Part of the debate – in the Senedd at 5:27 pm on 11 July 2017.
Hoffwn roi ar y cofnod, Dirprwy Lywydd, fy niolch i'r tasglu am ei waith dros y 12 mis diwethaf. Rwyf eisiau diolch i’m cyd-Aelodau yn y llywodraeth—Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, a Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Mae aelodaeth y tasglu wedi ei ehangu yn ystod y flwyddyn, ac mae’r aelodau newydd yn cynnwys Fiona Jones, o'r Adran Gwaith a Phensiynau, a Gaynor Richards, o Gyngor Gwasanaeth Gwrifoddol Castell-nedd Port Talbot.
Mae'r flwyddyn gyntaf wedi bod yn brysur iawn. Rydym wedi cyfarfod â phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd, ac wedi siarad â nhw, a gwrando arnynt. Mae'r sgyrsiau hyn wedi bod yn fywiog, craff a heriol. Maent, ynghyd â'r dystiolaeth y mae’r tasglu wedi ei chasglu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wedi helpu i lunio ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Dirprwy Lywydd, nid dim ond creu cynllun ar gyfer y Cymoedd ydym ni; mae’n gynllun gan y Cymoedd. Rydym ni’n gwybod bod angen i ni weithio'n wahanol i fentrau a rhaglenni blaenorol sydd wedi canolbwyntio ar y Cymoedd, a dysgu oddi wrthyn nhw. Ni all hyn ac ni fydd hyn yn ffordd arall o weithio o’r brig i lawr ar adfywio ac adnewyddu economaidd. Byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau ledled Cymoedd y de. Bydd y tasglu yn sicrhau ei fod yn defnyddio adnoddau presennol mewn ffordd gydlynol a bydd yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau sydd wedi eu nodi gan y cymunedau hynny. Caiff y blaenoriaethau hyn eu nodi yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', ein cynllun gweithredu blaengar, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 20 Gorffennaf yng Nglynrhedynog.
Dirprwy Lywydd, o ganlyniad i'r sylwadau a gafwyd gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd, rydym ni wedi seilio’r cynllun a'r camau y byddwn yn eu cymryd dros y blynyddoedd nesaf ar dair thema: swyddi o ansawdd da a’r sgiliau i’w gwneud nhw, gwell gwasanaethau cyhoeddus, a'r gymuned a’r amgylchedd lleol. Ar yr un pryd, roedd cludiant yn rhywbeth y soniodd pobl ar draws y rhanbarth cyfan amdano, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni hefyd yn mynd i'r afael ag ef yn y misoedd nesaf. Roedd yr angen am swyddi o ansawdd da a mynediad at hyfforddiant sgiliau yn flaenoriaeth glir i'r bobl a busnesau yr ydym wedi siarad â nhw. Dywedodd pobl wrthym ni nad oedd digon o gyfleoedd gwaith o fewn cyrraedd i’w cymunedau ac yn rhy aml mae'r swyddi sydd ar gael ar gontractau dim oriau neu yn waith dros dro neu drwy asiantaeth. Uchelgais y tasglu erbyn 2021 yw y byddwn wedi cau'r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y de a gweddill Cymru. Mae hyn yn golygu helpu 7,000 o bobl ychwanegol i gael gwaith a chreu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy yn y Cymoedd. Mae'n amserol bod y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth heddiw yn gosod agenda newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd. Bydd y gwaith hwn yn helpu i ehangu ein hymdrechion i gefnogi pobl sy'n ddi-waith i gael swyddi a chreu gwell amodau gwaith. Bydd y tasglu yn helpu i sicrhau bod yr agenda cyflogadwyedd newydd yn sicrhau’r manteision mwyaf posib ar gyfer ein cymunedau yn y Cymoedd.
Dirprwy Lywydd, bydd y tasglu hefyd yn targedu buddsoddiad i sicrhau canolfannau strategol newydd mewn chwe ardal yn y Cymoedd. Bydd y rhain yn ardaloedd lle’r ydym ni’n ceisio canolbwyntio buddsoddiad cyhoeddus er mwyn creu swyddi newydd a chyfleoedd pellach i ddenu buddsoddiad gan y sector preifat. Byddwn yn gweithio’n lleol gyda chymunedau, awdurdodau lleol a busnesau i sicrhau y bydd pob canolfan yn canolbwyntio ar gyfleoedd a gofynion pob ardal a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Un o'r canolfannau hyn fydd y parc busnes technoleg modurol newydd ar gyfer Glynebwy, a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd yr economi y mis diwethaf. Caiff hyn ei gefnogi drwy roi £100 miliwn dros 10 mlynedd a bydd yn cefnogi swyddi a buddsoddiad ledled Blaenau'r Cymoedd.
Ein bwriad yw gwneud y mwyaf o gyfleoedd am swyddi yn yr economi leol—yr economi sylfaenol—busnesau yr ydym ni’n eu defnyddio bob dydd ac yn eu gweld yn mhob man o'n cwmpas, fel busnesau manwerthu, gofal a'r diwydiant bwyd. Byddwn hefyd yn annog ac yn darparu cymorth ar gyfer darpar entrepreneuriaid ac entrepreneuriaid presennol. Rwyf wedi gweld sut y gall hyn weithio yn fy etholaeth i ac rwyf yn awyddus i weld hyn yn digwydd ym mhob rhan o'r Cymoedd. Mae pob ardal yn y Cymoedd yn unigryw, ond mae gan bob cymuned dreftadaeth a diwylliant cyfoethog. Yn y Cymoedd hefyd mae peth o’r tirwedd naturiol mwyaf syfrdanol yng Nghymru, ond a gaiff ei ddefnyddio a’i werthfawrogi leiaf. Clywsom yn aml mewn cyfarfodydd cyhoeddus a grwpiau trafod bod angen i ni wneud mwy i glodfori a manteisio ar amgylchedd naturiol y Cymoedd .
Bydd y tasglu felly'n archwilio'r cysyniad o greu parc tirlun y Cymoedd i helpu cymunedau’r ardal i adeiladu ar yr asedau naturiol niferus sydd ganddyn nhw, gan gynnwys y potensial ar gyfer cynhyrchu ynni cymunedol a thwristiaeth. Rydym ni hefyd wedi clywed gan lawer o bobl am wead ein trefi a’n cymunedau a sut y mae angen i ni fuddsoddi yn nyfodol ein trefi yn y Cymoedd. Ar yr un pryd, roedd pobl yn sôn gydag angerdd am y sbwriel a’r tipio anghyfreithlon sy'n anharddu llawer gormod o'n hamgylchedd lleol. Mae'r rhain i gyd yn faterion y byddwn yn rhoi sylw iddynt yn ystod y misoedd nesaf.
Rydym yn lansio 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' ar adeg o fuddsoddi mewn seilwaith yn y de na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae metro de Cymru, y ddwy fargen ddinesig, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn tai fforddiadwy, a ffordd liniaru'r M4, i gyd yn cynnig cyfleoedd i’r bobl sy'n byw yn y Cymoedd. Mae'r rhain yn gyfleoedd y mae'n rhaid i ni, ac y byddwn ni, yn gwneud y mwyaf ohonynt.
Rwy'n benderfynol y bydd y tasglu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau’r Cymoedd yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Dechrau taith fwy hirdymor yw hyn, sy'n cael ei llunio gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd. Mae’n rhaid i ni yn awr weithio gyda'n gilydd i wireddu’r weledigaeth hon ar lawr gwlad. Ar ôl lansio’r cynllun, byddwn yn parhau i siarad â phobl i wneud yn siŵr bod y camau hyn yn cael eu llunio gan bobl sy'n byw yn y Cymoedd. Byddwn yn ystyried y safbwyntiau hynny, a hefyd yn datblygu cynllun cyflawni gyda thargedau a dulliau o fesur canlyniadau. Caiff y cynllun hwn ei gyhoeddi yn yr hydref a bydd ganddo amserlen glir o ran ei gyflawni.
Bydd gennym ni strwythur ar waith i sicrhau bod atebolrwydd am y gwaith hwn. Mae gennym ni fwrdd traws-Lywodraeth a fydd yn sicrhau a darparu goruchwyliaeth ac yn ein dwyn i gyfrif o ran y cynnydd a wnawn yn erbyn ein hymrwymiadau. Caiff hyn ei gefnogi gan nifer o wahanol ffrydiau gwaith a byddaf yn gofyn i aelodau o'r tasglu i arwain y gwaith ar y gwahanol ffrydiau gwaith hyn.
Dirprwy Lywydd, rwy’n edrych ymlaen i fod yn rhan o'r gwaith hwn yn y Cymoedd. Mae hon yn rhan o Gymru sy'n agos at fy nghalon. Dyma lle cefais fy ngeni a’m magu, a dyma lle’r wyf yn ei gynrychioli heddiw. Bydd y tasglu yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o gynlluniau adfywio blaenorol, gan eu cyfuno â’r sylwadau a gawsom ni gan gymunedau ar draws Cymoedd y de. Mae 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn cynnig gobaith am ddyfodol gwell. Nid yw pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd yn haeddu dim llai.