Part of the debate – in the Senedd at 3:41 pm on 28 March 2017.
I thank all the Members who have contributed to the debate, and to the Cabinet Secretary for his response.
Dirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf roedd Simon Thomas yn canolbwyntio ar gyllid a phwerau, ac yn tynnu sylw at bryderon ailwladoli a goblygiadau hynny, os cânt eu hailwladoli, na chawn yr arian i fynd gyda hynny. Ac rwy’n credu bod honno'n elfen hollbwysig, a bod angen inni wneud yn siŵr, os ydym yn mynd i allu symud ymlaen, bod yn rhaid cael yr adnoddau a'r pwerau i wneud hynny sy'n dod yn ôl o Frwsel.
Mae Suzy a Mark—rwy’n eich rhoi gyda’ch gilydd—wedi tynnu sylw at y pryderon, yn amlwg, o ran amseru papur Llywodraeth Cymru. Rwy’n credu mai'r peth pwysig y maent wedi tynnu sylw ato oedd bod angen inni archwilio llwybrau amgen weithiau, bod dewisiadau amgen hefyd ac na allwn anwybyddu'r opsiynau hynny, a’i bod yn bwysig cymryd y rheini, fel y dangosodd uwch aelodau Prifysgolion Cymru a ddaeth i mewn. Mae angen inni edrych ar bethau o'r newydd.
Soniodd Eluned am rywbeth efallai nad ydym yn aml yn siarad amdano o ran Brexit, sef iechyd a meddyginiaethau, oherwydd, unwaith eto, mae yna elfennau o fewn yr UE yr ydym weithiau'n anghofio amdanynt. Rydym yn aml yn sôn am amaethyddiaeth a'r amgylchedd, gan mai rheini yw’r rhai yr ydym yn ymdrin â nhw fel arfer, ond mae rhai agweddau pwysig sy’n dal i ddigwydd ar lefel yr UE sy'n effeithio arnom ni, ac mae hynny'n beth pwysig na allwn ei anwybyddu yn y misoedd sydd o’n blaenau. Ac, yn bwysig iawn, mae colli hawl dinasyddion i gael iawnadal mewn ardaloedd penodol, nid mewn meysydd amgylcheddol yn unig, ond mewn agweddau eraill hefyd, a cholli'r hawl honno i gael iawndal, a'r costau y gallai fod yn rhaid inni eu codi, a allai ei wneud yn amhosibl i lawer iawn o bobl.
David Rowlands—beth allaf ei ddweud am ei gyfraniad? Byddaf yn gadarnhaol. Mae'n gywir—a dywedais hyn yr wythnos diwethaf—y dylem fod yn unedig wrth gymryd safiad cadarnhaol wrth inni symud ymlaen, gan ein bod yn awyddus i gael y cyfleoedd gorau a allwn i Gymru. Ond mae honni bod cyllid yr UE yn ddi-nod, yn fy marn i, yn erchyll. Dewch i fy etholaeth i weld sut mae’r arian hwnnw’n gwneud gwahaniaeth i fy nghymunedau i, oherwydd nid yw Llywodraeth y DU yn ein hariannu ni. Mae mor syml â hynny. Ac mae sôn am gynnydd 2.6 y cant gan Lywodraeth y DU i dalu amdano—rydym yn gweld toriadau gan Lywodraeth y DU, nid codiadau, felly rwy’n meddwl mai breuddwyd gwrach yw’r uchelgais hwn o gael arian. Yn anffodus, efallai fod hynny’n adlewyrchu holl feddyliau UKIP am yr agenda hon.
Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich ymatebion ac rwyf hefyd yn gobeithio eich bod—