 y cant o oedolion y buasent yn hoffi i’w plentyn gael addysg uwch, o’i gymharu ag 20 y cant a ffafriai brentisiaeth. Nawr, rwy’n gwybod fy mod yn siarad llawer am brentisiaethau, ac mai rhan fechan o addysg bellach yw hynny—rwy’n derbyn hynny’n llwyr—ond rwy’n credu eich bod yn cael y pwynt rwy’n ceisio ei wneud.
Felly, yn amlwg, mae angen hyrwyddo gwell—yn niffyg gair gwell—ar fanteision addysg bellach a llwybr galwedigaethol. Mae angen hyrwyddo parch cydradd, yn sicr mewn perthynas â’r cynnig hwn o’n blaenau heddiw. Mewn gwirionedd rwy’n gobeithio y gallai hynny fod yn etifeddiaeth bwysig i’r Cynulliad hwn, ac efallai i’r Gweinidog, ein bod yn symud yn fwy pendant i’r cyfeiriad hwnnw. Nawr—rwyf wedi dychryn, mewn gwirionedd, mai 30 eiliad yn unig sydd gennyf ar ôl. [Torri ar draws.] Ie. Felly, Hazelkorn: fel y cydnabuwyd yn y datganiad yr wythnos diwethaf, mae amryw o sectorau a darparwyr yn cael eu rheoleiddio a’u hariannu mewn ffyrdd gwahanol gan wahanol gyrff, ac mae mathau newydd o ddarparwyr wedi dod i’r amlwg yn ogystal, wrth gwrs. Mae’n arwain at gystadleuaeth ddi-fudd, ddywedwn i, rhwng darparwyr addysg, ac mae angen strategaeth gliriach a chydlynu gwell arnom. Dyna yw byrdwn ein hail welliant wrth gwrs. Cefais fy nghalonogi gan y datganiad yr wythnos diwethaf, ond mae angen hyrwyddo’r agenda hon a chreu momentwm y tu ôl i hyn, a bydd y ddadl hon, gobeithio, yn ein helpu i gyflawni hynny.