Part of the debate – in the Senedd at 2:24 pm on 15 March 2017.
Thank you, Llywydd, for the opportunity to explain the rationale for proposing this Billon protecting historical place names, and for giving Members an opportunity to discuss the means by which the Bill may develop. Essentially, there is no protection now. I hope to use this debate to explain to members the very clear policy objective that I have in mind, to show that I have undertaken consultation with a range of organisations and experts in the field, to show that there is support for the Bill’s aims, and that there are a range of options open to us in being able to deliver against the policy objectives. I will also state how I believe that we can look to learn from international experiences in this field in developing the legislation.
Essentially, the purpose of the Bill is very simple—it is to protect historical place names in Wales, and to try and ensure that a key element of our local and national heritage is not lost. Members across the Chamber will be aware of the high-profile examples of historic place names that have been lost or have been at risk of being lost and have received media attention as a result—changing ‘Maes-llwch’ in Powys to ‘Foyles’, ‘Cwm Cneifion’ in Snowdonia to ‘Nameless Cwm’, and ‘Faerdre Fach’ farm near Llandysul, which is now promoted as ‘Happy Donkey Hill’ farm.
Fel mab ffarm, mae diwylliant amaethyddol yn bwysig i mi. Ac mae’n bwysig nodi bod gan bron pob cae ar ffermydd Cymru enw penodol hanesyddol—a phob craig a bryn, i’r perwyl hynny hefyd—ond bod llawer ohonynt nawr mewn perig o gael eu colli. Maen nhw ar hen fapiau ond nid o reidrwydd ar fapiau modern. Yn wir, ar draws Cymru, mae enwau ffermydd, caeau, tai hanesyddol, nodweddion naturiol a thirweddau yn cael eu colli. Yn aml, mae ein henwau lleoedd ni yn adlewyrchu topograffeg ardal, cysylltiad â pherson hanesyddol neu nodedig, cysylltiad â digwyddiadau yn y gorffennol, er enghraifft brwydrau fel Garn Goch yn Abertawe, lle collwyd lot o waed—dyna’r ‘coch’—neu gyfnodau, fel ymosodiadau, sydd wedi cael effaith ar hanes cymdeithasol-ddiwylliannol ac economaidd Cymru, a hefyd y cysylltiad â hanes diwylliannol lleoliad, er enghraifft cysylltiadau â thraddodiadau, diwydiant a chwedlau.
Mae colli’r enwau yma yn meddwl ein bod ni’n colli ein treftadaeth leol a chenedlaethol. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cydnabod pwysigrwydd yr enwau yma, ac mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, a gafodd ei gynnig gan y Llywodraeth, yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i—ac rwy’n dyfynnu nawr—
‘lunio rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.’
O ran cynnwys y rhestr hon, mae memorandwm esboniadol y Bil yn nodi:
‘Mae enwau lleoedd hanesyddol yn dystiolaeth werthfawr o ran hanes cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol. Mae enwau aneddiadau, tai a ffermydd, caeau a nodweddion naturiol yn darparu gwybodaeth am arferion amaethyddol y presennol a’r gorffennol, diwydiannau lleol, sut mae’r dirwedd wedi newid a chymunedau’r presennol a’r gorffennol. Maent yn dystiolaeth o ddatblygiad treftadaeth ieithyddol gyfoethog—yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill.’
Mae hyn yn adlewyrchu ein hanes dros y 2,000 o flynyddoedd diwethaf. Mae enwau Cymraeg, Lladin, Eingl-Sacsonaidd, Llychlynnaidd, Ffrengig, Normanaidd, Saesneg—maen nhw yna i gyd, ac unrhyw iaith arall rwyf wedi anghofio sôn amdani.
Mae’r rhestr genedlaethol hon yn y broses o gael ei chreu, gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn arwain ar y gwaith. Felly, mae diffiniad o enw hanesyddol yna’n barod. Mae gyda ni restr yn barod. Mae arbenigwyr penodol yn helpu gyda’r gwaith ac, ar y foment, mae mwy na 300,000 o enwau hanesyddol ar y rhestr yma. Mae angen gwneud yn siŵr bod y gofrestr yma yn ddibynadwy ac yn awdurdodol, ac wrth sicrhau hyn, fe fydd hi’n bosibl defnyddio’r rhestr hon fel sail i ddeddfwriaeth ychwanegol i ddiogelu a hyrwyddo’r enwau lleoedd hanesyddol sydd arni.
Yn dilyn y balot llwyddiannus ar 25 Ionawr eleni, fe wnaeth nifer o sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb mewn diogelu enwau lleoedd hanesyddol ddangos eu diddordeb i mi a'u cefnogaeth ar gyfer egwyddor gyffredinol ac amcanion polisi’r Bil. Rwyf wedi cysylltu ac ymgynghori gyda nifer o fudiadau ac arbenigwyr yn y maes, ac fel rhan o’r broses ymgynghori yma, penderfynwyd cynnal digwyddiad penodol i randdeiliaid ar 17 Chwefror, yma yn y Senedd. Roeddwn yn falch iawn gweld cymaint yn mynychu, gan gynnwys cynrychiolwyr ac unigolion o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr Arolwg Ordnans, Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae cefnogaeth i amcanion y Bil wedi ei derbyn wrth Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Mynyddoedd Pawb, Comisiynydd y Gymraeg ac amryw o unigolion eraill, gan gynnwys academyddion ac arbenigwyr yn y maes. Prif nod y digwyddiad i randdeiliaid yma ar 17 Chwefror oedd i drafod cwmpas y Bil, yr opsiynau o ran fframweithiau deddfwriaethol a chostau posibl y Bil. Fe wnaeth y trafodaethau hynny ddangos yn glir fod yna amrywiaeth o ffyrdd y gellid diogelu enwau lleoedd hanesyddol.
Mae’r sbectrwm yma yn cynnwys, ymysg eraill, sicrhau bod perchnogion tir yn ymwybodol o arwyddocâd hanesyddol eu henwau lleoedd; neu gyflwyno gofyniad i berchnogion tir neu gyrff cyhoeddus ymgynghori â chorff cyhoeddus penodol, neu gyrff cyhoeddus penodol, pan fyddant yn newid enw lle hanesyddol; neu ei gwneud yn ofynnol i berchnogion tir neu gyrff cyhoeddus ddefnyddio enwau lleoedd hanesyddol wrth baratoi gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd; neu, eto, gyflwyno cyfundrefn ganiatâd wrth fynd ati i newid enw lle hanesyddol; neu gyflwyno gwaharddiad cyffredinol ar newid enwau lleoedd hanesyddol; neu, yn olaf, gyfuniad o’r opsiynau gwahanol cynt, gan ddibynnu o bosibl ar y math o enw neu sefyllfa lle y gallai enw gael ei newid. Mae’n bwysig nodi bod dim diogelwch ar gael i enwau lleoedd hanesyddol ar y foment, ond am y ffaith eu bod nhw’n bodoli, neu yn mynd i fodoli ar y rhestr genedlaethol sy’n cael ei datblygu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Felly, byddai unrhyw un o’r opsiynau uchod, ar y sbectrwm, yn gam ymlaen.
Rwyf wedi gweithio yn agos â’r Gwasanaeth Ymchwil a gwasanaeth deddfwriaeth y Cynulliad dros y mis diwethaf, ac yn ddiolchgar tu hwnt iddynt oll am eu gwaith wrth i ni ddatblygu opsiynau ar gyfer y Bil. Yn dilyn y gwaith yma, rwy’n gwbl argyhoeddedig ei bod hi’n bosib i greu deddfwriaeth bositif yn y maes, ac hefyd o’r posibilrwydd o edrych at wledydd eraill a sut y maen nhw’n mynd ati i warchod enwau hanesyddol. Mae gwledydd fel Seland Newydd, er enghraifft, yn cydnabod pwysigrwydd enwau hanesyddol, ac wedi datblygu deddfwriaeth, ac felly mae yna botensial i ddysgu wrth eraill wrth i ni ddatblygu deddfwriaeth yma yng Nghymru. Yn amlwg, yn dilyn y bleidlais heddiw, rwy’n gobeithio y bydd gen i flwyddyn arall i ddatblygu’r Bil yma, ac i benderfynu ar fodel a strwythur o ddeddfwriaeth briodol. Rwy’n edrych ymlaen at wrando ac i gydweithio ag Aelodau ar draws y Siambr i sicrhau ein bod ni’n gallu datblygu’r ddeddfwriaeth yma. Yn wir, mae’r trafodaethau hynny eisoes wedi dechrau, ac roeddwn yn falch o gael cyfle i drafod y mater gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros ddiwylliant yr wythnos diwethaf, ac hefyd yr wythnos yma, a byddwn yn gobeithio gweld y trafodaethau hynny yn parhau wrth i’r Bil ddatblygu.
Mae gofyniad yn Rheol Sefydlog 26.91A(iv) i gynnal asesiad cychwynnol o unrhyw gostau neu arbedion sy’n deillio o’r Bil, ac mae cryn dipyn o waith wedi’i wneud i drio ystyried yr agwedd yma. Gan fy mod i’n ystyried ystod o opsiynau o ran sut y bydd y Bil hwn yn cael ei ddatblygu, daeth i’r amlwg yn ystod y digwyddiad rhanddeiliaid cychwynnol, a gynhaliwyd ar 17 Chwefror, y bydd cyfle i greu Bil na fyddai’n esgor ar effaith ormodol, ond a fyddai’n dal yn driw i egwyddor y bwriad o warchod enwau lleoedd hanesyddol Cymru. Mae hyn wedi’i nodi fel rhan o’r memorandwm esboniadol i’r Bil, sy’n cynnwys ysgrifennu canllawiau a gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth yn hysbys; sefydlu neu ddilysu rhestr gyfredol o leoedd ac enwau; unrhyw gostau ymgynghori a allai fod yn rhan o system weithredu a sefydlir gan y Bil a/neu gostau sy’n gysylltiedig â phrosesu ceisiadau am gydsynio ag enw lleoedd hanesyddol; gorfodi’r ddeddfwriaeth a chostau apeliadau/tribiwnlys; ac unrhyw ganlyniadau annisgwyl. Yn amlwg, byddai angen cyfathrebu’r newid statws a’r newidiadau o ran y gofynion sydd ar bobl sy’n berchen ar eiddo, neu’r sawl sy’n cael eu heffeithio gan y Bil. Mae amcangyfrif o’r costau yma ar gyfer Biliau tebyg ar gael, ond, wrth gwrs, bydd y gost wirioneddol yn dibynnu ar gymhlethdod y canllawiau a nifer y bobl neu sefydliadau y byddai angen cysylltu â nhw i’w hysbysu o’r newidiadau i ddeddfwriaeth.
Tra gallai’r dasg o sefydlu rhestr o enwau a lleoedd fod â chost sylweddol ynghlwm â hi, rwyf eisoes wedi nodi bod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 eisoes yn sicrhau bod yn rhaid i Weinidogion Cymru greu a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol Cymru. Byddaf felly yn archwilio pa mor dda y mae’r rhestr yn diwallu anghenion y Bil a gaiff ei ddatblygu. Byddai angen golygu ansawdd y wybodaeth ar y rhestr yma, ac ystyried a fyddai angen dilysu’r enwau ar y rhestr, neu gynnal gwaith pellach arnynt. Serch hynny, mae’r ffaith bod rhestr eisoes yn bodoli, a chyllid eisoes ar gael i greu’r rhestr, yn golygu na fydd y goblygiadau ariannol sy’n deillio o’r Bil yma yn fawr o gwbl. Mae potensial hefyd y gallai rhoi’r Bil hwn ar waith godi proffil rhestr gyfredol Llywodraeth Cymru ynghyd â’i disgwyliadau. O ganlyniad, gall fod mwy o alw i ychwanegu enwau at y rhestr.
Yn amlwg, byddaf yn ymgynghori yn eang yn ystod datblygiad y Bil er mwyn lleihau’r posibilrwydd y bydd canlyniadau anfwriadol yn dilyn, er enghraifft, costau ychwanegol ar sefydliadau ac unigolion. Rwy’n hynod ymwybodol o’r angen i reoli costau a biwrocratiaeth, ac wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth a’r wahanol opsiynau, byddaf yn pwyso a mesur yr angen i leihau’r gost gymaint ag y gellid a’r modd y gellid cyflawni amcanion y Bil hwn.
So, Llywydd, in summary, I am pleased to note that there is strong support for the Bill’s objectives from a number of external organisations and from key individuals within the field, and that there are a number of options open to us as we seek to develop the legislation. I would be keen to listen to Members from across the Chamber over the next year in developing the Bill, and I look forward to hearing what Members have to say on the subject today as that conversation begins. Diolch yn fawr.