Part of the debate – in the Senedd at 2:40 pm on 13 June 2017.
Thank you very much, Deputy Presiding Officer. The onset of tax devolution has inevitably taken a great deal of the time of the National Assembly. In 2015, responsibility for non-domestic rates was transferred to Wales. In March 2016, the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016 reached the statute book. In December of last year, a new fiscal framework was agreed with the Treasury. Last month, the Land Transaction Tax and Anti-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Act 2017 received Royal Assent. Next week, landfill disposal tax will reach Stage 3 proceedings in the scrutiny process. Over the summer, Bangor University will be working on the first independent assessment of the Welsh Government’s tax forecasts. By 1 October of this year, I will announce the first set of rates and bands for the land transaction tax and the landfill disposals tax. At the start of April next year, the Welsh Revenue Authority will be in practical operation, collecting and managing those taxes in Wales. The intention is that the process of partial devolution of income tax will begin in April 2019.
Dirprwy Lywydd, ar y pwynt hwnnw, pan fydd yr amserlen helaeth hon wedi cyrraedd ei chasgliadau, bydd penderfyniadau a wneir yn y Cynulliad Cenedlaethol yn llunio’r polisi a’r camau gweithredu ymarferol i godi gwerth £5 biliwn o refeniw i sefydlu ein gwasanaethau cyhoeddus, a natur y gymdeithas yr hoffem fod. Mae arfer gorau rhyngwladol, a gymeradwywyd gan yr OECD, yn awgrymu y dylid cyflawni cyfrifoldebau ar y raddfa hon o fewn fframwaith polisi clir, a gyhoeddir yn agored i ddinasyddion, yn ein holl wahanol ffurfiau, gydag eglurder ynghylch y dull a ddefnyddir—yn ein hamgylchiadau ni, gan Lywodraeth Cymru wrth ymdrin â threthi Cymru.
Dirprwy Lywydd, gadewch imi gofnodi eto y ffaith nad yw’r Llywodraeth hon yn gweld dim atyniadau o gwbl yn economi dreth isel, gyflog isel, fuddsoddiad isel, ddidrugaredd y dychymyg neo-ryddfrydol. Trethi yw'r pris mynediad y mae pob un ohonom yn ei dalu i fyw mewn cymdeithas wâr. A, Dirprwy Lywydd, mae pob un oedolyn yng Nghymru—a llawer o blant, hefyd—yn drethdalwyr, ac mae ein dinasyddion tlotaf yn aml iawn, ac yn llawer rhy aml, yn talu cyfran uwch mewn treth o’u hincwm annigonol na'r rhai sydd â mwy o arian nag a fydd byth ei angen arnynt. Dyna pam mae trethi hefyd yn fuddsoddiad yn ein dyfodol ar y cyd. Mae’r hyn yr ydym yn dibynnu arno heddiw’n ddyledus iawn i’r trethi a dalwyd yn y gorffennol gan ein rhieni a’n neiniau a’n teidiau. Mae'r gwasanaethau cyhoeddus hyn yn fudd sy'n diffinio ein cymdeithas ac yn tanategu ei gwerthoedd. Ni fyddent yn bosibl heb drethiant. Dylai trethi da fod yn effeithlon ac yn effeithiol, gan gynhyrchu’r budd mwyaf posibl am eu cost, a dylent gydnabod sefyllfa Cymru, o fewn y Deyrnas Unedig a bod yn gydnaws â fframwaith trethiant y DU a'r un rhyngwladol ehangach.
Mae'r fframwaith polisi treth, y mae'r Llywodraeth wedi’i gyhoeddi, yn adeiladu ar y pum egwyddor a nodwyd yn flaenorol ar gyfer trethi yng Nghymru, sef y dylai trethiant godi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus mor deg ag y bo modd; y dylai trethiant helpu i gyflawni amcanion cyllidol a pholisi ehangach, gan gynnwys swyddi a thwf economaidd; y dylai trethiant fod yn syml, yn glir a sefydlog; y dylid datblygu trethiant drwy ymgysylltu â threthdalwyr a rhanddeiliaid yn fwy cyffredinol; ac y dylai trethiant gyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 o greu Cymru fwy cyfartal.
Bydd cyfres newydd Cymru o bwerau treth yn sicrhau bod gan bobl yma ddewis go iawn—am y tro cyntaf—am lefel y trethi a delir ac am ansawdd a nifer y gwasanaethau cyhoeddus a ddatganolir. Roedd maniffesto fy mhlaid yn cynnwys ymrwymiad i beidio â chynyddu treth incwm yn ystod oes y Cynulliad hwn. Mater i'r pleidiau gwleidyddol fydd amlinellu eu cynlluniau ar gyfer cyfraddau treth cyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021. Yn y tymor Cynulliad hwn, byddwn yn ystyried yn ofalus cyfraddau treth eraill a'u heffeithiau ar y cyd, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gynhyrchu digon o refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, tra'n parhau i fod yn deg a chefnogi twf economaidd.
Gall trethiant hefyd gyfrannu, fel y gwyddom, at ddylanwadu ar ymddygiad. Byddwn yn ystyried a ellir cyflwyno trethi newydd i Gymru mewn ffordd effeithlon i weithredu ochr yn ochr â'n harfau polisi presennol neu newydd. Mae trafodaeth ar drethi newydd wedi cael ei threfnu yn amser y Llywodraeth i gael ei chynnal cyn diwedd tymor yr haf hwn.
Dirprwy Lywydd, bydd y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi’n cael eu casglu a'u rheoli gan Awdurdod Cyllid Cymru, sy'n dod yn weithredol yn 2018. Bydd yr awdurdod yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ledled Cymru ac awdurdodau treth eraill yn y Deyrnas Unedig i greu darlun cynhwysfawr o ddarparu gwasanaethau treth, cydymffurfiaeth a datblygu polisi treth. Bydd yn gweithio i gydlynu gweithgarwch er budd trethdalwyr.
I gyflwyno polisi treth i Gymru, bydd angen ymagwedd gadarn, gyson a gwybodus. Prif dasg Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad hwn, rwy’n credu, fydd ymgorffori'r trefniadau treth newydd ac adeiladu’r sail dystiolaeth fel y gallwn ddeall beth yw’r ffordd orau inni ddefnyddio ein pwerau trethi yn y dyfodol. Bydd hyn yn golygu bod angen mewnbwn gan amrywiaeth eang o bartïon â diddordeb—gan unigolion, busnesau, mudiadau’r trydydd sector ac, wrth gwrs, gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol ei hun. Bydd barn arbenigwyr treth a gweithwyr proffesiynol eraill yn bwysig i'r gwaith hwn, ond bydd hefyd yn bwysig clywed yn uniongyrchol gan ddinasyddion ledled Cymru am yr hyn y maent yn ei feddwl am lefel a graddau codi refeniw a threthu yng Nghymru. I ysgogi’r ymgysylltu a’r trafod hwnnw, mae cynllun gwaith, sy'n nodi'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod â rhai materion ymchwil mwy hirdymor i lywio polisi treth yn y blynyddoedd i ddod, wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r fframwaith polisi treth.
Rwyf hefyd wedi ymrwymo i broses flynyddol ar gyfer polisi treth yng Nghymru. Cyhoeddir penderfyniadau am y polisi treth ochr yn ochr â chyllideb Llywodraeth Cymru, gan adlewyrchu'r cysylltiad uniongyrchol rhwng trethi a'r adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Dirprwy Lywydd, our tax powers enable us, for the first time, to develop an approach to taxation which reflects the needs and circumstances of Wales. The publication of the tax policy framework and work plan is the beginning of this process. I look forward to hearing the views of Members in this Chamber today and to working with Members and the people of Wales in coming years as our tax powers develop. Thank you very much.