Part of the debate – in the Senedd at 1:29 pm on 23 May 2017.
First of all, Julie, it is so typical of you and of Rhodri that you should be with us in your place today. And we thank you for being here, because it enables us to address you warmly, as I do on the part of my own long-standing, and Mair’s, friendship with you and the family, going back so many years.
Fe weithiais i y tro cyntaf gyda Rhodri Morgan pan gafodd o ei ethol i Dŷ’r Cyffredin yn Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd yn 1987. Ond roedd ganddo fo brofiad helaeth cyn ei fod o wedi dod yn Aelod Seneddol. Mae’n bwysig sôn am ei ysgolheictod o, ac, yn wir, ysgolheictod y teulu—fel rydym ni wedi ei glywed yn barod. Oherwydd rwyf innau wedi bod yn gyfaill i’w frawd, Prys, a gyda choffa da iawn am ei dad, oherwydd yr oedd o yn sefyll ben ac ysgwydd ymhlith ysgolheigion llenyddiaeth Gymraeg yn y 1960au i rywun fel fi a oedd yn fyfyriwr, oherwydd ei fod o’n darlithio yn llawer iawn mwy diddorol na’r gweddill ohonyn nhw. Ac roedd y ddawn honno, yn sicr, gan Rhodri.
Roedd Rhodri yn ysgolhaig ei hun, yn raddedig o Rydychen, ac o Harvard, wedi bod yn ymchwilydd mewn llywodraeth ganol a lleol, yn ymgynghorydd economaidd i’r Adran Masnach a Diwydiant, yn swyddog datblygu De Morgannwg, ac yn bennaeth, fel y clywsom ni, swyddfa’r Gymuned Ewropeaidd. Rwy’n ei gofio fo’n dod i Dŷ’r Cyffredin, ac roeddwn i’n synnu at ei allu fo i sicrhau dyrchafiad mor gyflym. Wrth gwrs, roeddwn i wedi bod yn rhyw fath o Aelod mainc cefn, ac yn rhyw arweinydd annigonol i blaid dipyn bach yn llai. Ond mi fuodd o, fel y cofiwn ni, yn San Steffan yn llefarydd swyddogol ar yr amgylchedd i’r wrthblaid, ar ynni, ac, wrth gwrs, ar faterion Cymreig. A dyna pryd y gosodwyd seiliau cynlluniau datganoli 1997.
Ac yna, yr weithred olaf, efallai, yn San Steffan, oedd bod yn gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus. Mae’n bwysig i ni ddweud am gyfraniad Rhodri fel seneddwr yn y Deyrnas Unedig nad rhyw fath o ‘maverick’ oedd y dyn yma. Roedd yn seneddwr dawnus, a oedd yn gallu defnyddio holl sgiliau’r Senedd i ddrysu’r Llywodraeth. Rwy’n cofio’n dda iawn am yr orfodaeth filwrol, bron, a oedd arnom ni i wrthwynebu morglawdd Bae Caerdydd, a Rhodri, wrth gwrs, a oedd y tu ôl i hynny i gyd.
Ac yna, pan ddaeth o yma—wel, fel rydych chi’n ei wybod, gallwn eich cadw chi yma drwy’r dydd am y 10 mlynedd hyfryd o berthynas a gefais i fel Llywydd cynta’r Cynulliad hwn gyda’r Prif Weinidog cyntaf, oherwydd fe oedd y dyn a greodd y swydd iddo fe’i hunan. Ac roedd y digwyddiad hwnnw, efallai, yn un y caf i eich atgoffa chi ohono fo cyn i fi gloi y prynhawn yma. Roedd hi tua un o’r gloch y prynhawn, ac ar yr adeg honno, rwy’n credu bod y Cynulliad yn cwrdd am hanner awr wedi dau—yn yr hen Siambr, wrth gwrs. Roedd y neges wedi dod bod Rhodri Morgan eisiau newid ei enw a theitl ei swydd. Ac yna, wrth gwrs, rhoddodd wybod i’r Llywydd ar y pryd, a dywedodd o mai’r teitl oedd ‘First Minister’ yn Saesneg.
Ond wedyn, dyma’r glo mân yn dod miwn, fel y byddwn ni’n ei ddweud yn nhafodiaith y gorllewin. Beth oedd y cyfieithiad Cymraeg cywir o ‘First Minister’? Oherwydd roedd yna ryw gyfieithydd, na wnaf i ei henwi—nid yw hi’n gweithio yn y lle hwn bellach—a oedd wedi cyfieithu ‘First Minister’ fel ‘Gweinidog Cyntaf’. Wrth gwrs, yn anaml iawn yn ei fywyd y mae rhywun yn teimlo bod ganddo fo awdurdod ar unrhyw bwnc, ond roeddwn i’n gwybod mai’r ‘Gweinidog Cyntaf’ oedd y gweinidog cyntaf a ddaeth i’r capel, ac wedyn daeth gweinidog wedyn, a gweinidog arall. Ac mi geisiais i esbonio:
‘We have two ways of saying these things in Welsh. There is primacy in terms of seriality, and there is real primacy. So, there is only one translation of this.’
‘First Minister’ yn Gymraeg yw ‘Prif Weinidog Cymru’. Chwarter awr cyn i’r Cynulliad eistedd, dyma’r e-bost yn dod, a’r neges yn dod nôl bod y Prif Weinidog yn derbyn yn llawen y bydd o’n cael ei alw’n ‘First Minister’ yn Saesneg a ‘Prif Weinidog Cymru’ yn Gymraeg. Fi oedd y person cyntaf yn y bydysawd i ddefnyddio’r geiriau ‘Prif Weinidog Cymru’. Ac rwy’n cofio fy mod i wedi trio ei siarad o bach yn ‘sotto voce’, fel bod neb yn cynhyrfu. Ond wrth gwrs, mae yna wastad un i gael. So, dyma Rhodri Glyn ar ei draed, wrth gwrs, ar bwynt o drefn, i ofyn i’r Llywydd beth oedd y teitl newydd yma, ac a oedd e’n wirioneddol yn ‘Brif Weinidog Cymru’. Wel, fe ddaeth Rhodri Morgan yn wirioneddol Brif Weinidog Cymru, ac fe ges i 10 mlynedd o bleser pur. Nid oeddem ni byth yn cwympo mas. Nid fy mod i’n argymell y dylai Llywyddion a Phrif Weinidogion gwympo mas, ond roedd e wedi digwydd o’r blaen, ac fe allai fe ddigwydd mewn llefydd eraill. Ond roedd Rhodri yn deall cyfansoddiad ym mêr ei esgyrn, a drwy ei ymennydd mawr i gyd. Roedd e’n deall yr egwyddorion o wahanu rhwng Llywodraeth a Chynulliad, yr angen i graffu ar Lywodraeth drwy fod yn annibynnol, a’r gallu i’r Llywodraeth dderbyn beirniadaeth. Roedd hynny i gyd yna, oherwydd ei brofiad o fel seneddwr yn San Steffan.
Felly, fe allwn ni wedyn fwrw ymlaen i godi’r hyn yr ydym ni wedi ei godi. Wrth gwrs, nid oedd o blaid yr adeilad yma. Roedd o eisiau estyniad yn y cefn, yn Nhŷ Hywel, ond chafodd o ddim o’i ffordd yn y cyfeiriad yna. Ond fo oedd y cyntaf i ddweud, unwaith y daeth yr adeilad i fod, ei fod o yn ymfalchïo ynddo fo. Rydw i’n falch ein bod ni, fel yr ydw i’n deall, yn bwriadu dathlu ei ymadawiad o o’r lle hwn yn briodol yn yr adeilad yma yr wythnos nesaf. Adeilad pobl Cymru yw hwn, ond Rhodri Morgan a adeiladodd y wleidyddiaeth ar ei gyfer o.