3. 3. Statement: Article 50 Response

Part of the debate – in the Senedd at 3:10 pm on 29 March 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:10, 29 March 2017

(Translated)

Thank you, Llywydd. Members will know that the Prime Minister of the UK has this afternoon written to the President of the European Council formally declaring the United Kingdom’s intention to leave the European Union, as required under article 50 of the treaty governing the EU. So, today marks the end of easy rhetoric and the beginning of serious negotiation.

Gallaf ddweud, Llywydd, fy mod wedi trafod y llythyr erthygl 50 yn gyffredinol â’r Prif Weinidog pan gyfarfuom yn Abertawe yr wythnos diwethaf. Dylwn ei gwneud yn glir, fodd bynnag, na welais y llythyr cyn heddiw ac ni chawsom ein gwahodd i gyfrannu at y broses o’i ddrafftio. Mae hyn yn annerbyniol ac yn benllanw i broses hynod rwystredig pan gafodd y gweinyddiaethau datganoledig eu trin â diffyg parch yn gyson. Mae hyn i gyd hyd yn oed yn fwy anffodus o ystyried mai nod datganedig Llywodraeth y DU ei hun oedd datblygu fframwaith negodi ar gyfer y DU gyfan. Maent wedi colli’r cyfle i roi mynegiant clir i’r nod hwnnw.

Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn credu yn y DU lawn cymaint ag y mae Llywodraeth y DU yn credu ynddi, hyd yn oed os yw ein gweledigaeth yn wahanol iawn i’w gweledigaeth hwy. Os yw’r Prif Weinidog yn credu go iawn yn yr undeb ac yn credu mewn adlewyrchu dymuniad y DU gyfan, yna mae angen iddi fabwysiadu ymagwedd wahanol iawn. Nid wyf yn gweld sut y gall y Prif Weinidog honni ei bod yn negodi ar ran y DU gyfan pan fo’n anwybyddu hawliau’r Llywodraeth hon i siarad ar ran pobl Cymru.

Fodd bynnag, Llywydd, rwyf bob amser wedi dweud yn glir fod yn rhaid parchu canlyniad y refferendwm ac anfon llythyr erthygl 50 yw’r canlyniad rhesymegol i’r canlyniad hwnnw. Galwais gyfarfod o’r Cabinet yn gynharach y prynhawn yma ac ar ôl misoedd o ddyfalu, gallwn symud ymlaen yn awr at y trafodaethau. Lywydd, ym mis Ionawr, amlinellodd Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Phlaid Cymru, ymagwedd gredadwy, gynhwysfawr ac awdurdodol tuag at adael yr UE yn ein Papur Gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’. Diffiniwyd blaenoriaethau Cymru yn glir gennym ar gyfer trafodaethau’r UE a gwnaethom hynny mewn ffordd sy’n gweithio ar gyfer y DU gyfan. Galwem am barhau mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Galwem am fwy o reolaeth ar fudo drwy wneud cyswllt clir â gwaith, gan warchod rhag camfanteisio ar weithwyr, am gynnydd yn y grant bloc i gymryd lle swm cyllid blynyddol yr UE o £680 miliwn, heb unrhyw ragamodau ynglŷn â sut y caiff hwnnw ei ddefnyddio. Galwem am barch llawn i’r setliad datganoli wrth ddiwygio cyfansoddiad y DU i’w wneud yn addas i’r diben ar ôl gadael yr UE—pwnc y bûm yn ei drafod heddiw gyda chyd-Aelodau’r Blaid Lafur o bob rhan o’r DU. Galwem am gadw’r mesurau diogelu cymdeithasol, cyflogaeth ac amgylcheddol a ddatblygwyd drwy ein haelodaeth o’r UE, ac am roi trefniadau trosiannol ar waith i sicrhau nad oes ymyl clogwyn i fusnesau wrth i ni bontio o’r UE tuag at berthynas newydd ag Ewrop.

Lywydd, rwy’n cytuno â’r Prif Weinidog fod Undeb Ewropeaidd gref a llwyddiannus yn fuddiol i Brydain, a bod Teyrnas Unedig gref a llwyddiannus yn fuddiol i Ewrop. Mae arnom angen ein gilydd, yn rhan o’r UE ai peidio, ac rwy’n croesawu pwyslais y Prif Weinidog ar berthynas ‘newydd, ddofn ac arbennig’ gyda’r UE. Rwyf bob amser wedi dweud nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu gadael Ewrop. Dylai’r ymagwedd tuag at drafodaethau adlewyrchu’r ysbryd hwn o ddiddordeb cyffredin.

Mewn llythyr atom heddiw, mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod wedi ystyried ein chwe blaenoriaeth wrth lunio ei safbwynt negodi, ac er gwaethaf y diffygion enfawr ym mhroses negodi fewnol y DU, credaf y gallwn weld tystiolaeth o hyn. Ceir tir cyffredin ar y farchnad sengl—rydym yn galw am ‘fynediad llawn a dilyffethair’ tra’u bod hwy’n dweud y

‘fasnach fwyaf rhydd a mwyaf diffrithiant bosibl’.

Mae’r DU yn awyddus i gyflawni hyn drwy gytundeb masnach rydd dwyochrog pwrpasol â 27 gwlad yr UE. Nid ydym yn credu mai dyna’r unig ffordd, na’r ffordd orau o reidrwydd hyd yn oed, ond rydym yn cydnabod y gallai’r dull hwn weithio mewn egwyddor. Mae llythyr y Prif Weinidog yn cydnabod bod rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn cynrychioli safbwynt diofyn y DU yn absenoldeb cytundeb. Ailadroddaf yr hyn a ddywedais sawl gwaith: byddai canlyniad o’r fath yn drychineb i Gymru ac yn fy marn i, i’r DU yn ei chyfanrwydd.

Lywydd, rwy’n cytuno hefyd â’r ffocws ar berthynas arbennig y DU ag Iwerddon. Mae llawer o sylw’n cael ei roi i gadw ffin feddal ar y tir rhwng gogledd a de Iwerddon, ac rydym yn cefnogi’r flaenoriaeth honno. Ond mae fy ffocws i ar ffin forol Cymru ag Iwerddon, yn enwedig porthladdoedd Caergybi, Abergwaun, a Doc Penfro. Mae’r ardal deithio gyffredin gyda’n cymydog agosaf o ddiddordeb allweddol i Gymru, fel y mae i Iwerddon, ac roedd y Taoiseach a minnau’n cytuno ar hyn pan ddaeth i fy ngweld ychydig wythnosau yn ôl.

Lywydd, mae angen dwy gyfres o drafodaethau wrth gwrs, fel y mae llythyr y Prif Weinidog yn ei ddweud. Y gyntaf yw proses ymadael erthygl 50 sy’n seiliedig ar gytuniad. Yr ail yw perthynas y DU â’r UE yn y dyfodol. Yn ein barn ni, o ystyried maint y gwaith hwn, a hyd yn oed gan dybio cymaint o ewyllys da â phosibl ar y ddwy ochr, mae’n annhebygol iawn y bydd hi’n bosibl cwblhau’r ddau gytundeb o fewn dwy flynedd. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi dadlau’n gyson am gyfnod trosiannol i bontio ein perthynas newidiol ag Ewrop. Unwaith eto, rwy’n credu bod Llywodraeth y DU, yn raddol, wedi cyrraedd yr un safbwynt gan ei bod yn sôn fwyfwy—ac yn benodol felly, mewn gwirionedd, yn llythyr y Prif Weinidog—am gyfnod gweithredu i reoli’r broses o adael yr UE.

Lywydd, fel gydag unrhyw gyd-drafod, bydd angen rhywfaint o barodrwydd ar y ddwy ochr i gyfaddawdu a chytuno ar gyfnewidiadau. Rydym yn realistig ac yn deall pam na all y Prif Weinidog ddamcaniaethu’n gyhoeddus ar hyn o bryd ynglŷn â pha gyfnewidiadau y bydd y Llywodraeth yn barod i’w gwneud wrth i’r trafodaethau ddatblygu. Ond o’m rhan ni, rydym yn glir fod yn rhaid i fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl fod yn brif flaenoriaeth i’r DU. Bydd unrhyw beth llai na hyn yn ddrwg i Gymru.

Lywydd, gadewch i mi fod yn glir. Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddadlau’r achos dros berthynas newydd, ddofn ac arbennig gyda’r UE, wedi’i hangori mewn cytundeb masnach rydd cynhwysfawr ac eang gyda 27 gwlad yr UE, sy’n darparu mynediad llawn a dilyffethair, neu fynediad rhydd a diffrithiant os yw hynny’n well gennych, at y farchnad sengl. Mae hynny’n hanfodol i’n busnesau, i’n heconomi, i ffyniant Cymru yn y dyfodol ac yn wir, i’r DU gyfan. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i hyrwyddo’r achos hwn, yma yn y DU, ym Mrwsel a chyda’n partneriaid Ewropeaidd. Rwy’n ailadrodd eto: ni ellir dweud yn ddigon aml y byddai rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn drychineb i Gymru.

Lywydd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a minnau wedi dweud yn ddigon clir, mae proses y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a’n hebryngodd at y pwynt hwn wedi bod yn destun siom a rhwystredigaeth ddifrifol i ni, ac rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i’n cynnwys yn uniongyrchol ac yn llawn yn y trafodaethau eu hunain wedi i’r fformat gael ei gytuno gyda’r Undeb Ewropeaidd. Mae llawer o gwestiynau pwysig sy’n parhau i fod heb eu hateb yma yn y DU, wrth gwrs, yn enwedig ar gyllid a’n materion cyfansoddiadol. Addawyd i Gymru na fyddai’n colli ceiniog o gyllid o ganlyniad i Brexit a byddwn yn dal Llywodraeth y DU at ei gair.

O ran y materion cyfansoddiadol, mae’r Prif Weinidog yn dweud y bydd gennym fwy o bwerau datganoledig ar ôl gadael yr UE ac na fydd unrhyw beth sydd gennym ar hyn o bryd yn cael ei fachu’n ôl. Os mai felly y bydd, fe groesawaf y canlyniad hwnnw. Os nad felly y bydd, bydd y Llywodraeth hon yn gwrthwynebu’n egnïol—fel y bydd eraill yn y Siambr, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth—unrhyw ymgais i fachu pwerau’n ôl neu i sicrhau bod y pwerau’n aros yn Whitehall yn hytrach na dod yn syth yma o’r UE. Bydd gennyf fwy i’w ddweud am hynny ar ôl i’r Papur Gwyn ar y Bil diddymu mawr gael ei gyhoeddi yfory.

Lywydd, o ran trafodaethau’r UE, os yw Llywodraeth y DU yn barod i weithio’n adeiladol gyda ni, yna rydym yn barod i wneud popeth yn ein gallu i helpu. Mae gennym enw da o fewn yr UE, yn enwedig ymhlith sefydliadau’r UE, am fod yn Ewropeaid da. Mae hynny wedi cael ei ddatblygu dros lawer o flynyddoedd drwy ein safonau uchel wrth weithredu rhaglenni Ewropeaidd, ein gwelededd ym Mrwsel a’n cyfranogiad gweithgar a brwdfrydig mewn ystod eang o rwydweithiau a phartneriaethau Ewropeaidd. Rydym yn barod i ddefnyddio ein henw da fel cyfalaf i helpu i ddadlau achos y DU am berthynas â’r Undeb Ewropeaidd a fydd o fudd i’r ddwy ochr yn y dyfodol.

Mae gan Lywodraeth y DU, a’r Prif Weinidog yn arbennig, gyfrifoldeb trwm yn awr wrth arwain y trafodaethau. Bydd angen iddi hi a’r tîm o’i chwmpas sylweddoli bod negodi’n llwyddiannus yn ei gwneud yn ofynnol ichi wrando a pharchu barn a buddiannau cyfreithlon y rhai y byddwch yn negodi â hwy. Ond gorchwyl cyntaf y Llywodraeth hon yw siarad dros Gymru, a byddwn yn gwneud hynny gydag egni a phenderfyniad. Ni fyddwn yn pwdu ar y cyrion, ond yn hytrach, yn chwarae ein rhan ac yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau’r canlyniad gorau i’n cenedl yng Nghymru.