Part of the debate – in the Senedd at 6:14 pm on 18 July 2017.
Diolch, Cadeirydd, ac mae’n bleser gen i siarad ar ran y Pwyllgor Cyllid yn fyr iawn, jest i amlinellu goblygiadau ariannol y Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).
Bydd y Pwyllgor Cyllid am dynnu sylw’r Cynulliad yn benodol at yr amrywiaeth eang yn y ffigurau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol—yr RIA—wrth amcangyfrif y costau neu’r manteision posibl a allai godi o weithredu darpariaethau’r Bil. Mae’r ffigurau a ddarperir yn amrywio o fudd posibl o £57.4 miliwn i gost bosibl o £75.3 miliwn. Byddai hwn, fel arfer yn achosi pryder, mae’n siŵr, ond eglurodd Ysgrifennydd y Cabinet mai ansicrwydd wrth ddarogan nifer y gwerthiannau eiddo oedd y rheswm am yr amrywiad. Rhoddodd fanylion am y dull modelu a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i fesur yr effaith ariannol ar landlordiaid cymdeithasol, ac roedd hyn yn fodd o ddarparu sicrwydd i’r pwyllgor.
Mae rhai rhanddeiliaid wedi lleisio pryder y gallai cynnydd o ran ceisiadau gan denantiaid cymwys i arfer eu hawl i brynu arwain at gynnydd yn y llwyth gwaith yn y cyfnod o flwyddyn yn dilyn y Cydsyniad Brenhinol. Credwn fod yn rhaid pwyso’r pryder hwn yn erbyn honiad Ysgrifennydd y Cabinet bod llawer o gefnogaeth i’r Bil yn y sector tai—cefnogaeth sydd wedi ei atseinio gan John Griffiths, Cadeirydd y pwyllgor, sydd newydd adrodd.
Yn olaf, felly, hoffwn ailadrodd mater y mae’r Pwyllgor Cyllid hwn, a’r Pwyllgor Cyllid blaenorol hefyd, wedi’i godi sawl gwaith yn ymwneud â chostau gweithredu darpariaethau is-ddeddfwriaeth. Yn achos y Bil hwn, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ein sicrhau bod y costau y gellir eu rhagweld wedi cael eu hystyried yn llawn. Diolch.