Part of the debate – in the Senedd at 6:37 pm on 4 April 2017.
Thank you very much, Deputy Presiding Officer. It’s my pleasure today to introduce the Land Transaction Tax and Anti-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Bill, to present it before the National Assembly for Wales to be approved. Some of the Members who are here today were also present to approve the first piece of devolved tax legislation in 2016, which was the Tax Collection and Management (Wales) Act, which established the Welsh Revenue Authority. This Bill does move us forward to the next stage in terms of tax devolution. It establishes a new tax on land transactions in Wales, instead of stamp duty land tax from April 2018 onwards. I want to thank again Members across the Chamber for their scrutiny work on the Bill and my officials and Commission staff for their support in this process.
Dirprwy Lywydd, mae sefydlu’r dreth trafodiadau tir i Gymru wedi bod yn fenter hynod dechnegol a hynod fanwl. Rwy'n ddyledus iawn i grŵp o swyddogion polisi a chyfraith gwirioneddol hyddysg sydd wedi ffurfio tîm prosiect penodedig. Mae eu gwaith nhw wedi bod yn fwyaf amlwg yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cyllid, yn y sesiynau briffio technegol a hefyd wrth helpu i ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol i gasgliadau'r pwyllgor. Roedd gwaith y pwyllgor hwnnw wedi ei gymhlethu ymhellach gan y newid yn natur treth tir y dreth stamp wrth i’r Bil fynd gerbron y Pwyllgor Cyllid. A gaf i ddiolch unwaith eto i Gadeirydd y pwyllgor, Simon Thomas, yn benodol, am y modd y cynhaliodd y broses graffu ac i holl aelodau'r pwyllgor am eu dull gofalus ac adeiladol o sicrhau bod y Bil y gorau a all fod? Rwyf hefyd yn ddiolchgar wrth gwrs i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu craffu manwl a'r adroddiadau a ddeilliodd o hynny.
Dirprwy Lywydd, mae datblygiadau wrth ddatganoli trethi yn mynd rhagddynt. Roeddwn yn falch o gyhoeddi yn ddiweddar mai Kathryn Bishop fydd cadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru, gydag aelodau eraill anweithredol o’r bwrdd i’w penodi yn yr haf. Yma yn y Cynulliad, mae treth gwarediadau tirlenwi yn parhau i wneud cynnydd drwy ein gweithdrefnau craffu, i'w dilyn ym mis Ebrill 2019 gyda chyflwyniad cyfraddau Cymru ar gyfer y dreth incwm. Mae pob un o'r trethi newydd hyn yn gam pellach ar daith datganoli, er ei fod yn un sydd wedi cymryd 800 mlynedd i’w wireddu. Gyda hynny mewn golwg, gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth wrth roi’r Bil hwn ar y llyfr statud y prynhawn yma.