Part of 2. 1. Questions to the First Minister – in the Senedd at 2:07 pm on 4 April 2017.
Nid wyf yn derbyn yr awgrym mai dim ond y car sydd ar gael; mae’r gwasanaeth trên wedi gwella ers amser—ers blynyddoedd. Ar un adeg, pan ddechreuodd y lle hwn, nid oedd yn bosibl mynd o’r gogledd i’r de ar y trên; roedd yn rhaid newid yn yr Amwythig. Nid oedd modd mynd lan heb newid trenau. Mae hynny wedi newid; mae trên nawr bob dwy awr yn mynd i lawr. Mae’r awyren, wrth gwrs, yn mynd lawr hefyd ddwywaith y dydd a lan ddwywaith y dydd. Ac hefyd ynglŷn â’r A470, fe welsom ni bethau yn gwella o ran ffordd osgoi Cwmbach-Llechryd ym Maesyfed a’r newidiadau a ddigwyddodd yn Christmas Pitch yn sir Frycheiniog, Dolwyddelan hefyd i Bont yr Afanc, a’r newidiadau yn ardal Cross Foxes ar yr A470. So, rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol ar yr heol honno ers blynyddoedd. Ond mae yna gynllun gennym—cynllun ‘pinch-point’ os y gallaf ei alw’n hynny—er mwyn delio â rhai o’r problemau sy’n dal i fod yna. Wrth gwrs, i rywun fel minnau sydd yn dod lawr o’r gogledd o Gaernarfon trwy Machynlleth ac Aberystwyth i Ben-y-bont ar Ogwr, roedd yn bleser mawr i weld y gwelliannau hollbwysig yng Nglandyfi—rhan o’r heol a oedd yn beryglus dros ben am flynyddoedd mawr, ond mae’r heol nawr wedi cael ei gwella yn fawr iawn.