Part of the debate – in the Senedd at 7:02 pm on 18 July 2017.
Thank you very much, Llywydd. I move the usual motion for the first supplementary budget before the National Assembly. This is the first opportunity to improve budgetary considerations for this financial year, which were published and approved by this Assembly in January. The first supplementary budget is often quite simple in terms of its remit, and this year is no different. It’s mainly of an administrative nature. It regulates a small number of allocations from reserves, switches between resource and capital and transfers between portfolios. It includes adjustments to the Wales departmental expenditure limit budget to reflect transfers and consequentials received in the UK Government’s March budget 2017. It also reflects changes in the annually managed expenditure forecast, in line with our latest details provided to Her Majesty’s Treasury. However, it represents an important part of the budget and scrutiny system, and I would like to take this opportunity to thank the Finance Committee for considering this budget in detail and for the report that was published at the end of last week. I will respond formally to that report in due time.
Llywydd, mae nifer o’r newidiadau a nodir yn y gyllideb atodol gyntaf yn dod o gytundebau a wnaed gyda Llywodraeth y DU ac eraill. Mae cytundeb ar drefniadau llywodraethu ar gyfer y fargen prifddinas Caerdydd yn golygu bod yr £20 miliwn erbyn hyn wedi ei ryddhau ar gyfer y diben hwn; £7.18 miliwn gan y Swyddfa Gartref ar gyfer ein cyfran o'r derbynebau gordal iechyd mewnfudo wedi ei ddyrannu i brif grŵp gwariant iechyd, llesiant a chwaraeon yn y gyllideb atodol hon; mae £20 miliwn o bunnoedd o gronfeydd wrth gefn wedi ei ryddhau ar gyfer buddsoddi mewn gofal cymdeithasol, ac mae swm ychwanegol o £750,000 mewn refeniw a £1.6 miliwn o gyllid cyfalaf wedi eu dyrannu ar gyfer darparu Wi-Fi ar drenau ac mewn gorsafoedd. Ac rwyf, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r un argymhelliad penodol a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn hyn o beth.
Llywydd, mae'n rhaid i ni hefyd adlewyrchu’r addasiadau a wnaed i derfyn gwariant adrannol Cymru gan Lywodraeth y DU, ac mae'r gyllideb atodol yn diweddaru'r sefyllfa a nodwyd yn y gyllideb derfynol ym mis Ionawr ar gyfer symiau canlyniadol refeniw a chyfalaf. Mae'r gyllideb hon yn ein galluogi i adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed yn y cyfrifoldebau portffolio gweinidogol. Yn dilyn trosglwyddo cyfrifoldeb am Gyrfa Cymru i'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, mae £18.8 miliwn mewn arian refeniw a £6 miliwn o gyllid gwariant a reolir yn flynyddol wedi ei drosglwyddo o'r prif grŵp gwariant ar addysg i'r prif grŵp gwariant economi ac isadeiledd. Nid oes unrhyw gyllideb wedi'i thorri o ganlyniad i'r gyllideb atodol, ac mae unrhyw addasiadau negyddol ar lefel prif grŵp gwariant wedi eu gwrthbwyso gan addasiadau cadarnhaol cyfatebol mewn prif grwpiau gwariant eraill. Mae effaith net y newidiadau hyn ar y gyllideb gyffredinol yn sero.
Dros y misoedd nesaf, byddaf yn monitro ein sefyllfa ariannol yn ofalus, ac rwy’n bwriadu cyflwyno ail gyllideb atodol yn yr amserlen arferol. Rwyf yn parhau i archwilio gyda chydweithwyr yr achos dros ddyrannu yn ystod y flwyddyn o gronfeydd wrth gefn, gan gadw lefel ddigonol o adnoddau i gydweddu â'r cyfnod ariannol ansicr yr ydym yn gweithredu ynddo. Bydd hyn yn ein galluogi i ymateb yn ôl yr angen i bwysau ychwanegol posibl ar y gyllideb, ac i gario cyllid ymlaen drwy drefniadau wrth gefn newydd Cymru, i warchod yn erbyn toriadau pellach i'n cyllideb yn 2019-20 a thu hwnt. Bydd unrhyw ddyraniadau pellach o gronfeydd wrth gefn yn y flwyddyn hon yn cael eu hadlewyrchu yn yr ail gyllideb atodol.
Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid unwaith eto am ei waith craffu ar y gyllideb atodol hon, a gofynnaf i’r Aelodau ei chefnogi.