Part of the debate – in the Senedd at 3:22 pm on 12 July 2017.
Diolch, Llywydd. I was educated at Caradog’s school in Aberdare.
Mae 27 Gorffennaf eleni yn nodi hanner canmlwyddiant dod i rym Deddf yr Iaith Gymraeg 1967. Er nad yw’r Ddeddf bellach mewn grym, wedi ei disodli gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae’r Ddeddf yn arwyddocaol am ddau brif reswm. Yn gyntaf oll, fe ddiddymwyd y ddarpariaeth yn Neddf Cymru a Berwick 1746 y dylai’r term ‘Lloegr’ gynnwys Cymru. Dyma’r cam cyntaf ar y llwybr tuag at adfer awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru—taith nad ydym wedi ei gorffen eto.
Yn ail, ac am y tro cyntaf, fe osododd y Ddeddf hawliau i siaradwyr Cymraeg. Rhoddodd y Ddeddf ddilysrwydd cyfartal, fel y gelwid hi, i’r Gymraeg. Nid statws cyfartal â’r Saesneg oedd hwn; yn hytrach, darparwyd hawl i ddefnyddio’r Gymraeg gan gyrff cyhoeddus, megis gyda’r Saesneg, ond dim dyletswydd arnyn nhw i’w wneud. Er bod hyn yn wendid sylfaenol i’r Ddeddf, roedd yn fodd i osod yr egwyddor o gyfartaledd rhwng dwy iaith Cymru. Mae’n bwysig gweld Deddf yr Iaith Gymraeg yng nghyd-destun symudiadau chwyldroadol a dinesig y 1960au. Mae’n rhan o’r newid cymdeithasol a roddodd hawliau i bobl hoyw, i fenywod, drwy ffeministiaeth, ac i grwpiau difreintiedig. Oni bai am y Ddeddf iaith hon a gwaith yr ymgyrchwyr iaith y tu ôl iddi hi, ni fyddem yn cwrdd yr wythnos hon fel Senedd i drafod cenedl 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg.