Part of the debate – in the Senedd at 5:53 pm on 20 September 2017.
Well, thank you, Presiding Officer.
A gaf fi ddatgan, ar gyfer y cofnod, fy mod, tan yn ddiweddar, yn ymddiriedolwr Teuluoedd a Ffrindiau Carcharorion, sydd wedi’i leoli yng Ngharchar ei Mawrhydi Abertawe, sy’n debyg o ddioddef yn sgil dyfodiad y carchar categori C newydd hwn, rwy’n amau? Efallai bod yr Aelodau’n gwybod hefyd fy mod wedi fy hyfforddi i fentora unigolion sydd mewn perygl o aildroseddu, ac roeddwn yn aelod o grŵp trawsbleidiol Christine Chapman ar blant yr effeithiwyd arnynt gan garchariad rhiant ynghyd ag Aelodau eraill yma.
Er nad wyf yn honni bod hyn yn rhoi unrhyw ddealltwriaeth benodol i mi mewn perthynas â’r ddadl hon, rwy’n teimlo bod yn rhaid i mi wneud sylwadau ar annifyrrwch peth o’r rhethreg ynglŷn â’r penderfyniad hwn i ddod â chyfleuster modern ar gyfer troseddwyr risg isel i fy rhanbarth. Oherwydd, lle bynnag y caiff ei leoli—ac mae gennyf feddwl eithaf agored ar hyn mewn gwirionedd—nid tomen sbwriel yw hon. Nid gwladfa gosbi ddiwydiannol ei maint ydyw—