Part of the debate – in the Senedd at 5:33 pm on 24 May 2017.
During my short debate today, I would like to reflect, and ask, essentially, what role the National Assembly has, and what role the Welsh Government has, and which alternative models we are prepared to consider as we look to defend Wales, and future generations, against some of these challenges.
The proud history and identity of this nation goes back to the distant past, and is clearly reflected in our language, our culture, our art and our faith. I have often spoken about the importance of our history in this Chamber, and I’m not going to apologise for doing so again. It is vital that future generations learn about the rich history that we have. They need to hear a lot more about the history of Aneirin and Taliesin, Gwenllian, Prince Llywelyn the Last, Owain Glyndŵr, Bishop William Morgan, Williams Pantycelyn, the Rebecca riots, the betrayal of the blue books, the Welsh Not, and much more. Learning about our past and recognising our successes will certainly lead to a better understanding of our place in the world, and of what we have contributed to the world, and vitally, it provides a context for what can be achieved, and creates a precedent to inspire our future.
Many among the previous generations here in Wales were innovators. They created new things, they invented things, they were bold and they responded to the situation in Wales and the world as it was at the time. We often talk about our pride in the fact that the NHS was developed in the twentieth century by a Welshman, and that is appropriate: healthcare, free of charge, and for all, with Wales leading the way. However, long before Bevan, back in the middle ages, the physicians of Myddfai were great pioneers in the development of medicine in these isles hundreds of years ago. Then, about a century and a half ago, we had Hugh Owen Thomas and his nephew, Robert Jones, pioneering in the field of bone surgery, with Robert Jones being acknowledged globally as the leader and founder of orthopaedics as a specialism.
As we meet here today, we should be proud that we now have two medical schools—in Cardiff and Swansea—that will produce the next generation of bright junior doctors. But we need to produce more, which is why we need to see the establishment of a new facility in north Wales as well. While the foundations are there, it is clear that we need to do more to develop our medical expertise and to do more also to support medical innovation in the future.
Health is not, of course, the only area in which Wales has led the way historically. Industry is another. The industrial revolution was developed here in Wales—the start of a journey to a brighter future. Education is another one, with Wales leading the way through the innovative work of Griffith Jones of Llanddowror in the early eighteenth century, educating children in the day and adults in the evening, with these individuals then going on to teach others. This system of learning reached the point where the majority of the population of Wales was literate at that time—a quarter of a million people out of a population of less than half a million. Indeed, by the time Griffith Jones died in 1761, the country had the highest literacy level in the world, which led Catherine the Great of Russia to send a commissioner to Wales to learn lessons, and to see how the system could be adapted for Russia. Again, Wales leading the way. That’s where we’ve been, and that’s where we can be again.
Mae angen i ni allu troi at ein hanes, nid er mwyn dod o hyd i esgusodion am berfformiad gwael, ond fel ysbrydoliaeth i wella ein perfformiad. Ar gyfer ein presennol a’n dyfodol, gall Cymru wneud yn well. Mae’n ymddangos fel ddoe, ond 20 mlynedd yn ôl, roedd mwyafrif tenau o bobl Cymru yn feiddgar, ac roedd ganddynt ddigon o hyder i bleidleisio ‘ie’ i’r syniad eu bod yn byw mewn cenedl a oedd yn deilwng i lywodraethu ei hun. Mae’r hyder hwnnw wedi tyfu ymhellach ers hynny, wrth gwrs, gyda chefnogaeth lawer cryfach yn 2011. O ganlyniad, rydym yn rhannol hunanlywodraethol yn awr, ac mae ein cenedl, o’r diwedd, ar daith gyfansoddiadol. Mae’n daith gyffrous, ac yn daith sy’n llawn o bosibiliadau. Ond mae hyder cynyddol y Cymry yn golygu bod dyletswydd ar bob un ohonom yma i arloesi ac i ysbrydoli.
Hyd yn hyn, nid yw Llywodraethau datganoledig wedi gallu gwneud hynny mewn sawl maes. Maent naill ai heb gael y pwerau, neu’r uchelgais, neu gyfuniad o’r ddau o bosibl. Am wlad sydd wedi arwain y ffordd ym maes gofal iechyd, addysg a diwydiant, ai dyma’r gorau y gallwn ei wneud mewn gwirionedd? Byth ers i mi gael fy ethol gyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, anaml y mae rhyddhau ystadegau rheolaidd ar ddiweithdra, anghydraddoldeb economaidd a thlodi wedi bod yn ddeunydd darllen cadarnhaol. Trwy gydol y cyfnod o 18 mlynedd, mae rhannau o Gymru wedi parhau i fod, yn ystyfnig, yn rhai o’r ardaloedd tlotaf yn Ewrop. Mae ystadegau gwerth ychwanegol gros y pen yno i bawb eu gweld, ond yr hyn sy’n aml yn cael ei anwybyddu yw’r straeon dynol go iawn y tu ôl i’r ffigurau hynny. Mae’r ffigurau cyflogaeth diweddaraf yng Nghymru a gyhoeddwyd y mis hwn yn dangos mai etholaeth Dwyrain Abertawe yn fy rhanbarth sydd â’r gyfradd ddiweithdra uchaf yng Nghymru, sef 9 y cant, gyda’r gyfradd ddiweithdra ymysg pobl ifanc hyd yn oed yn uwch.
Ar ôl gwasanaethu fel meddyg teulu yn Abertawe am dros 30 mlynedd ac wedyn fel Aelod Cynulliad yn ysbeidiol dros y 18 mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith y gall diffyg cyfle a gwaith ei chael ar deuluoedd a chymunedau. Mae diweithdra sy’n pontio’r cenedlaethau yn rhemp yn rhai o’n cymunedau, nid yn unig yn Abertawe, ond ar draws Cymru, ac fel meddyg teulu, rwyf wedi gweld teuluoedd yn cael eu rhwygo oherwydd problemau iechyd meddwl, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a’r teimlad o ddiymadferthedd.
Mae’r system bresennol yn gwneud cam â phobl. Mae llywodraethau’n gwneud cam â phobl. Roedd yr her a’n hwynebai yng Nghymru o greu cyflogaeth, o leihau anghydraddoldeb economaidd a lleihau tlodi yn anodd ddigon fel ag yr oedd. Mae’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ein prif farchnad allforio, yn gwneud y dasg honno hyd yn oed yn anos, a bydd yn arwain at her a risg ddigynsail. Mae’n cyflwyno cwestiynau ac ansicrwydd yn ei sgil o ran ein gallu masnachu economaidd, cyflogaeth, addysg, ymchwil ac arloesedd a mewnfuddsoddi. Ni chafwyd dim sy’n debyg i hyn yn hanes datganoli.
O’m rhan i, mae angen inni weld ymdrech gyfunol, newid go iawn, ar ran Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr gwleidyddol Cymreig ar bob lefel er mwyn ceisio amddiffyn Cymru rhag y bygythiadau hyn. Trwy gydol fy amser yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, rwyf wedi teimlo ers tro fod Llywodraethau olynol wedi bod yn edrych llawer gormod tuag at i mewn—heb fod yn barod i edrych y tu hwnt i’n ffiniau. Nid yw hynny’n golygu copïo beth sy’n digwydd yn Lloegr yn unig, ond edrych tuag allan go iawn a bod yn wirioneddol ryngwladol ein hymagwedd tuag at bolisi a datblygu strategol. Mae cymaint i’w ennill drwy edrych ar lywodraethau eraill, edrych ar fodelau eraill, lle mae cyrff etholedig wedi llwyddo i gyflawni ar gyfer eu poblogaethau. Mae angen inni arloesi a dysgu gan yr ardaloedd hyn, yn enwedig gan wledydd is-wladwriaethol eraill a strwythurau ffederal. Llwyddodd Gwlad y Basg, er enghraifft, i sicrhau cyfradd twf economaidd blynyddol o 3.69 y cant rhwng 1995 a 2008. Pan oedd Gwlad y Basg yn creu cyflogaeth a chodi pobl allan o dlodi, nid oedd Cymru yn mynd i unman ac mewn rhai achosion, roedd yn mynd tuag at yn ôl.
Fy ngalwad ar Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr etholedig eraill yn syml yw na allwn adael i 18 mlynedd arall o ddatganoli fynd heibio heb wneud enillion economaidd sylweddol. Byddai hynny’n golygu y byddem wedi gwneud cam â’r bobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, gan gynnwys y rhai yn Nwyrain Abertawe ac eraill ledled Cymru. Mae’r teuluoedd hyn, y cymunedau hyn, yn chwilio am rywun i amddiffyn eu buddiannau o ddifrif. Fel sefydliad sy’n datblygu, mae angen i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn, a’i Lywodraeth, wynebu’r her a chofleidio a gwthio go iawn am newidiadau arloesol a all symud Cymru ymlaen. Mae’n golygu bod angen inni edrych gyda meddwl agored ar sut y gallwn ddatblygu model o lywodraeth yng Nghymru a all ddarparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf, ac ydy, mewn rhai achosion, mae hynny’n golygu edrych ar ein cymhwysedd fel sefydliad a beth rydym yn barod i wneud drosom ein hunain. Daw’r cyfle cyntaf i wneud hynny yn ddi-os yn ystod y trafodaethau Brexit, yn enwedig mewn perthynas â datganoli pwerau sydd ym Mrwsel ar hyn o bryd, a’r posibilrwydd o golli £680 miliwn y flwyddyn, a gawn ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd. Anwybyddwyd ein buddiannau ar bob cam o’r trafodaethau Brexit hyd yn hyn, ac mae angen i Lywodraeth Cymru wella ei gêm o ddifrif os yw’r pwerau a’r arian hwnnw i ddod i Gymru. Ni ddylai fod rhaid i ni dderbyn ceiniog yn llai.
Mae Cymru mewn perygl o ddod yn genedl angof yn yr hyn a elwir yn Deyrnas Unedig—yn ddim mwy na rhanbarth llai pwysig o Loegr. Pam y dylem oddef cael Senedd sydd â llai o bŵer nag unman arall yn y Deyrnas Unedig? Mae’r Cymry’n haeddu gwell, ac mae angen pwerau ar y Cynulliad Cenedlaethol i gynrychioli’n briodol y bobl sy’n ei ethol. Mae safbwynt presennol Llywodraeth Geidwadol y DU ar Brexit yn golygu bod diwydiant ac amaethyddiaeth yng Nghymru mewn perygl difrifol. Sut y gallwn ystyried datblygu swyddi a lleihau tlodi yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd os yw’r ddau ddiwydiant hwn yn dioddef y fath ergyd? Mae angen iddynt gael eu hamddiffyn, nid cael eu bwydo i’r bleiddiaid. Wrth negodi cytundebau masnach neu mewn trafodaethau economaidd eraill, dylai Cymru gael dweud ei barn yn gyfartal, yn enwedig os ydynt yn effeithio ar swyddogaethau datganoledig megis amaethyddiaeth ac iechyd.
Gyda busnesau’n bygwth symud o Gymru am fod arnynt ofn costau uwch o ganlyniad i adael yr UE, dylem wthio i sicrhau pŵer i Gymru osod ei chyfraddau treth ei hun, gan gynnwys treth gorfforaeth, toll teithwyr awyr a thâl ar werth. Mae angen i ni ddenu busnesau i Gymru, a byddai ystod ehangach o bwerau cyllidol yn ein galluogi i wneud cymaint yn fwy i fynd i’r afael â’n heriau economaidd. Sut y mae’n deg fod rhannau eraill o’r DU yn cael pwerau dros dreth gorfforaeth a tholl teithwyr awyr, ond nad oes gan Gymru bwerau o’r fath? O ran cynorthwyo busnesau lleol i dyfu, gwyddom fod llawer gormod o gontractau caffael cyhoeddus ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yn cael eu rhoi i gontractwyr y tu allan i Gymru. Dylem fod yn gwneud llawer mwy, o gymharu â chymaryddion rhyngwladol, i gynorthwyo cwmnïau lleol i wneud cais am y contractau hyn, ac i sicrhau bod cymaint o’r bunt Gymreig yn cael ei gwario yma yng Nghymru i gefnogi cwmnïau lleol a chyflogi pobl leol drwy gymalau siarter gymdeithasol. Clywsom lawer o sôn am hyn dros y blynyddoedd, ond mae’r canlyniadau’n dal i fod yn wael.
Mae seilwaith yn elfen allweddol amlwg ar gyfer sicrhau twf a datblygiad economaidd ac o ystyried gwariant di-nod Cymru ar seilwaith yn hanesyddol, ni ddylai fod yn syndod fod rhannau o’r wlad mor dlawd. Pan edrychwch ar y seilwaith mewn rhai rhannau o Gymru, yn syml iawn, nid yw’n addas at y diben, ac mae’n amlwg fod angen i ni gynyddu ein gwariant yn sylweddol os ydym i wneud cynnydd, ac mae angen i ni edrych ar fodelau ariannol arloesol i wneud hynny. Mae gan hyn ran allweddol i’w chwarae yn ein hadferiad economaidd, gan gydnabod nad yw seilwaith ffisegol traddodiadol yn ddigon ynddo’i hun, a bod yna gêm newydd yn y dref.
Yn erbyn y cefndir hwn rwy’n arbennig o obeithiol ynglŷn â bargen ddinesig bae Abertawe, gyda’i ffocws clir ar ddatblygu diwydiant a swyddi yn seiliedig ar gynnydd technolegol. Mae gan glystyrau o fusnesau mewn meysydd megis gwyddorau bywyd, ynni a gweithgynhyrchu botensial i roi hwb sylweddol i’r economi yn y rhan hon o’r byd. Yr hyn sy’n arbennig o galonogol am fargen ddinesig bae Abertawe yw’r uchelgais a ddangoswyd, penderfyniad, nid yn unig i oroesi, ond i anelu am rywbeth gwahanol, i anelu at fod yn arweinwyr byd, i feddwl y tu allan i’r bocs, a gwneud hyn ar sail drawsbleidiol.
Y math hwn o feddwl sydd angen i ni ei weld ar lefel Cymru gyfan—ymagwedd sy’n dweud bod Cymru wedi cael digon o fod yn ail orau ac wedi cael digon ar fod yn sinderela. Mae angen i ni weld agwedd, yn enwedig gan Lywodraeth Cymru, sy’n dweud mewn gwirionedd ein bod yn chwilio am rywbeth gwahanol, rydym yn mynd i anelu at fod yn arweinwyr byd, rydym yn mynd i feddwl y tu allan i’r bocs.
Yn rhy hir, yr hyn a welsom gan y DU a Llywodraeth Cymru yw agwedd hen ffasiwn, ymerodrol, ‘Llundain sy’n gwybod orau’—nid yw hynny’n wir. Y math hwnnw o feddwl, yn syml iawn, sydd wedi arwain at wneud gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn un o ranbarthau tlotaf Ewrop, ac at eu cadw felly.
Yn ogystal ag ymladd am ragor o bwerau economaidd i helpu i fynd i’r afael â’r tlodi cynhenid, mae angen inni hefyd hyrwyddo Cymru dramor fel opsiwn byd-eang ar gyfer twristiaeth a buddsoddi. Dylai’r gwaith da a gwblhawyd yn ddiweddar ym Maes Awyr Caerdydd ar ddenu Qatar Airways, er enghraifft, gael ei weld fel y dechrau. Yn hanesyddol, byddai Cymru wedi bodloni ar hynny i orffen y gêm. Ni all hynny ddigwydd yn awr. Os yw Cymru am lwyddo mewn sefyllfa ryngwladol, a denu ymwelwyr a buddsoddwyr posibl, yna mae angen iddi gael ei gweld ac mae angen iddi fod o fewn cyrraedd.
Er mwyn cyflawni hyn, mae angen inni wneud llawer mwy i hyrwyddo Cymru dramor, felly pam nad oes gennym bresenoldeb Cymreig yn llysgenadaethau’r DU i hyrwyddo ein pobl a’n busnesau? Mae angen inni ddatblygu polisi rhyngwladol i Gymru, gan sicrhau presenoldeb ar y llwyfan rhyngwladol a fyddai’n helpu i ddatblygu ac adfer ein safle fel cenedl fasnachu fawr.
Mae gennym gymaint o adnoddau heb eu defnyddio—edrychwch ar y potensial ar gyfer cynhyrchiant ynni’r llanw ym mae Abertawe, Caerdydd a Bae Colwyn, a photensial rheoli ein hadnoddau hefyd er budd ein pobl ein hunain—adnoddau heb eu defnyddio a chyfoeth heb ei ddefnyddio. Mae’n fwy na phosibl y bydd llawer o’n pobl ifanc, sy’n gadael Cymru ar hyn o bryd i astudio neu i chwilio am waith, yn canfod yn y dyfodol y byddant, mewn gwirionedd, yn gallu cyflawni eu nodau a’u huchelgeisiau yn agosach at adref, yn union fel y mae pobl yn ei wneud yng ngweddill y byd. Trwy gadw ein pobl ifanc dalentog yng Nghymru, i ddechrau cwmnïau, i wneud gwaith ymchwil, i arwain ein cyrff cyhoeddus, byddai Cymru’n hedfan fel na hedfanodd erioed o’r blaen.
Ond i gyrraedd y pwynt hwnnw, mae angen arweinyddiaeth wleidyddol—arweinyddiaeth wleidyddol i weithredu’r mathau o syniadau a drafodais yn ystod y ddadl hon. Dros y 10 mlynedd neu fwy nesaf, mae gan Gymru ddau ddewis clir iawn: y cyntaf fydd parhau yn ei ffurf bresennol, gan edrych tuag at Lundain i raddau helaeth am arweiniad a chyllid; neu gall ddechrau arwain, dechrau gadael ei hôl ei hun ar y byd a dechrau cyflawni peth o’i photensial sylweddol.
Pan agorais y ddadl hon, siaradais am y diffyg cynnydd economaidd yn y 18 mlynedd ers datganoli. Ni fyddaf yn feddyg teulu na’n Aelod Cynulliad ymhen 18 mlynedd arall, ond os byddaf yn ddigon ffodus i fod o gwmpas, byddwn yn gobeithio gweld bod Cymru wedi bod yn feiddgar ac wedi penderfynu gwneud ychydig yn fwy o’r gwaith caled drosti ei hun. Amser a ddengys pa un a fydd y Cymry a’u Llywodraeth yn mynd i’r afael â’r her honno. Diolch yn fawr.