Part of the debate – in the Senedd at 5:12 pm on 1 March 2017.
Could I thank everyone who’s taken part in this debate?
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Mae’r Gweinidog yn tynnu sylw at ble y mae’n credu ein bod yn gwneud yn dda. Mae’n iawn i ni ddathlu ein llwyddiannau. Mae’n iawn i ni dynnu sylw at lwyddiannau a chyflawniadau dynion a menywod cyffredin gwych yng Nghymru ar draws y cyhoedd a’r sectorau preifat.
Rwy’n falch o glywed y Gweinidog yn dweud y gellid gwneud rhagor, ond rwy’n clywed yr adlais o amgylch Cymru’n dweud, ‘Wel, gwnewch fwy felly’, oherwydd mae’r Llywodraeth, wrth gwrs, mewn sefyllfa lle y gallwch weithredu. Gall y Llywodraeth osod y naws ar gyfer y genedl. Gall y Llywodraeth osod y cyd-destun lle y gall uchelgais ac arloesedd, ac wrth hynny rwy’n golygu uchelgais ac arloesedd go iawn—. Gall osod y cyd-destun ar gyfer pan fydd hynny’n gallu dod yn norm, yn gallu dod yn rhagosodiad, a dyna rwy’n aros amdano gan y Llywodraeth.
Trof at sylwadau Jeremy Miles ar werth ychwanegol gros. Diolch i chi am ganolbwyntio ar werth ychwanegol gros. Rydych yn iawn nad dyna’r unig fesur ar unrhyw gyfrif, nad yw’n dweud y stori gyfan, ond er bod anghydraddoldebau wedi parhau yn y DU am gyfnod rhy hir—rydym yn cytuno ar hynny—nid ydym bob amser wedi dihoeni ar y gwaelod, pwynt a ailadroddwyd gan arweinydd UKIP yma. Rwy’n cael fy hun yn y sefyllfa anarferol o fod yn cytuno ag ef ar un sylw a wnaeth, sef ei fod yn credu, pe bai Cymru yn dewis mynd ar hyd llwybr annibynnol, y gallai ddod yn genedl lwyddiannus. Mae’n bryfoclyd, onid yw? Y gwahaniaeth yw bod hynny yn fy nghyffroi i a byddai’n well ganddo ef, er gwaethaf ei honiad, pe na bai hynny’n digwydd. Nid yw hynny’n ymddangos yn arbennig o resymegol i mi.
Ond yn ôl at y gwerth ychwanegol gros: fel cymharydd o ble rydym o’i gymharu ag eraill—cystadleuwyr, os mynnwch, yn ystyr bositif y term—mae’n arf defnyddiol iawn; mae’n ddilys iawn. Rwy’n falch ei fod wedi dweud na ddylem anwybyddu’r gwerth ychwanegol gros. Hoffwn ei atgoffa, wrth gwrs, fod gwelliant y Llywodraeth yn ceisio cael gwared ar ein cyfeiriad at y gwerth ychwanegol gros gan ei ddisodli â ffigurau diweithdra, fel pe bai hynny’n dweud y stori gyfan—rwy’n siwr y byddai’r Aelod yn cytuno nad yw’n gwneud hynny.
Diolch i Dai Lloyd, Llyr Gruffydd a Simon Thomas am fanylu ar rai o’n cynigion ynglŷn â lle y gallem fynd yn y dyfodol. Diolch i Paul Davies—ni fyddwn yn cytuno bob amser ar sut i gyrraedd ein nod fel cenedl, ond rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth i’n cynnig heddiw ac am y cytundeb fod angen rywsut i’r Llywodraeth osod y bar yn uwch.
Mae arnom angen uchelgais ac mae angen ewyllys wleidyddol os ydym yn mynd i adeiladu ar ein huchelgais ar gyfer Cymru sy’n iachach, yn gyfoethocach ac wedi’i haddysgu’n dda—dyna ymadrodd sy’n fy atgoffa o’n maniffesto ar gyfer y llynedd. Roedd maniffesto Plaid Cymru yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn sefyll dros Gymru gyfoethocach wedi’i haddysgu’n dda. Rydym yn falch o fod yn arloeswyr yn y blaid hon. Nid ydym am gael monopoli ar arloesedd, ond byddwn yn parhau i amlinellu ein gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer cyflawni’r uchelgais hwnnw. Gadewch i ni osod y bar yn uwch a gadewch i ni anelu amdano. Dydd Gŵyl Dewi hapus, bawb.