8. 8. Plaid Cymru Debate: Public Sector Procurement and Construction

Part of the debate – in the Senedd at 4:45 pm on 5 April 2017.

Alert me about debates like this

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:45, 5 April 2017

(Translated)

Thank you very much, Deputy Presiding Officer. The purpose of this debate this afternoon is to highlight the need for a better system of planning for skills and training, as well as improving procurement practices in the construction sector in Wales. There are a number of infrastructure projects on the horizon over the next few years, which offer a golden opportunity for construction companies across Wales—large and small companies—as well as the wider supply chain. Some of these projects include the possible tidal lagoon in Swansea, the Cardiff and Valleys metro, the M4 relief road—whichever option is selected there, someone will have to build it—the electrification of the Welsh rail lines, the Llandeilo bypass and many other projects. So, to ensure that wales benefits economically from these projects, then the Welsh Government must improve procurement practices and ensure that the necessary skills and expertise are available in the Welsh workforce. We need to make the most of these opportunities. Our proposal today calls for more capital expenditure on infrastructure in Wales, in order to give an additional boost to the sector across Wales.

Last year, the OECD produced a report mentioning that an economy such as the UK should be spending some 5 per cent of its national income, GDP, on modernising its infrastructure. Now, in that year, 1.5 per cent GDP was spent, which was lower than the figure of 3.2 per cent spent in 2010. The figure is yet lower here in Wales. This ambition has been understood by the Scottish Government, which has declared that it’s to create an infrastructure programme of over £20 billion as part of its programme for government over the next five years. If we’re going to bring years of economic decline to an end here in Wales, then ambition is crucial. We in Wales must increase our expenditure on infrastructure to a similar level and ambition to that which has been shown by our Celtic cousins in Scotland.

Fel rhan o’n gweledigaeth ar gyfer comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru, lleisiwyd yr angen i Lywodraeth Cymru fachu ar y cyfle a roddwyd i ni i gynyddu lefelau gwariant cyfalaf er mwyn buddsoddi yn seilwaith ein cenedl. Ar hyn o bryd rydym yn byw mewn cyfnod o arian rhad gyda chyfraddau llog ar lefelau is nag erioed, sy’n golygu na fu erioed adeg fwy costeffeithiol ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith. Mewn gwlad fel Cymru, mae peth o’r seilwaith mwyaf sylfaenol—y gallu i deithio ar hyd y wlad ar y trên o’r gogledd i’r de, er enghraifft—ar goll, heb sôn am y math o seilwaith y bydd rhywun ei angen ac yn ei ddisgwyl yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae sector adeiladu Cymru yn wynebu heriau sylweddol dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau bod ganddo’r gallu angenrheidiol i ddefnyddio’r cyfleoedd sy’n dod. Er mwyn i’r sector allu bodloni’r anghenion hyn, mae gwella lefelau cynhyrchiant yn y diwydiant adeiladu yn hollbwysig. Mae llif arian gwael, a achosir yn aml gan arferion talu gwael ar hyd y gadwyn gyflenwi yn rhwystr mawr i wella cynhyrchiant. Mae’r sector adeiladu yng Nghymru wedi ei ddominyddu’n bennaf gan fusnesau bach a chanolig, gyda llawer ohonynt yn chwarae rolau allweddol drwy’r gadwyn gyflenwi, yn cyflawni ein contractau adeiladu yn y sector cyhoeddus. Mae’r busnesau bach hyn yn hanfodol i les economaidd Cymru ac mae Plaid Cymru yn bendant y dylid defnyddio polisi caffael cyhoeddus i gefnogi’r busnesau hyn ledled Cymru.

Mae llif arian effeithlon yn hanfodol i is-gontractwyr llai ac nid yw ond yn deg eu bod yn cael eu talu’n amserol yn unol â pherfformiad ar gontract am helpu i gyflawni’r prosiectau adeiladu a seilwaith sy’n allweddol i economi Cymru. Mae’r defnydd o gyfrifon banc prosiect mewn contractau adeiladu yn ymrwymiad yn y strategaeth gaffael gwaith adeiladu o fis Gorffennaf 2013 a hefyd yn cefnogi datganiad polisi caffael Cymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2012.

Gadewch i mi egluro’n gyflym pam y mae cyfrifon banc prosiect mor bwysig ar gyfer mentrau bach a chanolig yng Nghymru. Gyda phrosiectau adeiladu yn y sector cyhoeddus, mae’n annhebygol iawn y gall y cleient, megis yr awdurdod lleol, fynd i’r wal. Felly, yn yr ystyr hwnnw, caiff yr adeiladydd haen 1 ei ddiogelu rhag unrhyw ansolfedd posibl ymhellach i fyny’r gadwyn gyflenwi. Fodd bynnag, ni roddir unrhyw amddiffyniad o’r fath i’r rhai sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn gwmnïau bach a chanolig eu maint. Mae cyfrif banc prosiect yn bot diogel, sy’n sicrhau bod pawb yn y gadwyn gyflenwi yn cael eu talu, gan nad yw’r arian yn gorfod mynd drwy’r gwahanol haenau contractio, a dyna pam rydym yn ei gefnogi. Ym mis Ionawr 2014, cyhoeddodd y cyn-Weinidog Cyllid dri chynllun peilot ar draws tri awdurdod lleol gwahanol ar gyfer defnyddio cyfrifon banc prosiect. Fodd bynnag, ers hynny, cyn belled ag y gwn i, ni fu unrhyw symud ymlaen a mandadu cyfrifon banc prosiect yn gyffredinol, fel sy’n digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Drwy fandadu cyfrifon banc prosiect yn y sector cyhoeddus, gall Llywodraeth Cymru o leiaf roi diogelwch i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru a gwella eu llif arian a’u sicrwydd o gael eu talu.

Rhaid gweithredu hefyd mewn perthynas â chadw arian parod. Mae cadw symiau dargadw yn ôl yn arfer hen ffasiwn sy’n ddiangen yn y diwydiant adeiladu modern. Y warant orau o ansawdd yw dewis cadwyn gyflenwi gymwys a chymwysedig sydd wedi ymrwymo i geisio cyrraedd y safonau perthnasol uchaf mewn iechyd a diogelwch, hyfforddiant, a pherfformiad technegol. Gallai system achredu a chyfundrefn drwyddedu, fel yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia, liniaru’r broblem hon yn gyfan gwbl. Nid yn unig y byddai hyn yn gwella llif arian yn y sector, ond byddai hefyd yn gwella safonau iechyd a diogelwch, sy’n rhywbeth y dylai pawb ohonom ei hyrwyddo.

Er mwyn sicrhau bod Cymru yn cael cymaint o fudd economaidd â phosibl o brosiectau seilwaith yn y dyfodol yng Nghymru a thu hwnt, mae arnom angen diwydiant adeiladu sy’n feinach ac yn fwy heini, gyda busnesau bach a chanolig sy’n cael eu grymuso i chwarae rhan fwy cynhyrchiol. Wrth gloi, gwell caffael mewn gwaith adeiladu, drwy gael timau prosiect integredig sy’n cynnwys yr holl gadwyn gyflenwi, yw’r ddelfryd—ac wedi’i gynhyrchu yn Siambr y Senedd y safwn ynddi heddiw. Diolch yn fawr.