Part of the debate – in the Senedd at 2:58 pm on 2 May 2017.
Thank you very much, Llywydd, and thank you, Adam Price. Of course, I agree—this is an initial report before the Assembly this afternoon. We did go out and speak to people who will use the report in due course, as the Act requires us to do, and the one thing they kept coming back to tell us was, ‘Don’t prepare a report that is too lengthy to be usable. Try, if you can, to prepare a report that allows us to use the information contained within it.’
Mae hynny'n creu tensiwn, yn anochel, rhwng y negeseuon sy’n dod o lawr gwlad ac oddi wrth ddarpar ddefnyddwyr eu bod yn dymuno cael adroddiad, fel y dywedasant, a oedd yn gryno ac yn eu galluogi i gael yr wybodaeth yr oeddent yn dymuno’i defnyddio yn gyflym. Ond mae’n bwynt pwysig gan Adam Price—sef, pan fyddwch yn ceisio llunio adroddiad o'r math hwnnw, byddwch, yn anochel, yn colli rhywfaint o'r cyfoeth o ddata sydd ar gael. Mae'n rhannol —i ateb ei ail gwestiwn ynghylch sut y gallwn ni ddatblygu'r adroddiad yn y dyfodol—pam fy mod i’n awyddus y dylai fod yn adnodd ar-lein y gallwn ei gadw yn gyfredol yn barhaus. Oherwydd hynny, rwy’n credu, mae'n bosibl darparu ymlaen llaw set gymharol fyr o ddeunydd i’r bobl sy’n dymuno cael syniad bras o rywbeth, ond bod modd cyfeirio pobl sydd â diddordeb dyfnach mewn unrhyw agwedd benodol yn gyflym at y data sydd y tu ôl i'r penawdau, a lle gallwch ddod o hyd i’r data cyfoethocach hynny ar-lein heb deimlo eich bod yn cael eich llethu ar yr olwg gyntaf. Felly, os gallwn wneud hynny, rwy'n credu y bydd yn ein helpu i ateb y pwynt a godwyd ganddo.
Wrth gwrs, mae e'n iawn: os ydym am ddeall y dyfodol yn well, y gorffennol yn aml yw'r canllaw gorau, o ran y pethau yr ydym wedi llwyddo i’w gwneud—y pethau yr oeddem yn gallu sylwi arnynt yn gynnar ac ymateb iddynt—ond hefyd y pethau hynny lle na wireddwyd ein dyheadau yn llawn. Mae angen inni geisio gweld beth wnaeth ein hatal rhag cyflawni'r pethau yr oeddem yn bwriadu eu cyflawni, a defnyddio’r gwersi hynny i wella ein gallu i wneud penderfyniadau polisi gwell yn y dyfodol, i osgoi canlyniadau anfwriadol neu fuddsoddiadau a gyfeiriwyd yn wael, ac i ddod o hyd i gyfleoedd na fyddem wedi dod o hyd iddynt pe na fyddem wedi gwneud yr hyn y mae’r adroddiad yn ceisio ei wneud. Fel y dywedais, mae'n ceisio edrych yn fanwl, ond mae'n ceisio’n benodol edrych yn fras i weld y cysylltiadau rhwng gwahanol haenau o weithgarwch y Llywodraeth. Gall hyn, er gwaethaf bod yn Llywodraeth fach, fod yn her wrth redeg portffolio unigol lle mae eich sylw yn anochel wedi ei hoelio ar y materion o’ch blaen a lle nad yw bob tro mor hawdd ag y hoffech i weld sut y mae’r penderfyniadau hynny yn cysylltu â phenderfyniadau eraill a wnaed mewn mannau eraill yn rhannau eraill o'r Llywodraeth.