6. 6. Statement: Innovative Finance: The Mutual Investment Model

Part of the debate – in the Senedd at 4:32 pm on 28 February 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:32, 28 February 2017

(Translated)

Llywydd, thank you very much. The Welsh Government has a long track record of funding infrastructure investment in Wales through our capital budget. Targeted investment in infrastructure is amongst the most important interventions a Government can make to support sustainable growth and job creation. In addition to increasing economic output and promoting higher levels of employment, investment in infrastructure also improves the efficiency of public services. Since devolution, we have invested in a new generation of hospitals, schools, housing and public infrastructure, and we will continue to do so.

In October, in the draft budget, I was able to lay out four-year capital spending plans. We have ambitious plans to build a metro system for south Wales, to create 20,000 more affordable homes, to upgrade our road network and to complete our programme of modernising our school estate. We will do this at a time when our capital budget has been cut as a result of the UK Government’s ongoing programme of austerity. By the end of this decade, we will have 21 per cent less funding available for infrastructure, in real terms, than we had in 2009. This means that we need other sources of funding to support our capital programme.

Yn y cyd-destun hwnnw, Lywydd, y nododd Llywodraeth flaenorol Cymru ei hymrwymiad i archwilio ffyrdd arloesol o gyllido seilwaith cyhoeddus. Ers hynny, mae offerynnau ariannol arloesol eisoes wedi’u defnyddio i gynyddu buddsoddiad mewn trafnidiaeth, tai ac addysg o £0.5 biliwn. Un o'r rhesymau ein bod ni wedi gallu ariannu'r buddsoddiad ychwanegol hwn yw oherwydd nad yw Cymru wedi cael ei hamlygu i gynlluniau Menter Cyllid Preifat ar raddfa fawr. Mae ein hamlygiad i gost cynlluniau o'r fath yn llai nag 1 y cant o'n cyllideb refeniw—swm cymharol fach o'i gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Lywydd, cyn canolbwyntio ar y model buddsoddi cydfuddiannol, hoffwn roi’r model hwnnw yng nghyd-destun camau arloesol eraill, a fydd yn galluogi gwerth £1.5 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol i gael ei wneud yn seilwaith cymdeithasol ac economaidd Cymru yn ystod y chwe blynedd nesaf. I ddechrau, bydd y Llywodraeth yn gwneud defnydd llawn o'n pwerau benthyca cyfalaf newydd. Ar ôl pennu ein gallu i fenthyca fel £500 miliwn yn wreiddiol o dan Ddeddf Cymru 2014, bydd yn codi i £1 biliwn o dan delerau'r fframwaith cyllidol, y cytunwyd arno gyda Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr. Byddwn hefyd yn darparu cynlluniau cyllid arloesol pellach mewn partneriaeth â rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn y gyllideb derfynol, roeddwn yn gallu dyrannu gwerth £3.6 miliwn o refeniw i ymestyn y grant cyllid tai llwyddiannus. Bydd y dyraniad newydd, rheolaidd hwn yn codi i £9 miliwn yn 2019, gan arwain at werth oddeutu £250 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol mewn tai cymdeithasol a fforddiadwy, gan gynhyrchu o leiaf 1,500 o gartrefi tuag at darged uchelgeisiol y Llywodraeth hon o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Yn ogystal â darparu refeniw i gynorthwyo landlordiaid cofrestredig yn y modd hwn, rydym hefyd yn dod â nhw at ei gilydd i wella eu grym benthyca. Gallaf gadarnhau heddiw fod cais am fenthyciad wedi cael ei wneud ar ran landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i Fanc Buddsoddi Ewrop. Mae hyn yn dilyn cyfarfodydd a gynhaliwyd gydag is-lywydd y banc, yma yng Nghaerdydd ddechrau mis Chwefror, i drafod y cais hwn. Rydym yn disgwyl penderfyniad terfynol gan y banc ym mis Mehefin eleni.

Ar yr un pryd, rydym hefyd yn cwblhau trefniadau ar gyfer y rhaglen rheoli risg arfordirol. Bydd cyllid refeniw rheolaidd gwerth mwy na £7 miliwn y flwyddyn yn arwain, erbyn 2020, at werth tua £150 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol mewn mesurau atal llifogydd, gan amddiffyn busnesau a chartrefi yng Nghymru. Bydd y rhaglen newydd yn ategu'r £33 miliwn ychwanegol o gyfalaf confensiynol a ddyrannwyd ar gyfer gweithgareddau amddiffyn rhag llifogydd yn y gyllideb derfynol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.

Nawr, Lywydd, er bod yr holl ymdrech hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mhob rhan o Gymru, ceir set o ddibenion cyhoeddus hanfodol sydd angen ymateb ychwanegol o hyd. Mae datganiad heddiw felly yn nodi sut y caiff tri phrosiect cyfalaf mawr eu cyflwyno trwy fath newydd o bartneriaeth cyhoeddus-preifat, y model buddsoddi cydfuddiannol, wedi’i lunio yma yng Nghymru. A gaf i hefyd gydnabod y cyfle i drafod y syniadau hyn yn y pwyllgor cyswllt ar gyllid rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, ac ychwanegu at y gronfa o syniadau sydd ar gael i ni yng Nghymru yn y modd hwnnw?

Bydd y tri chynllun—cwblhau’r gwaith o ddeuoli’r A465 o Ddowlais Top i Hirwaun, canolfan ganser newydd Felindre, a darparu cyfran sylweddol o fuddsoddiad yng ngham nesaf rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—gyda'i gilydd, yn gyfystyr â gwerth tua £1 biliwn o fuddsoddiad newydd. Cynlluniwyd y model buddsoddi cydfuddiannol yn ofalus i hybu budd y cyhoedd ac i amddiffyn y bunt gyhoeddus. Rydym ni wedi gweithio'n agos gydag ystadegwyr yn Eurostat a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a chydag arbenigwyr ym Manc Buddsoddi Ewrop, ers dros flwyddyn i sicrhau’r model hwn ac i wneud yn siŵr ei fod yn cyflawni buddion i Gymru. O dan ei delerau, bydd partneriaid sector preifat yn wynebu risgiau yn gysylltiedig ag adeiladu, cyllido a chynnal seilwaith cyhoeddus, ond yn wahanol i gytundebau Menter Cyllid Preifat hanesyddol, mae ein model ni yn caniatáu i'r sector cyhoeddus rannu unrhyw elw, yn eithrio’r ddarpariaeth o wasanaethau fel gwasanaethau glanhau ac arlwyo o’r contract, yn eithrio gwaith cynnal a chadw gwerth isel ac yn sicrhau’r tryloywder sydd ei angen arnom ynghylch costau a pherfformiad.

Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn cynnwys darpariaethau hirdymor gorfodol pwysig i sicrhau buddiannau cymunedol, er mwyn creu prentisiaethau a lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr yng Nghymru ac ar gyfer datblygu cynaliadwy, lle mae'r partner sector preifat yn cynorthwyo’r ddarpariaeth o Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae'n ymgorffori ein hymrwymiad i god cyflogaeth moesegol ac yn ein galluogi i sicrhau cymaint o fanteision â phosibl o’n harferion caffael cynaliadwy. Mae'r model hefyd yn galluogi'r llywodraeth i ddylanwadu ar y partner preifat dethol er mwyn sicrhau bod budd y cyhoedd yn cael ei warchod. Pan fyddwn yn buddsoddi mewn cynlluniau, bydd y dylanwad hwn yn cael ei arfer gan gyfarwyddwr budd y cyhoedd, ac mae hyn yn ddatblygiad pwysig ar yr hyn a sicrhawyd mewn modelau partneriaeth cyhoeddus-preifat eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn sicrhau tryloywder cadarn o ran cael gafael ar wybodaeth ar lefel bwrdd, ochr yn ochr ag amrywiaeth o faterion a gedwir yn ôl i ddiogelu arian cyhoeddus a budd y cyhoedd.

Y mis nesaf, ar 23 Mawrth, ynghyd â chydweithwyr yn y Cabinet, byddwn yn cynnal digwyddiad i lansio’r model buddsoddi cydfuddiannol i ddarpar bartneriaid, y cam pwysig nesaf ymlaen yn natblygiad y rhaglen newydd ac angenrheidiol hon o fuddsoddiad cyfalaf. Lywydd, mae mabwysiadu’r model buddsoddi cydfuddiannol a’n hofferynnau ariannol arloesol eraill yn dangos sut y mae'r llywodraeth hon yn parhau i weithredu'n bendant ac fel catalydd ar gyfer newid o dan amgylchiadau anodd. Bydd y mesurau hyn yn arwain at fuddsoddiad ychwanegol o tua £1.5 biliwn mewn seilwaith cyhoeddus, sy'n cynrychioli cydbwysedd priodol rhwng uchelgais a fforddiadwyedd, na fyddai wedi cael ei wneud fel arall. Cymeradwyaf y model i'r Cynulliad.