Part of the debate – in the Senedd at 2:44 pm on 19 September 2017.
The establishment of this Assembly and, of course, the establishment of this Government, has been a journey of political maturity and also a story of growing confidence and a firm determination on all sides of this Chamber to deliver for Wales. The next stage of that journey is marked today by the publication of the national strategy designed to bring together the efforts of the whole public sector towards this Government’s central mission of delivering prosperity for all.
Dirprwy Lywydd, mae ffyniant yn ymwneud â llawer mwy na chyfoeth materol ac ni ellir ei bennu, na'i gyflawni, yn wir, gan dwf economaidd yn unig. Mae'n ymwneud â phob person yng Nghymru yn mwynhau ansawdd bywyd da, yn byw mewn cymuned gadarn, ddiogel, ac yn rhannu yn ffyniant Cymru. Mae'n amcan syml ac un yr wyf i’n siŵr na all neb dadlau ag ef. Fodd bynnag, er mwyn ei gyflawni bydd angen i bob rhan o'r Llywodraeth a'r gwasanaeth cyhoeddus gydweithio er mwyn ceisio cyflawni'r nod hwnnw.
Hon yw’r strategaeth gyntaf o’i math i'r Llywodraeth, sy’n casglu ynghyd mewn un man y modd y bydd meysydd niferus y Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd tuag at nod cyffredin, gan roi anghenion pobl Cymru yn gyntaf. Mae’r uchelgais syml y gallwn ni i gyd gydweithio er budd hirdymor Cymru wrth wraidd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae hwn yn gam pwysig wrth wireddu ein gweledigaeth.
Mae'r strategaeth hon yn rhoi sylw i’n hymrwymiadau yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn eu gosod mewn cyd-destun hirdymor, ac yn nodi sut y byddant yn cael eu cyflawni mewn modd mwy craff, mwy cydgysylltiedig sy'n croesi ffiniau traddodiadol, y tu mewn a'r tu allan i'r Llywodraeth. Mae’n cydnabod na ellir mynd i'r afael â'r heriau sylfaenol yr ydym ni eu hwynebu fel gwlad dim ond trwy roi pobl cyn systemau a strwythurau a chael mwy o bob punt y mae'r sector cyhoeddus yn ei wario. Mae'n weledigaeth feiddgar ar gyfer cyflawni ein huchelgeisiau i Gymru. Ein huchelgais yw i Gymru fod yn ffyniannus ac yn ddiogel, yn iach ac yn weithgar, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, ac yn unedig ac yn gysylltiedig.
Gan ddechrau gyda'r gyntaf o'r uchelgeisiau hynny, ‘ffyniannus a diogel’, ein nod yw economi Gymreig sy'n cynnig cyfleoedd ac sy’n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gan ddarparu ffyniant unigol a chenedlaethol. Byddwn yn galluogi pobl i gyflawni eu huchelgais a gwella eu lles trwy gyflogaeth ddiogel a chynaliadwy.
Gan droi at yr ail uchelgais, ‘iach a gweithgar', rydym yn dymuno gwella iechyd a lles yng Nghymru ar gyfer unigolion, teuluoedd a chymunedau, gan ein helpu i gyflawni ein huchelgais o ffyniant i bawb, a chymryd camau sylweddol i newid ein dull o fod yn canolbwyntio ar drin i fod yn canolbwyntio ar atal.
Yn drydydd, rydym yn dymuno cael gwlad sy'n seiliedig ar y cysyniad o fod yn uchelgeisiol ac yn dysgu. Rydym am feithrin angerdd pawb i ddysgu trwy gydol eu bywydau, gan eu hysbrydoli gyda'r uchelgais i fod y gorau y gallant fod. Mae ar Gymru ffyniannus angen pobl greadigol, hynod fedrus iawn sy’n gallu addasu, felly addysg o ansawdd da o’r oed cynharaf fydd y sylfaen ar gyfer oes o ddysgu a chyflawni.
Yn olaf, Cymru unedig a chysylltiedig. Byddwn yn adeiladu cenedl lle mae pobl yn ymfalchïo yn eu cymunedau, yn hunaniaeth ac iaith Cymru, a'n lle yn y byd. Rydym yn adeiladu'r cysylltiadau hanfodol sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl ddod at ei gilydd, er mwyn i'r economi dyfu, ac i ddod yn wlad hyderus sy’n gysurus â'i hun.
Dim ond trwy wneud cynnydd ym mhob un o’r meysydd hyn y byddwn yn gwireddu ein huchelgais o ffyniant i bawb. Fodd bynnag, roedd yna faterion oedd yn codi dro ar ôl tro: adegau neu sefyllfaoedd ym mywydau pobl pryd y gallai cymryd y camau cywir yn gynnar, yn aml wedi’u cydlynu ar draws gwasanaethau, newid rhagolygon unigolyn yn sylfaenol. Rydym wedi nodi pum maes blaenoriaeth—blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, a sgiliau a chyflogadwyedd—lle gallwn gael y cyfraniad mwyaf posib i'n ffyniant a'n llesiant hirdymor.
Dirprwy Lywydd, mae profiadau unigolyn yn ystod eu blynyddoedd cynnar, yn chwarae rhan arwyddocaol wrth lunio eu dyfodol, ac maent yn hollbwysig i'w siawns o fynd ymlaen i fyw bywyd iach, ffyniannus a bodlon. Sylfaen byw'n dda yw cartref fforddiadwy, o ansawdd da, sy'n dod ag ystod eang o fanteision i iechyd, dysgu a ffyniant. Mae gofal tosturiol, urddasol yn chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau cryf, yn sicrhau y gall pobl fod yn iach ac yn annibynnol am gyfnod hwy, ac mae'n sector economaidd sylweddol yn ei hawl ei hun. Bydd un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn dioddef salwch meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau, felly gall cael y driniaeth gywir yn gynnar, ynghyd â mwy o ymwybyddiaeth o gyflyrrau, atal effeithiau andwyol hirdymor mewn sawl achos.
Dirprwy Lywydd, pan fo sgiliau pobl yn well, mae ganddynt siawns well o gael gwaith teg, sicr sy’n rhoi boddhad iddynt. Ac os yw’r sylfaen sgiliau yng Nghymru yn gryf, mae gennym fwy o siawns o ddenu busnesau newydd a thyfu’r rhai sy'n bodoli eisoes er mwyn gwella ffyniant.
Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarparu gwasanaethau gwell, mwy di-dor i bawb yn y meysydd hyn. Uno gwasanaethau yw nod eithaf y llywodraeth ers tro byd. Er ein bod wedi cael peth llwyddiant nodedig, yng Nghymru mae gennym gyfle i wneud llawer mwy, a bydd nodi'r nifer bach hyn o feysydd yn caniatau i ni ganolbwyntio ein hegni ni ac eraill ar sbarduno gwelliannau mawr.
Yr hyn sy'n bwysig nawr yw gwneud i hyn ddigwydd. Byddwn yn rhoi ‘Ffyniant i Bawb’ wrth galon y Llywodraeth a bydd yn dylanwadu ar ein holl benderfyniadau. Byddwn yn cwblhau cyfres o gynlluniau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, gan nodi'n fanwl sut y byddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau. Bydd hyn yn cynnwys cynllun gweithredu economaidd cynhwysfawr, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, gan drefnu adnoddau'r Llywodraeth mewn modd sy’n rhoi pwyslais ar seilwaith a thwf economaidd cynaliadwy a chynhwysol, yn unol â'r strategaeth.
Bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, a byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer iechyd y flwyddyn nesaf. Bydd y cynllun hwn, wrth gwrs, yn ymateb i'r adolygiad seneddol, ond bydd hefyd yn nodi sut y gallwn ni gyflawni ein huchelgeisiau iechyd cyhoeddus ehangach a sut y gallwn ni ddefnyddio’r holl gyfleoedd sydd ar gael i’r Llywodraeth newid y pwyslais o drin pobl pan fyddant yn sâl i helpu pobl i fwynhau gwell iechyd. Ac mewn addysg, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yr wythnos nesaf yn cyhoeddi cynllun gweithredu newydd ar gyfer ysgolion, gan sicrhau y gall ein holl blant a’n pobl ifanc gyrraedd eu potensial.
Dirprwy Lywydd, mae ein rhaglen lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn nodi'r hyn y byddwn yn ei gyflawni ar gyfer pobl Cymru yn ystod y tymor hwn. Mae'r strategaeth genedlaethol hon, ‘Ffyniant i Bawb’, yn nodi sut y byddwn yn cyflawni hyn mewn modd mwy craff a manwl gan sbarduno cyflawni'r gwaith yn ystod y tymor hwn, ond gan osod y sylfeini tymor hwy ar gyfer Cymru fwy ffyniannus. Mae gennym ni weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol Cymru ac rydym ni’n cymryd camau pendant i'w gyflawni.