5. 5. Debate by Individual Members under Standing Order 11.21(iv): Energy Efficiency

Part of the debate – in the Senedd at 4:03 pm on 28 June 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:03, 28 June 2017

(Translated)

In another language. But there are plenty of valid points that have already been made.

Ategaf y pwyntiau roedd Huw Irranca-Davies yn eu gwneud, yn arbennig ynglŷn â gwneud effeithlonrwydd ynni yn fater o flaenoriaeth seilwaith cenedlaethol. Yr hyn sy’n mynd gyda hynny, ar un ystyr, yw’r ymdeimlad o genhadaeth genedlaethol ynglŷn â maint yr her y mae ef ac eraill wedi’i nodi.

Rydym wedi amlinellu ac wedi siarad eisoes am fanteision amgylcheddol ac yn hollbwysig, yr effaith ar ein nod o leihau tlodi tanwydd. Rwyf am gyffwrdd yn fyr ar y budd economaidd arall y mae rhai wedi sôn amdano, sef cryfhau ein heconomïau lleol, sy’n un o’r amcanion y mae llawer ohonom yn y Siambr yn eu rhannu. Mae nifer o siaradwyr wedi crybwyll mater yr economi sylfaenol, sy’n chwarae rhan yn ein heconomi genedlaethol, ac mae’n ymddangos i mi fod ôl-ffitio tai at ddibenion effeithlonrwydd ynni yn enghraifft berffaith o’r mathau o sectorau a gweithgareddau yr ydym yn edrych arnynt pan fyddwn yn siarad am y math hwnnw o weithgaredd economaidd lleol, gyda’r galw parhaus, sy’n gallu cefnogi, fel y mae eraill wedi dweud, cyflogaeth leol yn y cynllun Arbed, a oedd yn un o fanteision sylweddol y rhaglen honno. Yn wir, o’r 51 o gwmnïau gosod a oedd yn rhan o’r cam cyntaf, mae 41 ohonynt yn gweithredu yng Nghymru yn unig. O’r 17 o gynhyrchion a gâi eu defnyddio, pump yn unig ohonynt a gâi eu cynhyrchu yng Nghymru, sy’n dangos maint y cyfle yno ar gyfer cynyddu cynhyrchiant lleol rhai o’r cynhyrchion hyn yn ogystal.

Er bod hon yn alwad genedlaethol, rwyf eisiau siarad yn fyr am y ffaith na ddylem golli golwg ar y budd cymunedol a ddaw o effeithlonrwydd ynni. Mae peth o’r gwaith a wnaed ar ôl-ffitio yn y gymuned, sy’n symud y tu hwnt i dai preswyl ac yn edrych ar adeiladau busnes, seilwaith trafnidiaeth, mannau gwyrdd ac yn mabwysiadu ymagwedd lawer mwy cyfannol tuag at effeithlonrwydd ynni—credaf fod llawer o werth yn y math hwnnw o ddull. Cafodd ei dreialu mewn rhai cymunedau. Mantais hynny yw eich bod yn cael cyfle i ddefnyddio eiddo a diddordeb a gallu masnachol a phreswyl, a fydd yn ystyriaeth bwysig pan fyddwn yn edrych ar fodelau ariannu gwahanol ar gyfer cyflawni hyn. Hefyd, mae’n galluogi pobl i ymgysylltu ar raddfa lawer mwy, sy’n dwyn nifer o fanteision eraill yn ei sgil. Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i fyfyrio ar y model hwnnw. Cafwyd enghreifftiau da. Ceir enghraifft enwog iawn ohono yn Swydd Rhydychen, lle mae model cydweithredol wedi cyflwyno cynhyrchiant adnewyddadwy yn y gymuned a hefyd wedi defnyddio’r cyllid ohono i ariannu effeithlonrwydd ynni. Mae’n ymddangos i mi fod y cysylltiad rhwng creu ffrwd refeniw drwy ynni adnewyddadwy yn y gymuned, a modd o dalu am rai o’r mesurau rydym yn eu trafod—mae’r cysylltiad hwnnw i’w weld yn rhan gwbl sylfaenol o ddarparu ystod o fodelau cynaliadwy ar gyfer cyflawni’r amcanion y mae’r cynnig hwn yn eu nodi.

Rwyf eisiau cyffwrdd yn fyr ar yr ystod honno o ffynonellau cyllid. Mae angen i ni edrych—mae maint yr her yn arwyddocaol. Mae yna wariant cyhoeddus. Mae yna faterion yn ymwneud â chyfranddaliadau a dalwyd am rai o’r datblygiadau hyn mewn mannau eraill. Mae yna rwymedigaethau cwmnïau cyfleustodau, ac nid yw’r rheiny dan reolaeth Llywodraeth Cymru, ond byddwn yn gobeithio y byddem yn gweld llawer mwy o uchelgais ar lefel y DU gyfan o ran gwireddu rhai o’r ffynonellau cyllid hyn.

Mewn dadl fer a gyflwynais yr wythnos diwethaf gelwais arnom i edrych yn llawer mwy rhyngwladol ar rai o’r enghreifftiau o lwyddiant mewn mannau eraill. Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar Energiesprong yn yr Iseldiroedd—nid wyf yn siŵr a wyf wedi ei ynganu’n gywir, ond mae’n esiampl sydd wedi llwyddo yn yr Iseldiroedd, yn y lle cyntaf ar sail ôl-ffitio tai cymdeithasol, sy’n cynnig gwarant perfformiad ynni i drigolion, amserlen cyflawni 10 diwrnod, gyda’r buddsoddiad yn cael ei ariannu gan arbedion costau ynni, gan weithio ar y cyd â darparwyr tai cymdeithasol sydd wedyn yn darparu rhyw fath o gontract ynni i’w tenantiaid, fel contract ffôn symudol. Mae hwnnw’n fodel sydd wedi gweithio yno, ac rwy’n credu y dylem edrych ar y math hwnnw o fodel yn y DU, ac yn benodol yng Nghymru, wrth i ni edrych am bob math o gyllid cyfalaf ar gyfer yr amcan polisi pwysig hwn.