10. 8. Plaid Cymru Debate: The North Wales Economy

Part of the debate – in the Senedd at 6:16 pm on 18 October 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:16, 18 October 2017

(Translated)

May I thank, Deputy Presiding Officer, everybody who’s contributed to this debate? I believe that I spoke for too long at the outset to be able to respond to every point made.

Fe nodaf un neu ddau o’r cyfraniadau, a diolch i chi am wneud y cyfraniadau hynny. Soniodd yr Aelod dros Delyn, wrth gwrs, am bryderon ynghylch datgysylltiad datganoli a gofynnai am eglurder ynglŷn â’r amgueddfa bêl-droed genedlaethol arfaethedig. Fy nymuniad, yn sicr, yw y byddai’n rhan o’r rhwydwaith o amgueddfeydd cenedlaethol sydd gennym yng Nghymru. Yn sicr, pan edrychwch ar y map, mae bwlch mawr yng ngogledd-ddwyrain Cymru o ran cael amgueddfeydd cenedlaethol ym mhob rhan o’n gwlad. Cafwyd cyfeiriad at y diffyg sefydliadau cenedlaethol yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn gyffredinol, ac rwy’n meddwl efallai dros y blynyddoedd fod hynny wedi bwydo ychydig mwy ar y datgysylltiad datganoli y mae rhai pobl yn ei deimlo. Felly, dyna fy ymateb i’ch pwynt yn hynny o beth.

Ac mae’n rhaid i mi ddweud, mae’r cyfraniad a gawsom gan yr Aelod UKIP dros ogledd Cymru—fe gadarnhaoch i mi nad ydych yn cefnogi trydydd pwynt ein cynnig heddiw. Mae hynny’n golygu nad ydych yn cefnogi cysylltiadau gwell rhwng gogledd a de Cymru, nid ydych yn cefnogi gwelliannau i groesfan y Fenai, nid ydych yn cefnogi cymorth ychwanegol i ffermwyr ifanc yn eich ardal, mwy o hyfforddiant meddygol yn eich rhanbarth, rhyddhad ardrethi busnes i gynlluniau hydro cymunedol yn eich rhanbarth, cyllid ychwanegol ar gyfer Croeso Cymru yn eich rhanbarth. Fe’i clywoch yma gyntaf, ac mae hynny’n dweud popeth sydd angen inni ei wybod am eich plaid, rwy’n credu.

Hoffwn ddiolch i Simon Thomas am ei gyfraniad hefyd. Yn sicr, mae llawer y gallwn adeiladu arno o ran yr economi wledig, ond hefyd y pwynt a wnaed am dwristiaeth. Yn amlwg, os yw pleidiau yn y Cynulliad hwn am wneud rhywbeth i gefnogi’r sector twristiaeth yng Nghymru, yna yn sicr gallant ddechrau gyda TAW a gall Canghellor Torïaidd y Trysorlys ddechrau fis nesaf yn ei gyllideb. Edrychaf ymlaen at weld Aelodau Seneddol Ceidwadol yn pleidleisio yn erbyn ei gyllideb os nad yw’n gwneud y peth iawn, neu gefnogi gwelliannau Plaid Cymru hyd yn oed, a hyderaf y bydd gwelliannau i’r perwyl hwnnw mewn perthynas â TAW. Yn y cyfamser, mae’r blaid hon yn bwrw ymlaen â bod yn wrthblaid effeithiol, gan sicrhau miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer Croeso Cymru y llynedd, miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad ychwanegol y flwyddyn nesaf, yn ogystal; dyna beth yw bod yn wrthblaid effeithiol.

I sôn am rai o’r gwelliannau, sef rhywbeth na wneuthum yn fy sylwadau agoriadol, gwelaf fod Llywodraeth Cymru wedi dewis defnyddio un o’i gwelliannau ‘dileu’r cyfan a rhoi yn ei le’ mewn ymgais i dynnu sylw at rai o’u llwyddiannau, ac rwy’n cefnogi llawer ohonynt, wrth gwrs. Ond tybed pa mor hir y byddai’r rhestr ar gyfer rhannau eraill o’r wlad pan edrychaf ar y rhestr honno. Ni fyddwn yn cefnogi’r ail welliant gan y Ceidwadwyr, sydd, unwaith eto, yn ceisio dileu cydnabyddiaeth o’r buddugoliaethau niferus a sicrhawyd gennym yn y gyllideb hon, ac yn wir, buddugoliaethau i rai o’r bobl yr ydych yn eu cynrychioli fel plaid hefyd. Rydym yn hapus i gefnogi’r trydydd gwelliant o blaid datganoli y tu hwnt i Gaerdydd. Gallech ddadlau, wrth gwrs, pe bai gennym Lywodraeth sy’n cynrychioli Cymru gyfan go iawn ac sy’n sicrhau buddsoddiad teg i bob rhan o’r wlad, efallai na fyddai angen y gwelliant hwnnw, ond rydym yn hapus i’w gefnogi.

Felly, gyda’r sylwadau hynny ac ar ôl cael gwybod bod gennyf dri munud a 25 eiliad i grynhoi, diolch i bawb ohonoch am gyfrannu.