6. 6. Debate on a Member's Legislative Proposal

Part of the debate – in the Senedd at 2:53 pm on 5 July 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:53, 5 July 2017

(Translated)

Thank you.

Nid yw bod yn ofalwr byth yn hawdd. Mae’n gyfnewidiol iawn. Un diwrnod, mae bywyd i’w weld yn berffaith, ac ar ddiwrnod arall, mae i’w weld yn chwalu’n ddarnau. Mae gofalu yn ein gwneud yn rhy empathetig, felly rydym yn teimlo poen pawb, ond rydym yn teimlo nad oes neb yn deall ein poen ni. Mae gofalu yn gwneud i ni deimlo ar goll ac yn unig ar adegau. Rwyf am helpu pob gofalwr ifanc, gan gynnwys fi fy hun, i sylweddoli nad ydynt ar eu pen eu hunain ac er ei fod yn achosi gofid, mae bod yn ofalwyr ifanc yn gallu ein gwneud yn gryfach, yn gallach ac yn ddewrach na’r rhan fwyaf o blant ein hoed.

Daw’r dyfyniad hwnnw gan Adele-Caitlin, sy’n 16 oed ac sy’n ofalwr ifanc.

Dylwn ddechrau drwy groesawu’r gofalwyr sy’n oedolion ifanc a chydgysylltwyr prosiect YMCA sydd wedi dod yma i Gaerdydd o Abertawe a Chaerdydd heddiw. Mae’r ddadl hon yn golygu llawer iddynt, oherwydd nid gwleidyddiaeth yn unig yw hyn i ofalwyr ifanc; mae’r trafodaethau rydym yn eu cael yma heddiw yn ymwneud â’u bywydau bob dydd a’u profiadau. Penderfynais gyflwyno’r cynnig hwn ar ôl mynychu digwyddiad gofalwyr ifanc yn y Senedd ychydig wythnosau yn ôl a drefnwyd gan yr YMCA i dynnu sylw at eu prosiect gwych Time for me, sy’n trefnu gwasanaethau cymorth i ofalwyr ifanc ac yn cynnig seibiant a chyngor. Clywais yn y digwyddiad hwn sut y mae gofalwyr ifanc yn falch o’r gofal y maent yn ei roi ac o’u cyfrifoldebau. Maent yn awyddus i allu helpu eu teuluoedd, ond mae’n anodd. Wrth gwrs, yr hyn a glywais gan gymaint o ofalwyr ifanc yw na fyddent yn rhoi’r gorau i’w cyfrifoldebau, ond mae arnynt angen mwy o gymorth, mwy o gydnabyddiaeth i’w rôl a mwy o hyblygrwydd gan ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol ac eraill wrth iddynt geisio cael cydbwysedd rhwng yr hyn y a wnânt yn y cartref a gweddill eu bywydau.

Rwy’n cydnabod bod yna ofynion o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ddarparu mwy o gefnogaeth, gyda chyfrifoldebau statudol yn cael eu gosod ar awdurdodau lleol. Ond rwy’n clywed gan ofalwyr ifanc a sefydliadau sy’n gweithio gyda hwy nad yw’r fframwaith polisi a’r trefniadau ariannu cyfredol yn ddigon. Mae 11,000 o ofalwyr ifanc yng Nghymru, ac mae’n bosibl iawn fod hwn yn amcangyfrif rhy isel gan fod cymaint o ofalwyr ifanc nad ydynt yn gofyn am, neu’n cael cefnogaeth gan ysgolion, awdurdodau lleol a gweithwyr iechyd proffesiynol. Nid ydynt yn eu hadnabod, a cheir llawer o ofalwyr ifanc, am nifer o resymau, nad ydynt yn camu ymlaen ac yn gofyn am y gefnogaeth y maent ei hangen mewn gwirionedd.

Yn aml, un rhwystr mawr yw diffyg dealltwriaeth. Clywsom fod yna lawer o athrawon a gweithwyr iechyd proffesiynol nad ydynt yn meddu ar yr hyfforddiant perthnasol, yr arweiniad neu’r profiad sy’n angenrheidiol i adnabod gofalwyr ifanc a’u hanghenion penodol, neu sy’n teimlo ei bod yn anodd gwybod sut i ymateb. Mae gormod ohonynt yn methu gofyn y cwestiynau perthnasol wrth ymdrin â sefyllfa lle mae gofalwr ifanc yn mynd â rhiant neu frawd neu chwaer at y meddyg, er enghraifft, neu athro nad yw wedi cael y lefel angenrheidiol o arweiniad. Rwyf wedi clywed am enghreifftiau o feddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol arall yn gofyn i ofalwr ifanc, prif ofalwr i riant sydd â chyflwr corfforol neu iechyd meddwl cyfyngus, neu broblem camddefnyddio sylweddau weithiau, i adael yr ystafell pan fo angen i’r gofalwr ifanc hwnnw gael ei lais wedi’i glywed mewn gwirionedd, ac mae angen i’r gweithiwr iechyd proffesiynol glywed am y materion penodol yn y cartref gan y gofalwr ifanc hwnnw. Rwyf wedi siarad â phobl ifanc sydd wedi gofyn i’w hysgolion am hyblygrwydd o ran cadw amser a phresenoldeb oherwydd dyletswyddau sy’n gwrthdaro yn y cartref, a chael eu gwneud i deimlo nad oedd eu ceisiadau yn cael eu cymryd o ddifrif, a bod gofyn i rieni gadarnhau’r hyn roedd gofalwr ifanc wedi’i ddweud wrthynt. 

Ceir stigma penodol o fod yn ofalwr ifanc hefyd, a gwyddom fod llawer o ofalwyr ifanc yn cael eu bwlio. Nododd un arolwg fod 68 y cant wedi cael eu bwlio ar ryw adeg yn eu bywydau. Yn aml, nid yw gofalwyr ifanc yn gweld eu hunain fel gofalwyr mewn gwirionedd, ond yn hytrach fel rhywun sy’n helpu yn y cartref i raddau mwy na phlant eraill. Ymhlith amryw o resymau eraill, mae hyn yn aml yn rhwystr iddynt rhag gofyn am y gefnogaeth honno. Dyna pam rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn cynyddu ein hymdrechion i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol ar y rheng flaen yn gallu helpu ac adnabod gofalwyr ifanc. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ar y cyd â Chymdeithas y Plant, er enghraifft, wedi datblygu pecyn cymorth ar gyfer athrawon ac maent yn gweithredu’r rhaglen beilot ar gyfer Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion yng Nghymru. Cafwyd canlyniadau da a sylweddol i hyn, ond yn amlwg, mae angen gwneud llawer mwy o waith, ac mae angen i ni gael strategaeth ar waith i sicrhau bod canllawiau a hyfforddiant yn cael eu lledaenu mewn modd amserol.

Daw hyn â mi at fy mhwynt nesaf, sef amrywiaeth y ddarpariaeth ledled Cymru. Ar y gorau, gellid defnyddio’r gair bylchog i ddisgrifio’r lefelau o gefnogaeth sydd ar gael. Roedd un awdurdod lleol i’w weld yn gwahardd un gofalwr rhag gwneud cais am asesiad o anghenion gofalwr, ond mae rhai awdurdodau lleol eraill yn llawer gwell am fynd i’r afael â’r problemau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu. Mae gofalwyr ifanc yn wynebu rhwystrau eraill, wrth gwrs, yn enwedig materion ymarferol megis casglu presgripsiynau. Ar hyn o bryd, bydd fferyllydd yn rhoi meddyginiaethau i rywun dan oed yn ôl ei ddisgresiwn. Gadewch i mi fod yn glir: byddai’n ddelfrydol wrth gwrs pe na bai angen i ofalwr ifanc fynd i fferyllfa i gasglu meddyginiaethau, a gallai rhai ohonynt fod yn driniaethau ar gyfer camddefnyddio sylweddau, dibyniaeth neu boenladdwyr cryf, neu i drin cyflyrau cronig, ond weithiau bydd angen iddynt wneud hynny, ac mae angen i ni roi mesurau ar waith fel y gallant gael mynediad at y triniaethau hynny mewn modd amserol, ac fel nad yw pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu hamharchu. Rwy’n deall bod astudiaethau dichonoldeb ar y gweill ar gyfer cerdyn gofalwyr ifanc a allai helpu gyda hyn a nodi pwy sy’n ofalwyr ifanc, er fy mod yn gwybod, ar ôl siarad â rhai gofalwyr ifanc, y gallent deimlo bod stigma’n gysylltiedig â’r cerdyn hwnnw yn ogystal. Byddwn yn eu hannog i beidio â meddwl yn y ffordd hon, ac i feddwl am hon fel ffordd o helpu pobl i’w deall, i nodi pwy ydynt a gallu symud ymlaen, ac efallai ei gael fel cerdyn gostyngiad mewn siopau ac yn y blaen hyd yn oed, fel y gallwn gynnwys y sector preifat yn y dyfodol.

Hoffwn gloi, gan fod amser yn brin, drwy rannu stori Anna. Mae Anna yn 11 oed ac yn byw gyda’i mam a’i dau frawd, un sy’n hŷn ac un sy’n iau. Mae gan mam a dad hanes o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ac mae mam wedi cael diagnosis o afiechyd meddwl sydd ar adegau yn amlygu ei hun ar ffurf newid hwyliau difrifol ac iselder, sy’n golygu nad yw’n gallu bod yn rhiant i Anna na’i brawd iau. Mae hi’n defnyddio cyffuriau ar bresgripsiwn, cyffuriau heb fod ar bresgripsiwn a chyffuriau anghyfreithlon yn rheolaidd—y fam—ac mae gan y brawd hŷn hanes hir o ymddygiad troseddol, mae wedi treulio cyfnodau yng ngharchar, ac nid oes ganddo ddiddordeb mewn helpu’r teulu.

O ran stori Anna, mae hi wedi llwyddo i ymgysylltu â’r YMCA yng Nghaerdydd. Ar y dechrau, roedd hi’n amharod, ac yn ei chael hi’n anodd cyfathrebu, ond erbyn hyn mae hi’n cymryd rhan mewn prosiect ochr yn ochr â’i mam, ac mae wedi canfod bod rhai o’r beichiau a oedd ar ei hysgwyddau wedi cael eu lleihau a bod ei mam bellach yn gallu cymryd rhai o’r cyfrifoldebau gofalu hynny oddi arni. Dyma’r math o berson y mae angen i ni fod yn ei helpu, a dyma’r math o berson y mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw’n dioddef yn dawel. Rwy’n credu ei bod yn bwysig fod gennym y Bil hwn ar gyfer gofalwyr ifanc fel y gallwn eu cefnogi, ac rwy’n edrych ar y ddadl hon yn y modd mwyaf cadarnhaol ac yn gobeithio y gall Llywodraeth Cymru glywed pryderon gofalwyr yng Nghymru ac y gallwn fod yn rhan o’r ddadl hon, ac y gall gofalwyr ifanc yma heddiw barhau i fod yn rhan o’r drafodaeth wrth ddatblygu yr hyn y maent ei angen yn eu bywydau bob dydd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i Aelodau’r Cynulliad wrando, ond hefyd i weithredu ar yr hyn y maent yn galw amdano.