Part of the debate – in the Senedd at 3:21 pm on 4 October 2017.
I agree with those comments too—I sympathise.
Yr wythnos diwethaf, cafodd cais Abertawe i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU ar gyfer 2021 ei gyflwyno o’r diwedd. Mae mwy i Abertawe na’i diwylliant o’r gorffennol, er na ddylem anwybyddu etifeddiaeth Dylan Thomas, na Kingsley Amis, Peter Ham, Ceri Richards, ac wrth gwrs, seren yr wythnos hon, Vernon Watkins, na’r ffaith ei bod yn 160 mlynedd ers i rai o’r lluniau cynharaf o’r lleuad gael eu tynnu yn Abertawe gan John Dillwyn Llewelyn. Mae Abertawe yn cyfrannu at ddiwylliant y byd drwy gyfrwng rhai fel Karl Jenkins, Spencer Davies, Glenys Cour, Hannah Stone, yn ogystal â pherfformwyr adnabyddus fel Ria Jones, Rob Brydon a Catherine Zeta-Jones. Mae’r ddinas yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau diwylliannol megis gŵyl a gŵyl ymylol Abertawe, yr ŵyl jazz, proms yn y parc y BBC a hyd yn oed sioe awyr Cymru. Er bod digwyddiadau tebyg mewn mannau eraill yn y DU, yn debyg iawn i ddull yr Elyrch o chwarae pêl-droed, mae Abertawe’n ei wneud yn ei ffordd arbennig ei hun.
Caiff y diwylliant unigryw ei adlewyrchu yn ei phobl, sy’n gynnes a doniol, a chyda’i gilydd, maent yn dangos dychymyg mawr yn ailddyfeisio’r ‘dref hyll a hyfryd’ a chreu dinas go iawn. O glwb busnes Abertawe a’r Gweilch i Ganolfan Clyne Farm, morlyn llanw Abertawe a’r prifysgolion, cyrff cyhoeddus a phreifat, mae hwn yn gais sy’n cynrychioli’r ddinas gyfan a Chymru gyfan. Ar ôl cael siom y tro diwethaf, mae Abertawe yn ôl ar ei thraed ac yn ymladd unwaith eto. Cafodd Gogledd Iwerddon ei chynrychioli yn 2013, a Lloegr yn 2017, felly gadewch i ni wneud yn siŵr mai tro Cymru fydd hi nesaf.