3. 3. Statement: The Tax Policy Framework

Part of the debate – in the Senedd at 3:29 pm on 13 June 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:29, 13 June 2017

(Translated)

Thank you very much, Deputy Presiding Officer. May I thank Adam Price too for what he said about the work programme?

Mae'r rhaglen waith yn gyhoeddiad pwysig iawn ochr yn ochr â'r fframwaith. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau o bleidiau eraill yma’n gweld, lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhai ymrwymiadau penodol i gynnwys eitemau yn y rhaglen waith, y gallwch eu gweld yno. Mae hynny'n cynnwys y posibilrwydd o ryddhad ardrethi ynni y soniodd Adam Price amdano. Mae pŵer i wneud rheoliadau yn y Ddeddf treth trafodiadau tir sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r pŵer hwnnw i wneud rheoliadau i gyflwyno gostyngiadau newydd.

Rwyf wedi ceisio nodi tri maen prawf bob tro yr ydym wedi siarad am ostyngiadau newydd cyn belled ag y mae LTTA dan sylw. Byddai angen pwrpas polisi y cytunwyd arno—ac rwy’n meddwl bod rhyddhad egni’n bodloni hynny, oherwydd rydym yn chwilio am fanteision amgylcheddol yno—mae'n rhaid iddynt fod yn fforddiadwy, ac yn drydydd rhaid iddynt fodloni eu cynulleidfa arfaethedig. Dyna mae'n debyg y peth allweddol—y prawf allweddol y mae'n rhaid ei basio wrth inni edrych ar y posibilrwydd o ryddhad ardrethi ynni. Oherwydd cafodd rhyddhad o'r fath ei gyflwyno rhwng 2007 a 2012, a gwnaethom gefnu arno, i bob diben, oherwydd bod y dystiolaeth empirig yn dangos nad oedd y rhyddhad, yn syml, wedi cyrraedd y bobl y bwriadwyd ef ar eu cyfer, ac nad oedd wedi cael yr effaith polisi yr oeddem wedi gobeithio amdano. Ond mae yno yn y rhaglen waith er mwyn caniatáu i’r pethau hyn gael eu profi ymhellach, ac rwy'n awyddus iawn ein bod yn gwneud hynny.

Rwy'n meddwl y bydd Aelodau gyferbyn hefyd yn gweld yn y rhaglen waith ymrwymiad penodol gan Awdurdod Cyllid Cymru i gyhoeddi data am y gyfradd uwch ar gyfer ail gartrefi ac a yw hynny’n cael effaith ranbarthol yng Nghymru, i ganiatáu i awdurdodau lleol a allai ddymuno gwneud achos i Lywodraeth Cymru am drefniadau gwahaniaethol yn y dyfodol i fod â’r data y byddai eu hangen arnynt er mwyn gallu gwneud yr achos hwnnw’n effeithiol.

A gaf i ategu’r hyn a ddywedodd Adam Price ynglŷn â'r Aelod Seneddol newydd ar gyfer Ceredigion? Roeddwn yn teimlo bob amser ei fod wedi chwarae rhan adeiladol a defnyddiol iawn yn y trafodaethau sydd wedi digwydd rhwng ein dwy blaid, ac rwy’n amlwg yn ei longyfarch yn fawr iawn ar ei lwyddiant yno yr wythnos diwethaf.

Cyn belled ag y mae’r toll teithwyr awyr dan sylw, mae hwn wir yn faes lle nad yw hanes Llywodraeth y DU yn dal dŵr. Mae'n dangos eu bod wedi llunio polisi treth yn hollol ar hap ledled y Deyrnas Unedig. Argymhellodd eu Comisiwn Silk eu hunain o leiaf ddatganoli toll teithwyr awyr ar gyfer teithiau pell. Mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyhoeddi'r dystiolaeth y maent yn dweud eu bod wedi ei defnyddio er mwyn gwrthod datganoli'r dreth hon i Gymru yn rhywbeth na ellir ei gynnal. Byddwn yn parhau i weithio, fel y mae’r rhaglen waith yn ei ddweud, i ddangos ein cred y byddai datganoli’r darn hwn o drethiant yn briodol er budd nid yn unig i Gymru ond i economïau cyfagos inni hefyd.

Mae'r mater o ddatganoli treth gorfforaeth wedi cael ei godi nifer o weithiau yma y prynhawn yma. Rwy'n ymwybodol o'r amrywiad Holtham ar ddatganoli treth gorfforaeth, a darllenais â diddordeb erthygl ddiweddar gan Eurfyl ap Gwilym sy'n dychwelyd at y syniad. Fy marn i yw ei fod yn dal i fod yn rhywbeth y dylem barhau i’w drafod. Rwyf wedi dweud yma yn y gorffennol, Dirprwy Lywydd, fy mod yn pryderu am ras i'r gwaelod o ran datganoli treth gorfforaeth, ond mae ffyrdd, efallai, y gellid lliniaru hynny pe câi ei wneud mewn ffyrdd penodol. Sylwais fod Eurfyl ap Gwilym yn dweud yn ei bapur y byddai’n wleidyddol dderbyniol i Lywodraeth y DU osod cyfraddau’n newidiol fel hyn mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Ac ni allwn ond credu y byddai'n un o'r syniadau hynny a fyddai'n wleidyddol dderbyniol i'r rheini sy'n elwa ohono, ac efallai ychydig yn llai derbyniol i'r rheini nad ydynt. Ond dadl ar gyfer diwrnod arall yw honno. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan y prynhawn yma yn yr hyn sydd wedi bod, rwy’n meddwl, yn drafodaeth ddefnyddiol iawn am y cyfrifoldebau newydd pwysig iawn hyn.