Part of the debate – in the Senedd at 3:49 pm on 21 March 2017.
Thank you very much, Deputy Presiding Officer. I’d like to start by thanking the Chairs and members of the Finance Committee and the Constitutional and Legislative Affairs Committee for their detailed scrutiny of this Bill throughout Stage 1. I’d also like to thank everyone who has been discussing this issue with us and has contributed to our ideas as we’ve developed this legislation on the landfill disposals tax. I believe that we are all agreed that we need to secure a new tax once the current arrangements lapse, in order to ensure that public services in Wales continue to benefit from the revenue raised by landfill tax post 2018.
Both committees have made a number of recommendations: 24 were made by the Finance Committee and 12 by the Constitutional and Legislative Affairs Committee, and I can accept the vast majority of these. Deputy Presiding Officer, as both committees have presented very detailed reports and have made a number of recommendations, it won’t be possible for me to respond to each and every one of them individually in the time available to me this afternoon. I have therefore written to the Chairs of both committees prior to this afternoon’s debate to reply to each and every one of those recommendations.
Ddirprwy Lywydd, cyn troi at rai o'r materion manwl a godwyd yn yr adroddiadau hynny, rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol dechrau'r prynhawn trwy fynd i'r afael â dau fater cyffredinol a godwyd mewn gwahanol ffyrdd gan y ddau bwyllgor. Mae'r cyntaf yn cyfeirio at y dull cyffredinol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru wrth lunio’r ddeddfwriaeth hon. Rwyf wedi dweud yn gyson, yn ystod y craffu ar y ddau Fil treth sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd, fy mod yn credu bod budd amlwg i'r cyhoedd mewn sicrhau bod y systemau yr ydym yn eu creu ar gyfer Ebrill 2018 yn gyfarwydd i'r rhai a fydd yn gorfod eu gweithredu yn ddyddiol ac yn diogelu’r refeniw y mae’r trethi hynny yn eu codi. Pan gyfeirir yn ein deddfwriaeth at berthynas gydag arfer sefydledig yn Lloegr neu'r Alban, nid yw hynny oherwydd unrhyw oedi wrth gyflwyno mesurau deddfwriaethol sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer Cymru. Mae oherwydd ein bod yn cymryd y cyngor diamwys gan y gymuned broffesiynol o ddifrif yn y maes hwn, sef bod sefydlogrwydd a sicrwydd yn hanfodol ar ddechrau'r dreth newydd hon ar gyfer parhad busnes, cynllunio busnes a hyder wrth wneud buddsoddiadau.
Nawr, lle gellir gwneud newidiadau i wella eglurder a darparu mwy o sicrwydd, neu warchod yn erbyn cam-drin, yna rydym wedi gwneud hynny. Dyna pam, Ddirprwy Lywydd, rwyf yn hapus i dderbyn y rhan honno o drydydd argymhelliad y Pwyllgor Cyllid i gyhoeddi cyfraddau treth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi erbyn 1 Hydref eleni er mwyn rhoi sicrwydd i drethdalwyr.
Mae’r ail bwynt cyffredinol yr oeddwn yn meddwl y byddwn yn ei wneud yn cyfeirio at y cydbwysedd gafodd ei daro yn y Bil hwn rhwng yr hyn sydd wedi ei osod mewn deddfwriaeth sylfaenol a'r hyn sydd ar ôl i fesurau eilaidd. Fy nod oedd rhoi cymaint â phosibl o fanylion a gweithrediad y dreth hon ar wyneb y Bil fel bod y manylion yn ymddangos mewn deddfwriaeth sylfaenol. Er ein bod wedi gweithio'n galed i sicrhau dilyniant, rydym hefyd wedi mynd ar drywydd nod hygyrchedd mewn modd systematig. Mae'r Bil yn tynnu ynghyd werth 20 mlynedd o ddeddfwriaeth y DU sydd wedi'u gwasgaru ar draws statudau sylfaenol ac eilaidd, yn ogystal â chanllawiau a hysbysiadau statudol. Yn anochel, mae dull sy'n anelu at roi cymaint â phosibl ar wyneb Bil yn golygu bod pwerau eilaidd yn ofynnol os bydd y gyfraith yn cael ei chadw'n gyfoes ac yn gallu diwallu anghenion y dyfodol. Er mai fy nod i oedd darparu sefydlogrwydd a pharhad ar y cychwyn, rwyf hefyd wedi bod yn awyddus i adeiladu’r Bil mewn ffordd sy'n caniatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn ddatblygu mwy o wahaniaethu polisi yn y dyfodol, pe digwydd bod dymuniad i wneud hynny.