Part of the debate – in the Senedd at 6:20 pm on 29 March 2017.
Thank you very much. I’m pleased to have an intervention before I open my mouth, but I was going to outline the historical context of the Welsh language, while supporting entirely the intention of the Government here to have a million Welsh speakers by halfway through this century.
To go back in history in order to set the context, because some are new to the history of Wales and its language, the writings of Aneurin and Taliesin from the sixth century, that’s the oldest Welsh language available, showing how alive the Welsh language was 1,500 years ago—Welsh, the original language of the islands of Britain. Amazingly, 562,000 people in Wales can still speak Welsh today, with nearly another 600,000 with some grasp of the language. So, 19 per cent of the population therefore speak Welsh, which is quite a significant minority. We take pride in those figures, given what’s happening to other minority languages in small nations cheek to jowl with a large nation. It is even more miraculous in light of our history as a nation.
Because the history of my people is bathed in blood. In 1136, Gwenllian was killed. She was beheaded in front of her son having lost the battle in Kidwelly. She suffered because she was a Welsh woman. In 1282, Llywelyn ein Llyw Olaf suffered a similar fate, along with many of his followers. From 1400 onwards, the brave battle of Owain Glyndŵr for independence led to the killing of thousands and they lost their blood for freedom, as our anthem says. In 1536, we saw the Act of Union between Wales and England, with the Welsh language banned from public life until 1993; 1588 gave some hope to the language with the translation of the Bible into Welsh.
Ac eto, yn 1847, gwelwyd brad y Llyfrau Gleision fel y’i gelwid, wrth i’r awdurdodau sarhau a phardduo’r iaith Gymraeg, gan achosi cywilydd a gwaradwydd parhaus am genedlaethau wedyn. Dyna’n rhannol y mae’n rhaid i ni fod yn atebol iddo o hyd y dyddiau hyn. Daeth y Ddeddf addysg ag addysg gynradd i bawb drwy gyfrwng y Saesneg. Câi’r Welsh Not ei chrogi am yddfau plant a siaradai Gymraeg ac os oedd yn dal o gwmpas eich gwddf ar ddiwedd y dydd, fe gaech y gansen. Dyna a ddigwyddodd i fy nhaid yn Llanegryn yn Sir Feirionydd dros ganrif yn ôl. Maint y sarhad y mae pob cenhedlaeth wedi’i deimlo ar hyd y canrifoedd sydd wedi meithrin y penderfyniad llwyr y bydd y Gymraeg yn goroesi ac y caiff ei throsglwyddo o un genhedlaeth i’r llall ac y bydd y mynyddoedd a’r Cymoedd yn atseinio am byth i oslef y Gymraeg.
Oes, mae 19 y cant o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg: rhyfeddol. Rwy’n cymeradwyo polisïau sy’n seiliedig ar hawliau fel y’u cymhwysir i anableddau, materion rhywedd, rhywioldeb, ffydd a hil—i gyd wedi eu cynnwys mewn deddfwriaeth heddiw. Mae hawliau o’r fath wedi eu hymgorffori’n gadarn heb ystyried unrhyw ewyllys da tybiedig ar ran mwyafrif y boblogaeth tuag at y lleiafrif, waeth beth yw’r gost, heb ystyried y nifer sy’n defnyddio gwasanaeth penodol, ac ni waeth a yw’n ymwneud â’r sector cyhoeddus neu’r sector preifat. Mae hawl yr unigolyn yn sofran, ond nid oes gennym hynny ar gyfer defnyddwyr y Gymraeg ar hyn o bryd. Mae gan rai planhigion amddiffyniad cyfreithiol, ac nid oes gan enwau lleoedd hanesyddol Cymru unrhyw amddiffyniad o’r fath.
Mae’r hanes a briwiau hanesyddol yn parhau. Gwn fod llawer o genhedloedd eraill wedi dioddef sarhad ofnadwy a hanesion gwaedlyd ac rydym yn euog yn ein rhwystredigaethau, fel siaradwyr Cymraeg, o beidio â dadlau ein hachos yn dda o gwbl ar adegau. Gall pob un ohonom anwybyddu’r hanes hwn ar adegau yn ogystal, a bychanu digwyddiadau’r gorffennol, ond gallwn yn sicr ddioddef gwawd, dirmyg a cham-drin, oherwydd, fel cenedl, rydym wedi goroesi cydymdrech dros ganrifoedd i ddileu ein hiaith a’n diwylliant oddi ar wyneb y ddaear. Ond, ‘Hei’, bydd pobl yn dweud pan fyddaf yn mynd yn fy mlaen fel hyn, ‘Paid â bod mor ddwys, Dai; anghofia’r hanes’. Ond wyddoch chi, hanes y buddugwr sy’n dal i deyrnasu heddiw. Dyna pam, yn ystod y ganrif ddiwethaf, yr adeiladwyd ysgol fomio Penyberth yn Llŷn Gymraeg ei hiaith—am eu bod yn gallu. Fe gliriodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y ffermwyr Cymraeg eu hiaith oddi ar Fynydd Epynt yn ystod y rhyfel diwethaf—am eu bod yn gallu. Boddi Tryweryn—am eu bod yn gallu. Ac ie, elfennau yn nadl Llangennech—am eu bod yn gallu. Yr ymgais ddiweddaraf i rwbio ein trwynau ynddo, fel cenedl a orchfygwyd.
Mae pentrefi a threfi fy ieuenctid a arferai atsain i oslef y Gymraeg bellach yn siarad Saesneg. Ond nid ni pia’r Gymraeg hon, yr iaith Gymraeg hon a ddirmygir, nid ni pia hi i’w hildio. Mae’r iaith fyw hynaf yn Ewrop yn drysorfa i genedlaethau’r dyfodol ac yn haeddu parch gan bawb sy’n dewis byw a gweithio yng Nghymru. Diolch yn fawr.