8. 4. Statement: Welsh in Education Strategic Plans — The Way Forward

Part of the debate – in the Senedd at 4:20 pm on 14 March 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:20, 14 March 2017

(Translated)

Thank you for your statement, Minister.

Rwy'n falch iawn eich bod wedi cyflwyno’r datganiad hwn heddiw, oherwydd byddwch chi’n gwybod cystal â minnau bod Comisiynydd y Gymraeg, Rhieni dros Addysg Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a llawer iawn o rai eraill—corws o leisiau, mewn gwirionedd—wedi mynegi eu pryderon am ansawdd a diffyg uchelgais cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg sydd wedi cael eu llunio gan awdurdodau lleol ar draws y wlad.

Rydym yn gwybod ein bod yn wynebu brwydr anodd. Gwelsom nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn gostwng rhwng cyfrifiad 2001 a chyfrifiad 2011, ac nid oes gennym ddigon o bobl ifanc mewn addysg cyfrwng Cymraeg i wrthdroi’r sefyllfa honno a chyflawni’r targed uchelgeisiol hwn—ac mae'n darged gwych yr ydym yn eich cefnogi gydag ef, Weinidog—sef cael miliwn o siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru. Nid ydym ni byth yn mynd i gyflawni’r targed hwnnw oni bai bod mwy o gamau gweithredu ar y cyd yn cael eu cymryd, gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, er mwyn cynyddu’r niferoedd hynny. Felly, er fy mod i’n croesawu'r ffaith eich bod wedi penodi Aled Roberts i gynnal yr adolygiadau cyflym hyn, rwyf yn meddwl tybed a yw dim ond gofyn i berson annibynnol ddod a bwrw golwg dros y pethau hyn mewn gwirionedd yn mynd i gyflawni o ran maint yr her sydd o'n blaenau.

Er enghraifft, rydym yn gwybod bod arnom angen mwy o leoedd gofal plant ar gyfer plant cyn oed ysgol sydd yn lleoedd cyfrwng Cymraeg, ac eto mae’n ymddangos nad oes unrhyw strategaeth yn cael ei gyflwyno gan y Llywodraeth i gyflawni cynnydd yn y ddarpariaeth honno. Rydym yn gwybod bod gennym broblemau, o ran dilyniant addysg pobl drwy gyfrwng y Gymraeg, o ran sicrhau darpariaeth ôl-16 mewn colegau addysg bellach ac, yn wir, mewn prifysgolion. Nawr, mae rhai camau sydd i’w croesawu yn cael eu cymryd yn y maes hwnnw. Mae gennym yr ehangiad posibl yng nghwmpas y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ystyried addysg bellach, ond mae'n mynd i olygu tipyn o adnoddau er mwyn i ni allu cyflawni hynny. Ond y sialens fwyaf o bell ffordd yw nad oes gennym ddigon o athrawon sy'n siarad Cymraeg yn y gweithlu addysgu, a bu gostyngiad, gostyngiad gwirioneddol, yn y niferoedd sy'n cyrraedd y gweithle. Felly, mae angen strategaeth lawer mwy cydlynol ar yr holl bethau hyn os ydym ni’n mynd i sicrhau bod gennym yr amgylchedd iawn i dyfu nifer y siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru i’r math o lefelau yr ydych chi a minnau yn dymuno eu gweld.

Nawr, rydych chi wedi cyfeirio at benodiad Aled Roberts. Fel y dywedais, rwy’n croesawu ei benodiad. Nid dyna’r unig beth y mae angen i chi ei wneud. Yn amlwg mae angen cymryd camau gweithredu ynghylch y meysydd eraill hyn hefyd. Rydych chi wedi dweud bod yr adolygiad hwn yn mynd i fod yn gyflym. Erbyn pryd ydych chi'n disgwyl y bydd yn gallu adrodd yn ôl? Oherwydd: nid ydym ni byth yn mynd i gyflawni’r targed hwn os ydym ni’n parhau i’w ohirio tan y tu hwnt i'r flwyddyn academaidd nesaf. Felly, a ydych chi’n disgwyl iddo gyflawni’r gwaith ac adolygu'r pethau hyn cyn yr haf, ac yna bod awdurdodau lleol yn cwblhau eu diwygiadau i’w Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg cyn yr haf? Gallaf weld eich bod yn nodio eich pen, felly byddaf yn edrych ymlaen at gadarnhad o hynny mewn ychydig funudau. A wnewch chi ddweud wrthym pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd—rwy’n sylweddoli bod eich cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn yr ystafell yn awr—yn enwedig o ran bwrsariaethau i annog mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg i'r gweithle? Oherwydd nid oes gennym system bwrsariaeth sy'n addas ar gyfer Cymru ar hyn o bryd. Nid yw’n ddigon deniadol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n dod i'r gweithlu addysgu, ac rwy’n dymuno gweld pa gamau penodol yr ydych chi’n mynd i’w cymryd i fynd i'r afael â hynny.

Fe wnaethoch gyfeirio at y cwricwlwm newydd. Mae hynny'n rhoi cyfle i ni wneud rhywbeth gwahanol, ond, ochr yn ochr â'r cwricwlwm newydd hwnnw, mae angen i ni weld continwwm yn cael ei ddatblygu er mwyn gallu asesu cynnydd o ran y Gymraeg ochr yn ochr ag un cymhwyster. Roedd hwn yn addewid a wnaed i bobl Cymru—y byddai yna un cymhwyster i asesu cymhwysedd pobl yn y Gymraeg. Nid wyf yn gwybod beth yw’r sefyllfa ynglŷn â hynny, ond byddai o gymorth mawr pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw i weld a oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud. Rwy'n cymryd yn ganiataol bod Cymwysterau Cymru yn rhan o’r broses benodol honno.

Yn ychwanegol at hynny, os ydym ni’n mynd i sicrhau bod mwy o rieni yn anfon eu plant i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn arbennig, mae angen iddynt gael cymorth i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg eu hunain. Felly, pam na allwn ni gael mwy o arian yn cael ei fuddsoddi mewn cyrsiau Cymraeg i oedolion? Nid oes digon o gyrsiau ar gael i bobl, ar hyn o bryd. Nid ydyn nhw bob amser ar gael gyda’r nos neu ar benwythnosau pryd y byddai pobl yn awyddus i fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Ac, a dweud y gwir, mae angen iddynt fod yn rhad ac am ddim os ydym ni’n mynd i annog y math iawn o amgylchedd i dyfu nifer y siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru. Nid yw hyn yn ymwneud â phobl ifanc yn unig; mae oedolion hefyd sydd eisiau dysgu’r iaith a'r her o ddysgu’r iaith a defnyddio'r iaith yn eu cymunedau lleol. Felly, tybed a wnewch chi ateb y cwestiynau hynny, Weinidog.