Part of the debate – in the Senedd at 5:12 pm on 15 February 2017.
Thank you, Llywydd, and thank you to all contributors this afternoon for the wide range of contributions that have been very thoughtful. If you had told the version of me 10 years ago that I would be standing here as a proud gay man on the floor of the Assembly in Wales, he would have been shocked and would have been frightened. Frightened at the shame that the 10-year-old version of me would have felt. That’s a long time ago now.
Finding out that I was a gay man in a very close Welsh community at the beginning of the 1980s wasn’t a very pleasant experience. I didn’t have any gay role models, no discussion, no awareness, no support, only a sense of being isolated. So, when people say, ‘Well, it’s not news anymore that we have politicians who are gay’—well, no, fair enough, but we should all take the opportunity, when we can, to shed light on those who are still battling, and some are still doing this, and offer some hope to the family, parents, neighbours and friends who are seeking comfort, or seeking the right words to say, or just an opportunity to raise the subject. So, it’s excellent to have an opportunity to talk here and to acknowledge the role of the LGBT community in our history and in Wales today.
Mae’r ddadl hon heddiw yn ymwneud â gwerth sylfaenol cymdeithas wâr, sef cydraddoldeb. Mae cydraddoldeb yn anwahanadwy. Fy mrwydr i am gydraddoldeb yw eich brwydr chi dros gydraddoldeb. Efallai mai ni yw’r Aelodau Cynulliad agored hoyw cyntaf yng Nghymru, ond rwy’n aml yn edrych yn ôl ar y gwleidydd agored hoyw cyntaf y bydd llawer ohonom yn ei gofio: Harvey Milk, a oedd yn aelod cynulliad yn San Francisco ar ddiwedd y 1980au. Rhoddodd araith bwysig am werth gobaith:
Yr unig beth sydd ganddynt i edrych ymlaen ato yw gobaith. A rhaid i chi roi gobaith iddynt. Gobaith am fyd gwell, gobaith am well yfory, gobaith am le gwell i ddod iddo os yw’r pwysau gartref yn rhy fawr. Gobaith y bydd popeth yn iawn. Heb obaith, nid yn unig y mae’r hoywon, ond y bobl dduon, yr henoed, yr anabl, y ‘ni-oedd’.
Bydd y "ni-oedd" yn rhoi’r gorau iddi.
Mae cydraddoldeb yn anwahanadwy. Nid rhywbeth ar gyfer pobl sydd wedi brwydro’n gyhoeddus iawn dros eu cydraddoldeb yn unig ydyw: pobl dduon, yr henoed, yr anabl y soniodd Harvey Milk amdanynt. Mae’n cynnwys y ‘ni-oedd’ hefyd—pob un ohonom. Rydym yma i ddathlu gwahaniaeth heddiw, ac mewn sawl ffordd, rydym i gyd yn wahanol. Weithiau, mae’r gwahaniaeth hwnnw’n cael ei ddeall yn well. Weithiau, mae’r gwahaniaeth hwnnw’n anos i’w oddef nag ar adegau eraill. Roedd yna adeg pan oedd bod wedi ysgaru, bod yn fam sengl, cael wyron hil gymysg yn achosion cywilydd a gwahaniaethu. Hyd yn oed heddiw, mae yna stigma mawr a gwahaniaethu, ynglŷn â sgyrsiau agored am iechyd meddwl, dyweder. Lle y gwnaed cynnydd, ni fuasai wedi digwydd heblaw bod pobl ddewr, pobl ymrwymedig, wedi ymladd. Maent wedi gwrthod eistedd yng nghefn y bws. Siaradodd Jonathan Sachs, y cyn-brif rabi, am urddas gwahaniaeth—ein bod yn rhoi gwerth ar ein gilydd, nid yn unig oherwydd yr hyn sydd gennym yn gyffredin, ond oherwydd ein bod yn adnabod rhywbeth yn ein gilydd nad yw gennym ni. Mae urddas gwahaniaeth o’r fath dan fygythiad yn y byd heddiw.
Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â’r hyn y dewiswch falio yn ei gylch—y cwestiynau y dewiswch eu gofyn, nid a ydych yn rhoi’r ateb cywir i’r cwestiwn pan fydd rhywun yn ei ofyn i chi. Mae cryn dipyn o gefnogaeth yn y Siambr hon i gydraddoldeb LHDT+. Mae cryn dipyn o gefnogaeth yn San Steffan. Ond gan mai Mis Hanes LHDT yw hwn, efallai y maddeuwch i mi sôn am un atgof. Roeddwn i’n byw yn Llundain yn y 1990au cynnar pan oedd gorymdeithiau Pride yn orymdeithiau yn erbyn y Llywodraeth am orthrwm yn erbyn y gymuned LHDT. Nid dim ond Llywodraeth nad oedd yn ariannu’r rhaglenni iawn neu’n dweud y pethau cywir oedd hi. Pan oeddwn yn fy arddegau, roedd hi’n Llywodraeth a oedd nid yn unig yn goddef gwahaniaethu, ond a oedd wedi mynd ati’n weithredol i ddyfeisio ffyrdd newydd ac arloesol o wneud bywydau pobl hoyw yn llai goddefadwy. Felly, heddiw, rwyf am ddiolch i’r holl bobl a frwydrodd dros hawliau yr ydym yn eu mwynhau heddiw ac sydd wedi arwain drwy esiampl. Rydym wedi cofio am lawer ohonynt heddiw yn y Senedd.
Rwy’n falch o fod yn Aelod Cynulliad dros Onllwyn, a dyna ble y seiliwyd y ffilm ‘Pride’. Clywsom heddiw am Dai Donovan, a weithiodd gyda Grŵp Cefnogi Glowyr Cymoedd Nedd, Dulais a Thawe i ddod â’r LGSM—Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr—i Gwm Dulais. Fel y gwnaeth Vikki, hoffwn gydnabod gwaith Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn rhoi cydraddoldeb LHDT ar yr agenda gyhoeddus yn y 1980au. Hoffwn gydnabod gwaith Llywodraeth Lafur 1997, wedi’i chefnogi gan bleidiau blaengar eraill, a ysgubodd ymaith lu o gyfreithiau gwahaniaethu a chyflwyno llawer o’n hawliau cyfartal. Wrth wneud hynny, crewyd hinsawdd wleidyddol i lawer o Geidwadwyr allu mynegi eu cefnogaeth i hawliau LHDT yn ogystal.
Ond nid gwlad heb wahaniaethu yn ei deddfau yw’r pen draw mewn cymdeithas wâr. Dyna’r man cychwyn. Mae gennym lawer ar ôl i’w wneud o ran newid agweddau. Heddiw, rwy’n teimlo bod gennym ffordd bell i fynd, er enghraifft, yn ein hagweddau tuag at y gymuned drawsrywiol. Rydym yn bell o weld agweddau teg ac iach yno. Hoffwn gydnabod gwaith Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, sydd wedi cael ei grybwyll eisoes heddiw, am y gwaith sy’n mynd rhagddo ar symud yr agenda iechyd yn ei blaen i bobl drawsrywiol, a’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru oedd y sylfaen ar gyfer hynny.
Mae yna bobl heddiw sy’n gwylio’r ddadl hon sy’n dal i aros am gydraddoldeb—yn ymarferol, os nad yn y gyfraith. Byddant yn aros ac yn gwylio am anogaeth, ac am ymrwymiad gwleidyddol. Ein gwaith, fel y dywedodd y gwleidydd dewr wrthym am ei wneud, yw rhoi gobaith iddynt.