Part of the debate – in the Senedd at 4:52 pm on 28 February 2017.
I welcome the Cabinet Secretary’s statement, for the reasons he himself has referred to, namely, of course, the severe reduction in the amounts of capital funding available for investment because of the decline in the funds that we receive from London, and also, of course, the opportunity that capital expenditure on infrastructure represents for building the Wales we want, but also in boosting the economy at a very difficult time.
It was good to have the opportunity to discuss in general terms, without going into the details that you’ve just heard, with the Cabinet Secretary, and also to go with him to attend a presentation with the vice-president of the European Investment Bank in Velindre—one of the exciting projects that will hopefully be instigated as a result of this.
May I ask him, in terms of the detail, what the difference is between the solution that the Welsh Government has devised to this question of recategorisation through the ONS compared to the solution that the Scottish Government has introduced, namely the hub, which provides 60 per cent of a share for the private sector and then a 40 per cent share between the Scottish Futures Trust, a charity and the public sector? Is there a maximum that he would anticipate for the profit share that the public sector could own in Wales, in light of the fact that Eurostat has set out in some detail what impact various percentages would have in terms of this issue of recategorisation?
Er y croesewir y datganiad hwn yn gyffredinol, dylid croesawu unrhyw symudiad tuag at ehangu ein gallu i fuddsoddi mewn seilwaith ac unrhyw symudiad tuag at arloesi, o ran ein dull o ymdrin â’r cwestiwn hwn. Ond ni fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn synnu o wybod y byddwn yn ei annog i fynd ymhellach o lawer na hyn oherwydd iddo gyfeirio at y ffaith, wrth gwrs, yn yr Alban, fod cyfran bresennol y gyllideb a ddyrennir i gyllido refeniw ar gyfer dyledion hirdymor, tua 4.5 y cant o'u cyllideb. Cyfeiriodd at y sefyllfa bresennol, sef 1 y cant yn achos Llywodraeth Cymru. Mae gennym ni lawer mwy o botensial ac mae gennym ni botensial i wneud llawer mwy na’r hyn a gyhoeddwyd heddiw a gallwn wneud hynny trwy fod yn fwy arloesol eto.
Cyfeiriodd at Fanc Buddsoddi Ewrop. Beth am sefydlu un cyfatebol ar gyfer Cymru, a allai ddefnyddio—? Cyfeiriodd at y gwahaniaeth rhwng, wrth gwrs, cyfalaf a dalwyd i mewn a thanysgrifiad, sydd, wrth gwrs, yn caniatáu i'r cyfalaf a dalwyd i mewn, pan fydd wedi cronni, gael ei ddefnyddio i drosoleddu. Dyma mae Banc Buddsoddi Ewrop yn ei wneud—dyna beth mae pob banc buddsoddi yn ei wneud. Beth am ddefnyddio'r dull hwnnw i greu mwy fyth o allu i fuddsoddi? Ac, yn yr un modd, beth am ystyried—? Mae gennym ni’r grym i sefydlu bondiau i Gymru. Mae’r grym hwnnw gan Lywodraeth Cymru ac, yn wir, mae gan Lywodraeth yr Alban hefyd, ac mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn edrych o ddifrif ar y dull hwn. Felly, a allwn ni fod yn fwy arloesol, Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn gwneud y mwyaf o’r gallu a chael trafodaethau gyda rhai o gronfeydd pensiwn Cymru, er enghraifft, a allai fod yn gwneud mwy i fuddsoddi’n llwyddiannus yn ein cymuned?
Yn olaf, ar y cwestiwn o ddyfodol Banc Buddsoddi Ewrop, sydd dan amheuaeth—wel, os oes corff olynol i fod yn y DU, banc buddsoddi’r Deyrnas Unedig, beth am ddatblygu’r enw da am fod yn rhagorol o ran cyllid seilwaith trwy ddatblygu'r ystod o ddulliau yr wyf newydd gyfeirio atynt, fel y gallwn gyflwyno'r achos y dylai banc buddsoddi’r DU gael ei leoli yma yng Nghymru?