Part of the debate – in the Senedd at 5:27 pm on 20 September 2017.
I’m pleased to have the opportunity to contribute to this debate.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Rwy’n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar y rôl bwysig y mae cynghorau iechyd cymuned yn ei chwarae, ond rwy’n awyddus iawn i siarad am CIC Powys yn arbennig. Mae’n rhaid i mi ddweud, fel AC etholaeth, fy mod i mewn cysylltiad rheolaidd â chadeirydd fy nghyngor iechyd cymuned lleol, ac roedd yn dda cael cyfarfod hefyd â llawer o aelodau’r CIC yn sioe Aberriw y mis diwethaf lle cawsom drafodaeth dda am y Papur Gwyn. Nawr, yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe, nodais y pryder nad oedd y Papur Gwyn yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth o gymhlethdodau penodol gwasanaethau trawsffiniol, ar wahân, wrth gwrs, i’r materion eraill yn ymwneud â’r rôl graffu bwysig y mae CICau yn ei chwarae. Nawr, oni bai bod y newidiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu, mae yna ofn gwirioneddol y bydd llais y claf a chraffu ar wasanaethau iechyd ar gyfer pobl Powys—nad anghofier eu bod i raddau helaeth, wrth gwrs, yn defnyddio gwasanaethau o dros y ffin yn Lloegr—yn gwanhau’n ddifrifol.
Ddoe, roeddwn yn falch fod y Prif Weinidog wedi cadarnhau y byddai Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad gan gyngor iechyd cymuned Powys ac yn sicrhau y byddai consensws yn cael ei gyrraedd. Roedd hynny i’w groesawu. Ond mae’n hanfodol, yn sicr yn fy marn i, ein bod yn cynnal sefyllfa lle mae gan gynghorau iechyd cymuned hawliau statudol i weithredu fel eiriolwyr effeithiol ac annibynnol ar ran cleifion mewn lleoliadau trawsffiniol yn arbennig. Mae hyn yn bwysicach byth i fy etholwyr oherwydd y newidiadau sy’n digwydd yn Swydd Amwythig mewn perthynas â rhaglen Future Fit y GIG. Rwy’n gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwrando ar y pwynt nesaf hwn, fod cyngor iechyd cymuned Powys yn cynrychioli llygaid a chlustiau cleifion o dros 60 o fyrddau a phwyllgorau darparwyr gwasanaeth sy’n darparu gwasanaethau iechyd gwerth cyfanswm o dros £120 miliwn, gan gynnwys £22 miliwn gan Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Amwythig a Thelford yn unig. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw eglurder yn y Papur Gwyn ynglŷn â phwy fuasai’n cyflawni’r rôl graffu bwysig ar ran cleifion yn absenoldeb cynghorau iechyd cymuned.
Mae eraill wedi crybwyll profiad model yr Alban ar gyfer cynrychioli cleifion yno, felly nid af i mewn i hynny a siarad am fochdewion diddannedd ac yn y blaen, ond oni bai bod cynghorau iechyd cymuned yn cael rôl statudol, mae yna ofn na fydd ganddynt unrhyw ddannedd i fod yn eiriolwyr cryf dros gleifion, gan adael cleifion i weiddi o’r cyrion, wrth gwrs, yn hytrach na bod yn rhan annatod o’r broses o wneud penderfyniadau. Wrth gwrs, fe wrandewais ar Eluned Morgan. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod llawer o fy etholwyr yn gwybod am y cynghorau iechyd cymuned am eu bod wedi’u cyfeirio; mae fy swyddfa’n derbyn atgyfeiriadau gan CICau ar gyfer mathau penodol o waith achos. Ac yn aml, mae fy swyddfa yn cyfeirio etholwyr at y cyngor iechyd cymuned, felly os nad ydynt yn ymwybodol o’r CIC, fe fyddant yn fuan erbyn iddynt adael fy swyddfa.
Y pwynt olaf y buaswn yn ei wneud yw ein bod yn aml—mae pawb ohonom yn gwybod hyn fel ACau—yn aml iawn pan fydd sefydliad yn wynebu cael ei ddiddymu, fod y sefydliad hwnnw’n ymgyrchu’n drwm tuag atom ni. Ond yr hyn y buaswn yn ei ddweud, wrth siarad am fy nghyngor iechyd cymuned fy hun, yw mai’r hyn y maent yn ei ddweud yw eu bod yn derbyn newid. Mae hynny wedi’i dderbyn ac wedi’i ddeall, ac nid oes unrhyw deimlad na ddylai fod unrhyw newid yn digwydd o gwbl. Felly, buaswn yn dweud heddiw fy mod wedi fy nghalonogi fod Aelodau o nifer o bleidiau gwleidyddol yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Rwy’n gobeithio y bydd pob Aelod yn gwneud hynny, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig i lais y dinesydd gael ei gryfhau yn hytrach na’i wanhau.