Part of the debate – in the Senedd at 4:55 pm on 17 October 2017.
I’ll come to incineration later on in my remarks. Hopefully, I’ll address some of that in a moment.
Rwyf hefyd yn meddwl bod yna gyfle i ddefnyddio’r pwerau trethu newydd fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet newydd ei grybwyll. Rwy’n siomedig, a dweud y gwir, gyda geiriad y gwelliant gan y blaid Dorïaidd yn y cyd-destun yma. Os edrychwch chi ar yr ychydig o wledydd sydd yn ailgylchu plastig yn well na ni—gwledydd megis yr Almaen, Norwy, Sweden a Ffindir—mae gan bob un ohonyn nhw gynllun dychwelyd blaendal. Felly, nid yw’n wir i ddweud bod cynllun o’r fath rywsut yn tanseilio ailgylchu. Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni ystyried, gydag ailgylchu o’r stepen drws fel sydd gyda ni yng Nghymru, efallai y byddai yna effeithiau o gynllun blaendal yn y cyd-destun hwnnw. Ond yr ateb, wrth gwrs, yw cynllun peilot, a dyna beth sydd wedi cael ei gytuno rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth yn y cytundeb ar y gyllideb, ac rwy’n edrych ymlaen at drafod manylion y cynllun peilot hwnnw gyda’r Ysgrifennydd Cabinet maes o law, a chlywed mwy o fanylion felly yn y Cynulliad. Rwy’n gobeithio ar ddiwedd y dydd heddiw y bydd gyda ni o leiaf rhyw ddealltwriaeth o’r ffordd ymlaen ar hynny.
Mae gwelliant Plaid Cymru, gyda llaw, yn benagored o ran pa fath o gynllun dychwelyd blaendal y byddwn yn gallu ei weld yng Nghymru o safbwynt y deunydd a fydd yn cael ei ailgylchu. Mae’n bwysig ein bod ni yn gweld beth sydd yn cael ei ddefnyddio eisoes gan rai cwmnïau. Mae Pret a Manger, Veggie Pret ac Asda hyd yn oed yn dechrau sôn am sut y gallan nhw ddychwelyd cynnyrch. Mae hyd yn oed cwmnïau mawr fel Coca-Cola wedi newid eu meddyliau ynglŷn â chynllun blaendal a chynllun dychwelyd.
Mae’r ail ran o hwn, wrth gwrs, yn ein galluogi ni i edrych ar drethi newydd, a’r posibilrwydd o gael treth ar bolystyren, fel mae Plaid Cymru wedi sôn amdano. I fynd nôl i ryw gyffwrdd â’r pwynt mae Mike Hedges newydd ei wneud: mae rhai deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu, fydd yn y pen draw naill ai yn mynd i dirlenwi neu’n cael eu llosgi. A’r ateb fanna, wrth gwrs, yw ceisio cael defnydd gwell o’r deunyddiau yna neu hyd yn oed geisio gwthio’r deunyddiau yna allan o’r gadwyn fwyd yn benodol, gan ddefnyddio dulliau trethiannol. Felly, rwy’n gweld bod y posibilrwydd o dreth ar blastig, sydd wedi cael ei chrybwyll fel un o’r pedwar posibl gan y Llywodraeth, yn rhywbeth y byddwn ni ym Mhlaid Cymru am ei gefnogi ar hyn o bryd, a dyna ein dewis ni o dreth, i fod yn gwbl glir wrth y rheini yn y Siambr yma. Y rheswm am hynny, wrth gwrs, yw ei fod yn ein maniffesto ni, ein bod wedi bod yn gwneud gwaith arno, fy mod i wedi gwneud cynnig deddfwriaethol ond rhyw bum mis yn ôl yn y Senedd hon a chael cefnogaeth i’r cysyniad o’r ffordd yma o weithio yn ogystal, gan fod treth o’r fath yn perswadio pobl naill ai i ddefnyddio llai o blastig neu, wrth gwrs, drwy osod pris ar blastig na ellir ei ailgylchu, mae’n perswadio cwmnïau i fuddsoddi mewn deunyddiau compostadwy neu ddeunyddiau amgen sy’n gallu cael eu hailgylchu. Drwy hynny, rydym yn torri lawr ar faint o blastig sydd yn ein hamgylchedd ni. Mae’n arswydus, gan fod archwiliad gan swyddfa Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar wyddoniaeth ei hunan wedi canfod bod tua 70 y cant o’r holl wastraff sydd yn y môr bellach wedi cael ei wneud o blastig.
I did promise to briefly touch on incineration, which I’ll do in conclusion. There is a role for incineration in terms of agricultural forestry biomass for energy purposes, and so forth, but Plaid Cymru is very clear that large-scale incineration of waste is actually against the principles of a circular economy. In that regard, I hope that the Government bears in mind developments such as the Barry incinerator and really works against such proposals, and in favour of a genuine circular economy.