6. 7. Debate: The Review of Designated Landscapes in Wales

Part of the debate – in the Senedd at 4:29 pm on 6 June 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:29, 6 June 2017

(Translated)

I have the huge privilege of having a home in a national park, in St Davids, and there’s nothing like waking up in the morning and seeing that coastline in front of you. But there are limitations in living in a national park, particularly in terms of construction. It’s a function and a responsibility of national parks to ensure that there is a balance between retaining the beauty of the countryside and enabling the local population to live there. That’s something that needs to be dealt with sensitively.

Nawr, bydd llawer ohonoch yn gwybod fy mod i ar hyn o bryd, ynghyd â thîm o fusnesau a sefydliadau llwyddiannus yng nghefn gwlad Cymru, yn ceisio datblygu cynllun datblygu economaidd ar gyfer Cymru wledig. Yr hyn a oedd yn amlwg oedd ei bod yn bwysig i ni gael cynrychiolydd o'r parciau cenedlaethol ar y grŵp hwnnw, a hynny oherwydd bod gan y parciau cenedlaethol, wrth gwrs, gyfrifoldeb i warchod harddwch yn y dirwedd y maen nhw’n ei gweinyddu, ond mae ganddynt hefyd, fel yr awdurdodau cynllunio , gyfrifoldeb i fod yn rhan o'r ateb i ddatblygiad economaidd yng Nghymru wledig, ac nid, fel y maent wedi eu portreadu yn y gorffennol, yn rhwystr iddo.

Rwyf eisiau bod yn glir: rwy’n deall mai prif gyfrifoldeb parc cenedlaethol, yn unol â Deddf yr Amgylchedd 1995, yw yn gyntaf oll gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol parciau cenedlaethol. Yn ail, eu tasg yw hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dealltwriaeth a mwynhad o nodweddion arbennig y Parc gan y cyhoedd. Ac yn drydydd, ac yn bwysig, yr elfen sy'n cael ei hanghofio yn aml yw bod gan barciau cenedlaethol hefyd y ddyletswydd honno i feithrin llesiant economaidd a chymdeithasol eu cymunedau lleol. Nawr, yr hyn nad oeddwn yn ei ddeall tan yn ddiweddar yw nad yw honno ond yn ddyletswydd i'r graddau y mae'n ymwneud â gwarchod harddwch a hyrwyddo mwynhad o'r parc. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn clywed Siân Gwenllian yn siarad am yr hyn sy'n digwydd yn Eryri. Byddai gen i ddiddordeb mewn cael gwybod sut y maen nhw’n llwyddo i ysgaru llesiant economaidd a chymdeithasol oddi wrth y ddau beth hynny, gan nad wyf yn deall sut y mae hynny'n cyd-fynd â Deddf yr Amgylchedd 1995. Byddai’n ddiddorol gwybod— [Torri ar draws.] Rwy'n credu ar hyn o bryd bod y cyfyngiad yno, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn gyfyngiad cryf o ran eu galluoedd cynllunio.