Part of the debate – in the Senedd at 5:15 pm on 21 June 2017.
Thank you very much, Deputy Presiding Officer, and thank you to the Cabinet Secretary for closing the debate in a consensual manner, and I will return to some of his points in a few moments’ time. But the purpose of the Plaid Cymru debate today was to ensure that we keep a focus here in Wales on what is crucially important for Wales, for Wales’s economy and for our communities. We do that without any apology that there is another Brexit debate. There are eight Bills related to Brexit in the Queen’s Speech, so I can tell you, if you’re sick and tired of Brexit by now, then there’s far more to come over the next two years from the Westminster Parliament.
But we propose and move this motion because we believe that the political situation has changed, because the UK Government, and the Conservative Party specifically, went to the country just two months ago—just two months ago—seeking a mandate for the kind of Brexit that they wanted to see. And what was that Brexit? It’s been called a hard Brexit, but it was set out very clearly in the Lancaster House speech. It was a Brexit that left the European Union, yes, but also left the single market and exited the customs union. Plaid Cymru is of the view that we should remain within both of those institutions, and that is what’s been agreed between ourselves and the Labour Party in the White Paper.
But more importantly still, the people—not just the people of Wales, but people from across the UK—said that they were against the Brexit that Theresa May wanted to push forward. It’s true that one couldn’t discover exactly what kind of Brexit people wanted to see through the election of a hung Parliament, but it wasn’t the kind of Brexit that would destroy the Welsh economy and Welsh jobs. By now, of course, we have seen the u-turn that’s happened with the Chancellor now talking of protecting jobs, the Chancellor talking about keeping some sort of customs regime, and the Chancellor talking about a transitional period—something that wasn’t on the Conservative Party’s agenda prior to the election and something that has totally changed. That’s why Plaid Cymru believed that it was important that the Assembly should restate, if not unanimously, but certainly in terms of a party majority here, that these are the principles that we should base the Brexit negotiations on.
We are strongly of the view that all the powers and resources currently exercised at the EU level within the devolved competencies should be exercised by the National Assembly for Wales after Wales leaves the European Union. I was quite fond of Eluned Morgan’s concept that these powers had been lent to the European Union and should be returned. That might not be legally accurate, but I think we understand the concept in her remarks. That’s why the pledge made in amendment 1 by the Conservatives and in the Queen’s Speech—something that we’ve heard in the past, if truth be told—that powers will not be removed from the Assembly, well, that’s nowhere near enough for us. And it shouldn’t be enough for any party elected to the national Parliament of Wales, because that pledge not to withdraw powers from us doesn’t answer the question of what will happen to those powers that are released at the EU level and then should be returned directly to Wales in our view.
Hoffwn droi at rai o’r cyfraniadau unigol i’r ddadl yn awr, a dweud yn gyntaf oll fy mod yn meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymdrin yn ddigonol—yn fwy na digonol—â’r pwynt yn ymwneud â’r undeb tollau a’r pryderon a oedd gan Eluned Morgan. Hoffwn gofnodi bod safbwynt Plaid Cymru yn union yr un fath â’r safbwynt a nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, a chredwn y dylem aros yn yr undeb tollau, am y tro o leiaf. Ond pe bai trafodaethau i fod—mae hwn yn bwynt pwysig: nid oes gennym ddewis ynglŷn â hyn; Llywodraeth San Steffan fydd yn penderfynu hyn—pe bai’r trafodaethau hynny’n digwydd, yna does bosibl na ddylem fod yn rhan ohonynt a chael llais cyfartal â chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig yn y trafodaethau ar gytundebau masnach.
Dywedodd Neil Hamilton fod hyn yn afrealistig, oherwydd bod yr enghreifftiau a roddodd Adam Price, boed yn Awstralia neu Ganada, yn wledydd o fath gwahanol gyda gwahanol wladwriaethau gofodol a gwahanol boblogaethau. Wel, mae 13.6 miliwn o bobl yn Ontario a 146,000 o bobl ar Ynys Tywysog Edward—ni wyddwn fod y Tywysog Edward wedi cael swydd fel ynys, ond dyna ni. Dyna’r gwahaniaeth go iawn, rwy’n meddwl: yng Nghanada, mae’r ddwy ohonynt yn daleithiau; roedd gan y ddwy ohonynt lais cyfartal yn y cytundeb masnach a luniwyd gan Ganada i fod yn gytundeb masnach ar gyfer Canada. Felly, nid wyf yn credu bod ei ddadl yn dal dŵr. Ac rwy’n credu bod dadl Neil Hamilton a dadl Mark Isherwood yn rhannu ffynhonnell gyffredin, rhaid i mi ddweud. Mae sylfaen y ddadl yr un fath. Y sylfaen yw ein bod yn wlad wych, y DU, mae’n anghredadwy pa mor wych ydym ni, ac felly bydd yn rhaid i’r Ewropeaid hyn lunio cytundebau â ni. Wel, nid yw masnach yn gweithio fel yna. Crybwyllodd Adam Price y gallai fod yn rhaid inni fynd yn ôl i’r ddeunawfed ganrif. Wel, ewch yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg; ewch yn ôl at Disraeli. Beth a ddywedodd Disraeli am fasnach?
Nid egwyddor yw masnach rydd. Dull ydyw.
A phan ddaw’n bryd inni drafod ein perthynas â’r 27 o wledydd Ewropeaidd eraill sydd ar ôl, bydd ganddynt oll ddulliau y bydd angen i bob un eu harfer, a bydd egwyddor masnach rydd, nad yw mor egwyddorol â hynny beth bynnag, yn cael ei haberthu o bryd i’w gilydd ar allor realiti gwleidyddol. Dyna pam ei bod yn bwysig i lais Cymru gael ei glywed yn y trafodaethau hyn, ac nad yw’n cael ei wanhau mewn unrhyw ddull na modd.
Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn pryderu y byddwn yn dal i wynebu effeithiau economaidd difrifol o’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid hi yw’r unig un. Mae Mark Carney yn credu y byddwn yn wynebu effeithiau economaidd difrifol. Rhybuddiodd yn araith Mansion House ddau ddiwrnod yn ôl yn unig fod gwasgfa ar gyflogau ar ei ffordd o ganlyniad uniongyrchol i hynny.
Ac mae’n bwysig. Wrth i’r morloi gyfarth o Rosili, mae’n bwysig hefyd ein bod yn diogelu nid yn unig yr economi, ond y safonau a’r amddiffyniadau a hawliau gweithwyr sydd gennym ar hyn o bryd fel aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Nid oherwydd ein bod eisiau gwneud hynny yn syml am eu bod yn bodoli, ond oherwydd ein bod yn credu bod Llywodraeth Geidwadol wedi’i chynnal gan y DUP yn gweld y rhain fel pethau sy’n barod i gael eu cymryd oddi wrthym. Ac mae’n rhaid diogelu Bil diddymu, a fydd yn eu cadw dros dro yn unig efallai tra bod y Ceidwadwyr a’r DUP yn gweithio ar fanylion yr hyn y byddent yn hoffi ein hamddifadu ohono o ran ein hawliau, yn y cyd-destun Cymreig. A dyna pam y mae morloi Rhosili—a morloi Sir Benfro yn ogystal, os caf ddweud, sy’n cael eu diogelu lawn cystal gan Dai Lloyd rwy’n siŵr—yn iawn i alw am Fil parhad yn awr, rwy’n credu: ein bod yn datgan yr hyn rydym yn ceisio ei warchod yma yn ein Cynulliad ein hunain.
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn dyner iawn ac yn eithaf hael, rwy’n meddwl, yn ei agwedd at y modd rydym wedi gosod y ddadl hon—nid yn unig y cynnig ynddo’i hun, ond cyd-destun y cynnig. Ond rhaid i mi ddweud hyn, gan fynd yn ôl at yr agoriad a’r sylwadau manwl iawn, wedi’u dadlau’n dda gan Steffan Lewis, nid ydym wedi clywed eglurhad clir, mewn gwirionedd, o safbwynt Llywodraeth Cymru yn awr. Rydym yn gwybod beth oedd yn y Papur Gwyn, ac rydym yn derbyn hynny, ond mae gwleidyddiaeth yn newid—rwy’n derbyn hynny—a gadewch inni fod yn onest, nid y Ceidwadwyr yn unig a newidiwyd gan yr etholiad cyffredinol, fe newidiodd y Blaid Lafur hefyd. Rydym yn wynebu math gwahanol o Blaid Lafur bellach.
Felly, ble rydym yn awr? Ac nid wyf yn credu mai dadl yw’r lle iawn i ddatrys y mathau hyn o fanylion. Mae’n gwestiwn diwinyddol i ryw raddau. Ond rydym yn awyddus i gael y drafodaeth hon oherwydd ein bod eisiau deall ble, yn awr, pan fo gennych dros 50 o ASau Llafur a gwleidyddion o bwys, ac arglwyddi, sy’n dweud, ‘Aelodaeth o’r farchnad sengl ydyw’ pan fyddant yn ysgrifennu, ynghyd â Cheidwadwyr eraill, ‘Rydym am barhau’n aelodau o’r farchnad sengl’—rhywbeth y gall Plaid Cymru ei gefnogi—ac eto ni allwn gael y Prif Weinidog i ateb Leanne Wood a dweud, ‘Ie, aelodaeth o’r farchnad sengl.’ Ni allem ei gael i ddweud ‘cymryd rhan’ yn yr union ffordd y mae’n ei ddweud yn y Papur Gwyn.
Rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sydd angen ei ddatrys, gan fy mod hefyd yn meddwl bod yna lawer o waith i’w wneud ar ran pobl Cymru yma, ac rwy’n meddwl yn sicr fod mwy nag un blaid yn y Cynulliad sy’n gallu gwneud hyn, a cheir unigolion o fwy na dwy blaid. Rwy’n meddwl bod yna unigolion mewn mannau eraill a allai fod â diddordeb mewn symud hyn ymlaen hefyd. A hoffwn ein gweld yn cydweithio cymaint â phosibl ar y materion hyn, ond er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i’r Prif Weinidog ei hun roi ymrwymiad clir iawn ynglŷn â’r hyn y mae’n ceisio ei gyflawni ar ran Cymru.