2. 1. Tributes to Former First Minister Rhodri Morgan

Part of the debate – in the Senedd at 1:10 pm on 23 May 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:10, 23 May 2017

(Translated)

I started to knock doors, persuading the citizens of Cardiff West to vote for Rhodri Morgan in the famous victory in 1987, when the constituency overturned the only aberration in its history to return to the hands of the Labour Party. I heard him speaking publicly for the last time just a fortnight ago, reliving the excitement of that campaign and the start of a 30-year relationship with communities across Cardiff West.

Because, if the name of Rhodri Morgan was new to many in 1987, it didn’t stay like that for too long as he fought against the barrage; the response to the Ely riots, as they were described in 1990; in fighting against the quango state—the producer and director of that famous Welsh film, ‘Last Quango in Powys’, as I heard him refer to it so often. By 1992, what used to be a marginal seat was now firmly in the grasp of Rhodri Morgan. Not that that was the result of anything but hard work—the weekly surgeries, the public meetings, the community engagements. Perhaps he was becoming more prominent on the national stage, but wherever he was needed locally, Rhodri was there.

Llywydd, yn y dyddiau hynny yn hanner cyntaf y 1990au, roedd Jane Hutt a minnau yn gynghorwyr sir dros ward Glan yr afon yng Ngorllewin Caerdydd. Sue Essex a Jane Davidson oedd cynghorwyr y ddinas dros ardal Glan yr Afon. Byddem yn cynnal cymorthfeydd stryd wythnosol, yn dosbarthu taflenni, gan ofyn i breswylwyr eu rhoi yn eu ffenestri os oeddent yn dymuno i ni alw. Unwaith bob mis neu ddau byddai Rhodri yn ymuno â ni. Byddem yn dosbarthu taflen arbennig yn hysbysebu presenoldeb yr Aelod Seneddol lleol. Yn hytrach na'r tair neu bedair taflen arferol, byddai dwsin o daflenni yn ffenestri pobl. Byddai Rhodri yn diflannu i’r tŷ cyntaf. Byddai Sue, Jane neu finnau yn mynd yn ein blaenau i alw ym mhob un o'r un ar ddeg tŷ arall, ac roedd pob un ohonyn nhw’n siomedig o’n gweld ni, a phob un ohonyn nhw’n gobeithio gweld Rhodri. Dri chwarter awr yn ddiweddarach, byddem yn dychwelyd i'r tŷ cyntaf. Dyna lle byddai Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd, plât o bice ar y maen, dau gwpanaid o de a thri chefnder cyffredin wedi eu darganfod. Roedden nhw’n meddwl ei fod yn wych. Ac wrth gwrs, roedden nhw’n iawn.

Does dim syndod felly, erbyn adeg etholiad cyffredinol 1997 ac etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999, fod pleidleiswyr Gorllewin Caerdydd wedi ailethol Rhodri Morgan gyda mwyafrif yr wyf yn cofio dweud wrtho ar y pryd y byddai Albania yn genfigennus ohono—un o'r ychydig wledydd yn Ewrop, nododd wedyn, lle nad oedd ganddo berthynas neu gysylltiadau gwleidyddol eisoes. Erbyn 2001, gyda chynrychiolaeth seneddol Gorllewin Caerdydd wedi ei throsglwyddo’n ddiogel i’w gyfaill agos a’i gynghorydd, Kevin Brennan, gŵr y gwn sydd yma y prynhawn yma, roedd Rhodri yn rhydd i ganolbwyntio ar gydbwyso dim ond y gofynion gwleidyddol o fod yn Brif Weinidog Cymru gyfan, a'r egni ffyrnig a roddai i gynrychioli unigolion a chymunedau yn ei etholaeth ei hun. Parhaodd y berthynas ymhell y tu hwnt i’w ymddeoliad ffurfiol yn 2011.

Mae curo ar ddrysau yn ystod y dyddiau diwethaf yng Ngorllewin Caerdydd, Llywydd, wedi bod yn broses araf a phoenus. Roedd llawer o ddagrau, a llawer o chwerthin, wrth i gartref ar ôl cartref adrodd ei stori ei hun am Rhodri Morgan. Llywydd, oherwydd imi dreulio'r rhan fwyaf o ddegawd yn gweithio gyda nifer fach o bobl a oedd yn swyddfa’r Prif Weinidog—Lawrence Conway, Rose Stewart—yn ystod y blynyddoedd cyntaf hynny o ddatganoli, roeddwn i eisiau terfynu drwy ddweud rhywbeth yn fyr am amser Rhodri yn y swydd. Rydych chi wedi clywed y stori heddiw am y dyddiau cynnar anodd hynny, sut gwnaeth sefydlogi’r prosiect datganoli a'i osod ar y cwrs y bu arno byth ers hynny. Mae'n anodd ychwanegu rhywbeth newydd at yr hanes sylfaenol hwnnw. Ond yr hyn yr oeddwn i eisiau ei ddweud y prynhawn yma oedd hyn: o dan yr wyneb disglair, o dan y gallu hwnnw i siarad ag unrhyw un am unrhyw beth, roedd diben gwleidyddol hynod ddifrifol: creu’r sefydliad hwn, rhoi'r grym yn nwylo pobl Cymru i benderfynu ar faterion sy'n effeithio arnyn nhw yn unig, ymgorffori datganoli ym mhob rhan o Gymru. Dywedodd Rhodri y byddai’r Cadfridog de Gaulle yn cwyno ei bod hi’n amhosibl llywodraethu gwlad oedd â mwy na 2,000 o gawsiau, ac fe gafodd yntau’r holl bethau hynny’n hawdd. Yn fuan iawn byddai’r Senedd, fel y’i gelwid hi, yn Senedd yng ngwir ystyr y gair, yn sefydliad gyda phwerau deddfu llawn, gwahaniad priodol rhwng y Weithrediaeth a'r ddeddfwriaeth, ac, yn bennaf oll, lle diogel ym meddyliau a dyheadau dinasyddion Cymru: mor wahanol yw hyn i fis Mai 2000 yn nyddiau cynharaf Rhodri Morgan o fod yn Brif Weinidog, ac oherwydd mai Rhodri Morgan oedd y Prif Weinidog.

Llywydd, mae datganoli yn brosiect nad oes ganddo hanes. Mae pob un ohonom ni sy’n rhan ohono wedi bod yn rhan o’i greu. Yn anochel, mae llawer o'r hyn yr ydym yn ei wynebu yn bethau yr ydym yn dod ar eu traws am y tro cyntaf. Mae colli cyn Brif Weinidog a chyfaill yn un o’r digwyddiadau hynny’n union. Mae'n ein cyffwrdd i’r byw ac rydym ni’n cael trafferth i ymateb. Ond fe allwn ni fod yn sicr o un peth: heb Rhodri Morgan, byddai’r siwrnai honno yr ydym i gyd wedi bod arni wedi bod yn wahanol iawn, ac yn llawer, llawer anoddach.