7. 8. Debate: The General Principles of the Landfill Disposals Tax (Wales) Bill

Part of the debate – in the Senedd at 3:49 pm on 21 March 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:49, 21 March 2017

(Translated)

Nawr, gwn na fydd pob Aelod yn cytuno â'r cydbwysedd yr ydym wedi dod iddo yn y Bil, yn enwedig o ran y defnydd o bwerau Harri'r VIII. Ond rwyf am fod yn glir y prynhawn yma ynglŷn â’r rhesymeg sy'n sail i'n dull ni o weithredu. Mae'n adlewyrchu'r hyn, yn ein tŷb ni, yw’r cydbwysedd gorau sydd ar gael rhwng lefel uwch o ddarpariaeth fanwl ar wyneb y ddeddfwriaeth sylfaenol, a’r hyblygrwydd angenrheidiol a gaiff ei arfer o fewn gweithdrefnau craffu’r ddeddfwrfa, y mae pwerau eilaidd yn eu darparu.

Lywydd, mae angen i mi ymdrin yn gyflym â chyfres o argymhellion ar gyfer newidiadau i'r Bil yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn benodol. Ar yr amod bod cytundeb yn cael ei roi heddiw i symud y Bil hwn i'r cam nesaf, ac ar yr amod y gellir cwblhau’r gwaith cyfreithiol a drafftio angenrheidiol, rwy'n bwriadu cyflwyno, yng Nghyfnod 2, welliannau i gymryd cyngor y pwyllgor mewn cysylltiad â mynwentydd anifeiliaid anwes, gostyngiadau dŵr, defnyddio pontydd pwyso a gostyngiad yn y dreth mewn cysylltiad ag atal llifogydd. Byddaf yn gwneud hynny o fewn telerau fy ymateb ysgrifenedig i argymhellion 7, 9, 13 a 16 yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid.

Lywydd, cafwyd llawer o ddiddordeb yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun cymunedol i gefnogi’r ardaloedd hynny yr effeithir arnynt gan safleoedd tirlenwi, ac ysgrifennais at y Pwyllgor Cyllid ddoe i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ymatebion rhanddeiliaid i'r papur a gyhoeddais cyn y Nadolig. Mae'r pwyllgor wedi galw am ddarpariaeth mewn cysylltiad â'r cynllun cymunedol i gael ei chynnwys yn uniongyrchol yn y Bil. Rwyf wedi ystyried barn y pwyllgor a'r rhanddeiliaid yn ofalus, a byddaf yn awr yn gweithio i gyflwyno gwelliant y Llywodraeth i'r perwyl hwnnw, yn nes ymlaen ym mhroses y Bil.

Mewn cysylltiad ag argymhelliad 11 y Pwyllgor Cyllid, manyleb deunydd cymhwyso, mae angen cynnal trafodaethau pellach i brofi'r ymateb yr wyf yn bwriadu ei roi i farn y pwyllgor. Ar yr amod y gellir datrys rhai materion gwirioneddol gymhleth a thechnegol, unwaith eto rwy’n gobeithio gosod cynigion y Llywodraeth i ymateb i'r argymhelliad hwn yn ystod camau diwygio’r Bil.

Mewn cysylltiad ag argymhelliad 5 adroddiad y Pwyllgor Cyllid, y diffiniad o waredu deunydd fel gwastraff, darperais nodyn manwl i’r pwyllgor sy'n nodi’r broses ar gyfer adeiladu diffiniad o warediad trethadwy, a'r rhesymau pam y credwn fod y darpariaethau a gynigir yn angenrheidiol ac yn briodol.

Mae hyn i gyd yn golygu, Lywydd, o ran argymhellion y Pwyllgor Cyllid, mai dim ond un argymhelliad na ellir ei symud ymlaen yn bositif gan y Llywodraeth. Rwyf wedi edrych eto yn ofalus ar farn y Pwyllgor ar gredyd ar gyfer dyledion drwg, fel y nodir yn argymhelliad 18 yr adroddiad. Mae hwn yn faes lle bydd y ddarpariaeth yn dechnegol, yn gymhleth ac yn hir, ac felly rwy’n parhau i ddod i'r casgliad y byddai'n fwy addas iddo gael ei nodi mewn is-ddeddfwriaeth. Er mwyn cynorthwyo'r broses graffu, fodd bynnag, ac i gydnabod y pwyntiau y mae’r ddau bwyllgor wedi'u gwneud am graffu ar y mater hwn, byddaf yn ceisio cyhoeddi rheoliadau drafft, fel y gall y pwyllgor fod yn ymwybodol ohonynt, a’u hystyried cyn cyflwyno fersiynau terfynol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn yr hydref. Yn y modd hwn, bydd y Llywodraeth yn gallu ystyried unrhyw sylwadau gan y pwyllgor, ar ôl cael cyfle i ystyried y rheoliadau drafft hynny. Byddaf hefyd yn rhoi mwy o fanylion o'r bwriad polisi y tu ôl i’r rheoliadau hyn i'r pwyllgor yn ystod trafodion Cyfnod 2, unwaith eto er mwyn cynorthwyo'r broses graffu.

Lywydd, mae llawer iawn rhagor yn nau adroddiad y ddau bwyllgor yr wyf wedi ymateb iddynt yn fy llythyrau at Gadeiryddion pwyllgorau. Diolch iddynt eto am yr ysbryd manwl ac adeiladol wrth gynnal ystyriaeth Cyfnod 1, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau yn gweld bod yr un ysbryd yn fy ymateb i y prynhawn yma. Rwy’n credu ei fod yn uchelgais a rennir ar draws y Siambr bod y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn cyfrifoldebau cyllidol newydd yn y ffordd orau bosibl, ac rwyf wedi ystyried cyngor y ddau bwyllgor fel cyfraniadau adeiladol i gyflawni hynny. Gobeithio y bydd yr Aelodau yn cytuno i symud y Bil hwn ymlaen y prynhawn yma, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Cyllid, fel y gall y gwaith hwn barhau.