Part of the debate – in the Senedd at 4:52 pm on 3 May 2017.
No.
Mae hyn yn ei dro yn creu dyledion, yn achosi straen ac yn effeithio ar ansawdd bywyd y gweithwyr a’u teuluoedd. Nid yw cytundebau dim oriau yn gytundebau teg, ac mae’n hollol amlwg bod angen i ni symud tuag at sefyllfa o ddileu’r math yma o gytundebau yng Nghymru, ac mae’r grym gennych chi yn y Llywodraeth.
Yn ôl Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, mae hyd at 48,000 o bobl yn dweud eu bod yn cael eu cyflogi ar gytundebau dim oriau yng Nghymru—yn dweud eu bod nhw ar gytundebau o’r math yma; mae’n siŵr fod y ffigur yn llawer iawn uwch na hynny. Yng Nghyngor Gwynedd pan roeddwn i yn gynghorydd sir, fe wnaed ymdrech gwbl fwriadol i ddileu’r cytundebau yma a bellach dim ond llond llaw o gytundebau dim oriau sydd ar ôl yn y cyngor, ac mae yna drafod yn parhau efo’r rheini sydd yn dal i fod ar y cytundebau yma. Mae’r cymal yma—cymal 8 yn ein cynnig ni—yn ‘non-binding’. Datganiad o egwyddor ydy o, felly nid oes bosibl na fedrwch chi gefnogi datganiad o egwyddor—datganiad bod y Llywodraeth yma yn mynd i symud i’r cyfeiriad yma.
Mi fyddai hefyd yn ddatganiad o ffydd mewn rhai o weithwyr mwyaf gwerthfawr ein cymdeithas, y rhai sy’n gofalu am bobl mwyaf bregus ein cymdeithas ni heddiw. Dyma garfan o weithwyr sydd angen ein cefnogaeth lwyraf. Maen nhw angen parch. Maen nhw angen eu trin efo urddas. Mi fyddai cefnogi’r egwyddor o gontractau dim oriau mewn ffordd ‘non-binding’, fel rwy’n egluro, yn ein cychwyn ni ar y daith o wella statws gweithwyr yn y sector gofal. Mae’n hen bryd i hynny ddigwydd, ac mae modd i chi gychwyn ar hynny heddiw pe baech yn dymuno gwneud hynny.