Part of the debate – in the Senedd at 4:06 pm on 29 March 2017.
Thank you, Llywydd, and thank you for accepting the request. I’m grateful to the First Minister for the statement that he brought before the Assembly today, but, of course, there is more to a parliament than just listening to the view of Government and asking questions of Government. A parliament is supposed to be a national, democratic forum where we discuss urgent issues and issues of interest to our constituents, and there is nothing more pertinent to our constituents than today’s decision to issue this letter on behalf of the UK to the European Union giving notice of intent to formally leave the union. As we have just heard from the First Minister, the Welsh Government hasn’t been party to drafting the letter, or had any influence on the content of the letter. It’s even more important under those circumstances that we as a parliament can speak with one voice and discuss now the content of this letter and similar decisions taken by the Government in Westminster, and how we can influence those decisions. There is no political decision that will have greater impact on Wales, and there hasn’t been since the second world war. And, certainly, there are huge impacts on the Welsh economy, culture and the people of Wales.
Pe baem yn cynnal dadl frys yn awr, byddai’n ein galluogi i archwilio a thrafod yn fanylach rai o’r cwestiynau sydd eisoes wedi cael eu gofyn i’r Prif Weinidog, ond gan wneud hynny mewn ffordd ddemocrataidd, seneddol, fel y gall pob Aelod roi eu barn. Byddwn yn arbennig o awyddus i archwilio pam nad yw’r llythyr a anfonwyd gan y Prif Weinidog ar ran gwladwriaeth y DU yn cyfeirio at yr amgylchedd, neu amaethyddiaeth, neu newid yn yr hinsawdd, neu’n wir, at ymchwil ymhlith ein sefydliadau addysg uwch—sydd oll yn elfennau allweddol o economi Cymru a dyfodol Cymru. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y gallwn gael gwell bargen i ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru yn awr, a diogelu eu hawliau a sicrhau y gallant aros yn rhan o’n cymuned. Hwy yw’r pleidleiswyr a bleidleisiodd i lawer ohonom fod yma, ac mae eu lleisiau yn haeddu bod yma heddiw hefyd.
Byddai’n ein galluogi i archwilio’r berthynas rhwng Cymru a’r farchnad sengl yn well ar gyfer y dyfodol. Yn amlwg, mae Plaid Cymru eisiau aros yn aelod o’r farchnad sengl a’r undeb tollau, ond mae angen inni ddeall, os nad yw hynny’n digwydd, beth fyddai’r trefniadau trosiannol a sut y gallwn sicrhau bod rhannau hanfodol o’n heconomi, fel ffermio a gweithgynhyrchu, yn cael eu diogelu yn y ffordd honno. Byddem am gofnodi ein bod eisiau cadw pob ceiniog o arian Ewropeaidd yma yng Nghymru, fel yr addawyd gan yr ymgyrchwyr dros ‘adael’ flwyddyn yn ôl, ac rydym yn awyddus i gofnodi hynny fel senedd. Byddem yn awyddus i gofnodi hefyd nad ydym yn derbyn unrhyw ymgais i gipio pwerau yn ôl o ddwylo Cymru. Mae’n rhyfedd iawn, o ran y ffordd y cafodd y llythyr ei fframio heddiw, a’r datganiad a wnaeth Theresa May yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, ei bod hi’n gallu dweud y gallai rhagor o bwerau ddod i’r sefydliad hwn, ond ni ddywedodd y byddai’r holl bwerau yn y meysydd datganoledig a gedwir ar hyn o bryd ar lefel Ewropeaidd yn dod i’r sefydliad hwn. Bydd cipio tir yn Stryd Downing cyn i ni gael y pwerau ychwanegol hynny.
Yn olaf, gallwn gofnodi ein cred fod rhaid cael cymeradwyaeth seneddol i’r fargen derfynol a bod rhaid i lais Cynulliad Cenedlaethol Cymru ffurfio rhan o’r gymeradwyaeth honno yn ogystal.