7. 6. Statement: Local Government Reform

Part of the debate – in the Senedd at 4:23 pm on 18 July 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:23, 18 July 2017

(Translated)

Thank you very much, temporary Deputy Presiding Officer. At the end of January, the Welsh Government published a White Paper on local government reform. This set out proposals to secure resilience and renewal in local government in Wales, including arrangements for regional working and a strengthened role for councillors and councils. Today, I published a summary report of almost 170 responses to the consultation and set out the way forward for local government reform.

I’d like to thank the Chair and members of the Equality, Local Government and Communities Committee who undertook scrutiny of the reform proposal. I’d also like to thank the Chair and members of the Public Accounts Committee who considered a number of issues that touched on aspects of the White Paper and provided their thoughts.

Dirprwy Lywydd dros dro, mae tair prif elfen i'n cynigion yr hoffwn i ddiweddaru’r Aelodau yn eu cylch heddiw. Yn gyntaf, yr elfen o ddiwygio ein cynghorau tref a chymuned. Mae cynghorau tref a chymuned yn rhan annatod o lywodraeth leol. Yn ddaearyddol, nhw sydd agosaf at bobl a chymunedau ac fe allen nhw fod mewn sefyllfa unigryw i weld a darparu ystod o wasanaethau a all gael effaith sylweddol ar les eu cymunedau. Roedd y Papur Gwyn yn disgrifio diwygiadau ymarferol yr ydym ni’n eu gwneud ar hyn o bryd i gryfhau swyddogaeth cynghorau tref a chymuned ac i wella sut maen nhw’n gweithio a sut y cawn nhw eu llywodraethu, gan eu galluogi i ymgymryd â darpariaeth ehangach o grŵp ehangach o wasanaethau ac asedau.

Fodd bynnag, er mwyn cael dealltwriaeth ehangach o botensial cynghorau tref a chymuned, mae angen adolygiad trylwyr o’r holl sector arnom ni. Mae'r adolygiad hwnnw yn awr wedi cychwyn. Yn fras, bydd yn edrych ar swyddogaeth bosibl llywodraeth leol islaw lefel y prif gyngor. Bydd yn diffinio'r model a’r strwythur mwyaf effeithiol i gyflawni’r cyfraniad hwn yn effeithiol, a bydd yn ystyried sut y gellir gweithredu hyn ledled Cymru. Rwy’n disgwyl i'r adolygiad gynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol ac iddo gael ei gwblhau mewn blwyddyn. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gwenda Thomas, ac i Rhodri Glyn Thomas am gytuno i gyd-gadeirio'r adolygiad. Maen nhw’n brofiadol iawn ynglŷn â phob haen o lywodraeth yng Nghymru ac mae ganddyn nhw grebwyll penodol o'r materion sydd yn y fantol wrth geisio cryfhau ac adfywio’r haen fwyaf leol hon o ddemocratiaeth yng Nghymru.

Cadeirydd, yn gynharach heddiw, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn â chyfres o gynigion ar gyfer diwygio system etholiadol llywodraeth leol, ac mae hwn bellach wedi ei lansio'n ffurfiol ar gyfer ymgynghoriad. Mae'r cynigion yn cynnwys ymestyn yr hawl i bleidleisio, cofrestru pleidleiswyr, y broses etholiadol, yn ogystal â chynigion ynghylch pwy gaiff sefyll fel ymgeisydd a phwy gaiff weithredu fel swyddog canlyniadau. Diben diwygio'r system etholiadol yw ei gwneud yn haws i bobl bleidleisio ac i ymestyn yr hawl i bleidleisio. Mae'r cynigion yn cynnwys ymestyn yr hawl hwnnw i bobl 16 a 17 mlwydd oed ac i bawb sy'n byw, yn gweithio ac yn astudio yng Nghymru. Rhoddir ystyriaeth hefyd i’r posibiliadau o ran ei gwneud yn haws i bobl bleidleisio, fel cyflwyno pob pleidlais drwy’r post, pleidleisio electronig a phleidleisio mewn mannau ar wahân i orsafoedd pleidleisio, fel archfarchnadoedd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a gorsafoedd bysiau a rheilffordd.

Mae'r papur ymgynghori hefyd yn cynnig y dylai cynghorau unigol gael dewis pa system bleidleisio sydd orau ganddyn nhw, naill ai y cyntaf i'r felin neu’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Gan ymateb i sylwadau eglur yn ystod ymgynghoriad y Papur Gwyn, rwyf nawr yn cynnig y byddai hyn yn gofyn am ddwy ran o dair o fwyafrif pleidlais aelodaeth y cyngor, yn unol â'r trothwy ar gyfer newid o'r fath i system etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol ei hun.

Yn dilyn ymgynghori, Cadeirydd, byddaf yn ceisio gwneud newidiadau deddfwriaethol drwy Fil llywodraeth leol. Mae'n bwysig i mi bwysleisio y byddai unrhyw newidiadau yn berthnasol i etholiadau llywodraeth leol yn unig. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried diwygiadau o ran ei etholiadau ei hun ar wahân i'r ymgynghoriad hwn, ac mae’r Llywydd ei hun yn arwain ar hynny.

Cadeirydd, mae’r drydedd elfen yn fy natganiad heddiw yn canolbwyntio ar ddiwygio ein prif gynghorau, gan gynnwys dull newydd o weithio rhanbarthol systematig a gorfodol i sicrhau eu bod yn gadarn, yn nhermau arian ac o ran y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu. Rwy’n bwriadu bwrw ymlaen â chynigion a fyddai'n gweld gweithio rhanbarthol yn dod, dros amser, y dull arferol mewn sawl maes gwaith llywodraeth leol. Bydd hyn yn adeiladu ar y bargeinion twf a dinesig a bydd angen llunio cynlluniau datblygu economaidd, trafnidiaeth strategol a chynllunio strategol o ran yr ardaloedd hyn. Caiff y trefniadau hyn eu gweithredu o dan gyfarwyddyd pwyllgor llywodraethu ar y cyd ar gyfer yr ardal, a fydd yn cynnwys aelodau etholedig o'r awdurdodau lleol cyfansoddol. Bydd digon o hyblygrwydd yn caniatáu i ddinas-ranbarth bae Abertawe ac ardaloedd Tyfu Canolbarth Cymru weithredu drwy hunaniaethau gwahanol, ond gyda gofyniad ar iddyn nhw ddod at ei gilydd i ystyried cydlyniad eu cynlluniau ar draws rhanbarth y de-orllewin yn ei gyfanrwydd.

O ran gwasanaethau eraill, lle y pwyllgorau cydlywodraethu rhanbarthol fydd penderfynu ar weithio rhanbarthol gorfodol, megis ynglŷn â gwella addysg, ac i benderfynu hefyd ynglŷn â sut orau i gydweithio, o fewn fframwaith statudol. Bydd cyfle i awdurdodau weithio ar draws rhanbarthau, er enghraifft, wrth ddatblygu'r strategaeth economaidd ieithyddol ar gyfer y gorllewin, yn unol ag argymhellion adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar y Gymraeg a llywodraeth leol.