Part of the debate – in the Senedd at 2:39 pm on 2 May 2017.
Thank you very much, Llywydd. The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, which was passed into law almost exactly two years ago, requires the production within 12 months of the election of a new National Assembly for Wales of a report that contains an account of likely future trends in terms of economic, social, environmental and cultural well-being in Wales, and any related analytical data and information that the Welsh Ministers consider appropriate. This week, for the first time ever, the report known as the future trends report has been published.
Llywydd, nid bwriad yr adroddiad yw bod yn rhyw fath newydd o seryddiaeth wleidyddol. Nid yw’n ceisio proffwydo’r dyfodol. Yn hytrach, mae’n ceisio tynnu ynghyd, mewn un lle hygyrch, amrywiaeth o wybodaeth er mwyn helpu dinasyddion Cymru i ddeall tueddiadau sy’n amlwg heddiw yr ymddengys y byddant yn fwyaf tebygol o beri risgiau neu greu cyfleoedd yn y dyfodol.
Mae’r dasg ddinod honno, hyd yn oed, yn llawn anawsterau posibl. Doedd y rhyngrwyd prin yn cyffro pan etholwyd y Cynulliad Cenedlaethol hwn gyntaf ym 1999. Mae’r iPhone wedi bodoli ers llai na degawd. Bydd traean o’r swyddi yn economi heddiw wedi mynd yn angof, o bosib, ymhen llai na 15 mlynedd.
Mae pethau’n newid yn gyflym, er iddi ymddangos felly erioed, o’r cyfnod pan wnaeth Cincinnatus ymddeol i’w fferm yn y flwyddyn 458 cyn Crist er mwyn dianc rhag helbul bywyd a gwleidyddiaeth y Rhufeiniaid, a byth ers hynny. I geisio osgoi camgymryd yr hyn sy’n newydd am yr hyn sy’n arwyddocaol, nod yr adroddiad yw defnyddio a dehongli’r ffynonellau data y mae’n eu defnyddio i ddatblygu darlun mwy hirdymor ac ehangach o’r penderfyniadau a wnawn heddiw, yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae'n gwneud hynny drwy nodi tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol yn y dyfodol i Gymru, o dan chwe thema sy'n cael effaith ar bob agwedd ar y llywodraeth a gweinyddiaeth gyhoeddus. Mae'n ymdrin â phoblogaeth, ag iechyd, â’r economi a seilwaith; mae'n canolbwyntio ar y newid yn yr hinsawdd, defnydd tir ac adnoddau naturiol, ac ar gymdeithas a diwylliant. Trwy ein helpu ni i archwilio’r darlun mwy hirdymor, mae’r adroddiad cyntaf hwn hefyd yn dechrau archwilio rhai o’r ffactorau a allai effeithio ar y tueddiadau hyn wrth i’r dyfodol esblygu.
Mae’r adroddiad hefyd yn ein hysgogi i feddwl yn ehangach. Am lawer o resymau, mae busnes y llywodraeth, ar bob lefel, yn dueddol o ganolbwyntio ar feysydd polisi unigol wrth geisio cyflawni buddion. Mae’r adroddiad hwn yn ymgais i greu darlun ehangach, yn ogystal â darlun mwy hirdymor. Mae’n dwyn ynghyd ffactorau yr ydym efallai wedi’u hystyried yn unigol o’r blaen ac yn rhoi sylw penodol i archwilio’n ofalus y rhyngweithio a’r gyd-ddibyniaeth rhwng y ffactorau, gan greu cysylltiadau rhwng gwahanol dueddiadau mewn gwahanol feysydd o lywodraeth.
Llywydd, fel y dywedais, nid bwriad yr adroddiad yw darparu cyfres o broffwydoliaethau. Ond mae’n cynnwys cyfres o gwestiynau a luniwyd i ysgogi’r darllenwyr i ffurfio eu hymatebion eu hunain wrth iddynt ystyried y data o dueddiadau a’r sefyllfaoedd posibl yn y dyfodol y gallai’r data hynny dynnu sylw atynt.
Mae’r adroddiad hwn yn dechrau’r gwaith o wella ein gallu i wneud penderfyniadau sy’n addas ar gyfer y tymor hir. Rwy’n awyddus nawr inni ddechrau datblygu adnodd byw sy’n datblygu’n barhaus ar gyfer Tueddiadau’r Dyfodol at ddefnydd y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym eisoes wedi cymryd y camau cyntaf, trwy lunio’r adroddiad cychwynnol hwn drwy broses o gydweithredu ag ystod eang o sefydliadau’r sector cyhoeddus, yn ogystal ag adrannau Llywodraeth Cymru. Rydym wedi ceisio defnyddio’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a grëwyd yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, er mwyn deall pa fath o adroddiad sydd ei angen a dwyn ynghyd y data ar gyfer tueddiadau’r dyfodol sy’n bodoli eisoes. Byddwn yn parhau i weithio yn y modd hwn, gan gynnwys yn llawn bawb sydd â diddordeb mewn datblygu ein hadnodd a’n gallu ar y cyd, a darparu adroddiad sy'n ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau yn y dyfodol yma yng Nghymru.