Part of the debate – in the Senedd at 4:20 pm on 1 March 2017.
I’m very pleased to say that Anglesey was the first education authority to turn entirely to comprehensive education at the beginning of the 1950s. So, again, there are successes and innovation in education that we can be proud of.
Lywydd, rwyf wedi paentio llun, gobeithio, o orffennol Cymru. Y cwestiwn yn awr yw sut rydym yn dysgu o’r profiad hwnnw ac yn adeiladu ar yr etifeddiaeth honno er mwyn paentio gweledigaeth o’r dyfodol a gwella perfformiad a rhagolygon mewn meysydd allweddol? Mae angen i ni allu troi at ein hanes, nid i ddod o hyd i esgusodion am berfformiad gwael, ond fel ysbrydoliaeth i wella ein perfformiad. Er mwyn ein presennol a’n dyfodol, rydym yn dweud, ‘Gall Cymru wneud yn well’.
Mae’n ymddangos fel ddoe, ond 20 mlynedd yn ôl, roedd gan fwyafrif bach o bobl yng Nghymru ddigon o hyder i bleidleisio ‘ie’ i’r syniad eu bod yn byw mewn gwlad sy’n haeddu cael llywodraethu ei hun. Ond hyd yn hyn, nid yw Llywodraethau datganoledig wedi gallu, er enghraifft, codi ein gwerth ychwanegol gros o gymharu â gweddill y DU. Nid ydynt ychwaith wedi meddu ar y pwerau neu’r uchelgais—y ddau o bosibl. Ar gyfer y wlad a welodd gymaint o arloesi technolegol, ac a arferai fod yn brif allforiwr adnoddau’r byd, ai dyma’r gorau y gallwn ei wneud?
Pam ein bod mewn sefyllfa ar Ddydd Gŵyl Dewi lle na all pobl yn y wlad hon ymfalchïo yn ein lefel o ffyniant ac yn ein lefelau o gyfoeth? Gallwn weld y dangosyddion hynny sy’n gyson yn peri pryder ar iechyd a’r safleoedd PISA ar gyfer addysg. Mae lefelau tlodi yn dal i fod yn enbyd o uchel. Ni allwn edrych yn ddiffuant i lygaid pobl yng Nghymru a dweud, ‘Ydym, rydym yn cyrraedd ein potensial’. Ond gadewch i ni symud tuag at amser pan fyddwn yn gallu gwneud hynny yn y dyfodol.
Mae 20 mlynedd yn ifanc i ddemocratiaeth, ond mae’n ddigon hir i ni gael Llywodraeth gyda gweledigaeth glir a gweledigaeth uchelgeisiol ynglŷn â ble rydym yn mynd. Roeddwn yn falch o faniffesto Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad y flwyddyn diwethaf—yn falch o’i syniadau ac yn falch o’i arloesedd. Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom yma i arloesi ac i ysbrydoli.
Gydag amser yn brin, fe drof at welliant y Llywodraeth. Ni fyddwn yn ei gefnogi, nid yn unig ar yr egwyddor ei fod yn dileu rhan fawr o’n cynnig, ond yr hyn a welaf yw gwelliant sy’n cael gwared ar dystiolaeth, ar ddata, am rai o’r heriau sy’n ein hwynebu mewn gwirionedd. Ni ddylai llywodraethau gilio rhag realiti, ac mewn gwirionedd, mae gwneud hynny’n rhwystro’r ffordd rhag gwella perfformiad.
Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw. Wrth ddathlu ein nawddsant, hyderaf ein bod i gyd yn awyddus i ddathlu’r gorau o Gymru—y gorau o’n ddoe a’n heddiw. Ond gydag asesiad gonest o’r sefyllfa yr ydym ynddi heddiw, gadewch i ni adeiladu gweledigaeth go iawn ar gyfer ein hyfory hefyd, ac na foed i ni byth dderbyn unrhyw beth nad yw’n cyrraedd ein potensial llawn.