12. 11. Debate: Stage 4 of the Trade Union (Wales) Bill

Part of the debate – in the Senedd at 7:28 pm on 18 July 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 7:28, 18 July 2017

(Translated)

Thank you very much. Can I start by recognising the fact that Plaid Cymru has supported the Bill throughout the process, and they have been of great assistance in the scrutiny process and in bringing this Bill into force?

Llywydd, nid wyf wedi gwrthwynebu honiad parhaus Janet Finch-Saunders mewn dadleuon blaenorol mai hwn yw'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth i wneud ei ffordd drwy'r Cynulliad yn ystod y flwyddyn hon. Nawr, rwy'n siŵr fy mod i yma pan gwblhawyd Cyfnod 4 y Bil trafodiadau tir. Roeddwn bron yn sicr yma pan gwblhawyd pedwerydd cyfnod y Bil treth gwarediadau tirlenwi. Roedd llawer ohonom yma pan wnaeth y Bil iechyd y cyhoedd ei ffordd i’r llyfr statud yn gynharach eleni. Rwy'n ofni bod crebwyll Janet o rifyddeg yr un mor dda â’r crebwyll sydd ganddi o flaenoriaethau a dewisiadau Cymru, ac mae'n debyg na chefais fy synnu gan hynny. Roeddwn i’n llawer iawn mwy siomedig bod y crebwyll sydd ganddi o ddemocratiaeth yn amlwg yr un mor ddiffygiol â’r crebwyll sydd ganddi o rifyddeg syml. Mae'r Bil hwn bellach wedi dod gerbron y Cynulliad hwn ym mhob rhan o'i broses. Pleidleisiwyd arno yma yng Nghyfnod 1. Pleidleisiwyd arno yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2. Roedd yma eto ar gyfer pleidleiso arno yng Nghyfnod 3, a bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn pleidleisio arno eto yng Nghyfnod 4. Ac eto, rydym yn clywed gan y Blaid Geidwadol fod ei Llywodraeth wan a methedig yn San Steffan, a sicrhaodd cymaint ag wyth sedd yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol prin fis yn ôl, yn mynd i ddod o hyd i amser ar lawr Tŷ'r Cyffredin i geisio gwrthdroi’r ewyllys ddemocrataidd a arddelwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Wel, rwy’n gobeithio’n fawr iawn eu bod yn gwybod yn well na cheisio gwneud hynny. Byddai'n sarhau democratiaeth cyn belled ag y mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn y cwestiwn, a byddai’n wastraff difrifol o’r cyfalaf gwleidyddol bychan iawn sydd gan y Llywodraeth fethedig hon ar ôl. Byddwn yn rhoi'r Bil hwn ar y llyfr statud heddiw yn ffyddiog yn y gred ein bod yn gwneud y peth iawn a bod pobl sydd â mwy o synnwyr nag yr ydym wedi ei glywed y prynhawn yma yn gwybod yn well na cheisio ei wrthdroi yn rhywle arall.