Part of the debate – in the Senedd at 4:56 pm on 14 March 2017.
Thank you, Llywydd. I move the motion.
Diolch i chi am y cyfle i esbonio cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cafodd y Bil Economi Ddigidol ei gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2016 gan Lywodraeth y DU. Nod Rhan berthnasol y Bil i’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, Rhan 5, yw gwella darpariaeth ddigidol y Llywodraeth trwy alluogi rhannu data i wella gwasanaethau cyhoeddus, mynd i'r afael â thwyll, rheoli dyled sy'n ddyledus i'r sector cyhoeddus mewn modd mwy cydlynol a gwella ystadegau swyddogol ac ymchwil. Byddwn yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol gefnogi’r darpariaethau hyn yn y Bil, gan fod manteision amlwg i’r cyhoedd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau hyn sy'n cyfiawnhau deddfu, ac, ar yr un pryd, yn darparu amddiffyniadau cyhoeddus angenrheidiol a hanfodol. Rwy’n cydnabod y ffordd gydweithredol y mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi gweithio gyda ni i ddatblygu darpariaethau a fydd yn caniatáu i Gymru ddatblygu ei dulliau ei hun, gan ddarparu ar gyfer system gyson a chydlynol ar draws y DU gyfan.
Credaf ei bod yn deg dweud, Lywydd, nad yw hynt y Bil trwy ddau Dŷ'r Senedd wedi bod yn rhwydd. Awgrymodd fy nghyd-aelod dros Orllewin Caerdydd, Kevin Brennan AS, sy’n arwain yr wrthblaid swyddogol ar y Bil, nad oedd y Bil yn barod i’w gyflwyno pan roddwyd caniatâd i wneud hynny. Yn ddiweddarach yn y broses, adroddodd Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ'r Arglwyddi gyfres o bryderon yn ymwneud â nifer o agweddau ar y Bil. Y canlyniad fu cyfres barhaus o ddiwygiadau i'r Bil ar bob cam o'i ystyriaeth, gan gynnwys y camau olaf. O ganlyniad, nu’n rhaid cyflwyno memorandwm atodol gerbron y Cynulliad, yn ychwanegol at y ddogfen wreiddiol, fel y nodwyd ym mis Tachwedd 2016.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am ei ddealltwriaeth o'r anawsterau hyn a’i ystyriaeth o’r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol ym mis Tachwedd. Roeddwn yn falch o gymryd y cyfle i egluro'r sefyllfa o ran hawliau dynol mewn gohebiaeth â Chadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, a nodaf nad yw’r pwyllgor wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad i gytuno’r cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.
Os mai dyna’r canlyniad, Lywydd, bydd yn sicrhau cyfres bwysig o bwerau newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i Weinidogion Cymru, a fydd â phwerau i wneud rheoliadau er mwyn pennu amcanion mewn cysylltiad â rhannu data at ddibenion gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac i enwi'r awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru y bydd y cymalau ar wella gwasanaethau cyhoeddus, mynd i'r afael â thwyll a rheoli dyled sy'n ddyledus i'r sector cyhoeddus, yn berthnasol iddynt. Bydd unrhyw reoliadau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, ac, felly, bydd yn destun craffu ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol.
Er bod Gweinidogion y DU yn cadw'r pŵer i bennu amcanion darparu gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, ceir arfer y pŵer hwnnw erbyn hyn dim ond mewn ymgynghoriad â Gweinidogion Cymru ar faterion sy'n effeithio ar Gymru a'r dyletswyddau cyfatebol sydd ar Weinidogion Cymru pan fyddant yn ceisio pennu amcanion gwasanaethau cyhoeddus. Gadewch i mi fod yn eglur bod yr holl bwerau hyn yn rhoi awdurdod ac yn rhoi caniatâd a cheir eu cymhwyso at ddibenion penodol yn unig. Un o’r dibenion a fyddai'n bwysig i Aelodau yn y Cynulliad hwn yw rhannu data i ddarparu mynediad awtomatig at gynlluniau sy'n rhoi gostyngiadau i filiau ynni pobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd ac, o ganlyniad i ddiwygiadau hwyr i'r Bil, mewn tlodi dŵr hefyd.
Nawr, Lywydd, fel y mae’r Bil wedi mynd rhagddo, un o’m prif bryderon fu sicrhau bod trefniadau diogelu llawn ac effeithiol o ran rhannu data. Mae hon yn agwedd ar y Bil sydd wedi cael ei chryfhau’n sylweddol yn ystod ei hynt drwy'r Senedd fel bod amddiffyniadau helaeth wedi eu cynnwys ynddo erbyn hyn. Mae'r ddeddfwriaeth yn gyson â Deddf Diogelu Data 1998 ac mae'n cyflwyno troseddau newydd am ddatgelu gwybodaeth yn anghyfreithlon. Mae'r Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol cyflwyno codau ymarfer statudol ar rannu data y mae'n rhaid ymgynghori â Gweinidogion Cymru arnynt. Mae fy swyddogion eisoes wedi gweld drafftiau o’r cod arfaethedig ac wedi gwneud sylwadau arnynt.
Hefyd, mae mesurau diogelwch cryf ar waith erbyn hyn yn narpariaethau pwysig hynny’r Bil sy’n galluogi awdurdodau cyhoeddus i rannu data at ddibenion ymchwil. Mae’n rhaid i’r data hynny i’w rhannu fod yn ddienw, ceir eu rhannu dim ond ag ymchwilwyr achrededig mewn cyfleusterau diogel, sy’n gwneud gwaith ymchwil er budd y cyhoedd. Mae’n rhaid i Awdurdod Ystadegau'r DU achredu'r rheini sy'n gobeithio gwneud defnydd o'r pwerau i sicrhau bod y rheini sy’n trin y data yn gwneud hynny at ddiben priodol a bod ganddyn nhw’r mesurau diogelu angenrheidiol ar waith.
Lywydd, rwy’n credu bod y rhain yn fanteision cyhoeddus y byddem ni eisiau eu gweld ar gael yng Nghymru. Nid oes gennym unrhyw gyfrwng deddfwriaethol yn ein rhaglen gyfredol a fyddai'n addas i gyflawni'r dibenion hyn, a chan fod y Bil hwn yn cwmpasu materion datganoledig a materion heb eu datganoli, bydd yn cyflawni cydlyniad o ran rhannu data rhwng cyrff datganoledig a chyrff heb eu datganoli. O gofio ein bod ni wedi sicrhau pwerau addas i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a mesurau diogelu angenrheidiol i’r dinesydd, byddwn yn gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig a rhoi cydsyniad deddfwriaethol y prynhawn yma.