Part of the debate – in the Senedd at 5:14 pm on 24 October 2017.
Yn fy natganiad ysgrifenedig yn gynharach heddiw, soniais am gyfarfodydd diweddar â Llywodraeth y DU, gan gynnwys y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yr wythnos ddiwethaf, lle’r oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn bresennol. O hynny, bydd yr Aelodau wedi gweld bod rhyw awgrym o’r diwedd bod Llywodraeth y DU yn sylweddoli bod angen iddynt weithio'n llawer agosach gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ar y materion hanfodol hyn. Cawsom sicrwydd y byddem yn cael ein cynnwys yn llawnach yn natblygiad safbwyntiau polisi yn y dyfodol pan fydd y trafodaethau'n symud i ail gam trafodaethau manwl am ein perthynas â'r UE yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae'n rhaid imi ddweud, Llywydd, na fyddai hyn yn anodd, o ystyried y ffordd y cyhoeddwyd papurau ar faterion hanfodol fel trefniadau tollau, ffin Iwerddon-Gogledd Iwerddon, a hyd yn oed bolisïau datganoledig ymchwil a datblygu heb ddim mewnbwn gan Lywodraeth Cymru. At hynny, o ran goblygiadau cyfansoddiadol Brexit o fewn y DU a'r mater hollbwysig o ddarparu sicrwydd cyfreithiol wrth inni adael yr UE, mae’n ymddangos ein bod wedi gweld newid sylweddol yn safbwynt Llywodraeth y DU. Yn unol â'r syniadau a nodwyd gennym ym mis Gorffennaf, rydym wedi cytuno â Llywodraethau’r Alban a'r DU ar yr egwyddorion a ddylai fod yn sail i fframweithiau cyffredin y gellid eu datblygu ar y cyd rhwng gweinyddiaethau ar gyfer meysydd lle mae angen cydweithrediad neu safonau cyffredin pan nad yw fframweithiau'r UE ar waith mwyach. Rwyf wedi cyhoeddi'r egwyddorion hyn i’r Aelodau mewn datganiad ysgrifenedig. Mae gwaith i ddatblygu hyn ar y gweill nawr ac rwy’n edrych ymlaen at weld y Cynulliad hwn yn cael cyfle i graffu ar drefniadau ar y cyd yn y dyfodol.
Er ei bod hi'n llawer rhy gynnar i ddod i'r casgliad y bydd Llywodraeth y DU yn tawelu ein pryderon sylfaenol am y Bil tynnu'n ôl o’r Undeb Ewropeaidd, mae'n amlwg eu bod o leiaf yn cydnabod difrifoldeb y materion a godwyd gennym ac ehangder y gefnogaeth yn Senedd y DU i’r gwelliannau yr ydym ni, ynghyd â Llywodraeth yr Alban, wedi eu cynnig. Fel Llywodraeth, rydym yn gwbl glir na fyddwn yn argymell bod y Cynulliad hwn yn rhoi eu caniatâd i'r ddeddfwriaeth oni bai a hyd nes y bydd diwygiadau ystyrlon mewn dau faes: yn gyntaf i ddileu’r cyfyngiadau newydd a osodwyd ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; ac, yn ail, i sicrhau bod rhaid i Weinidogion y DU ymgynghori â ni cyn gwneud unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig, pa mor dechnegol bynnag a fydd. Dyna'r lleiaf un sydd ei angen. Defnyddio'r pwerau hynny yn gydamserol yw'r canlyniad a fyddai orau gennym ni. I ddefnyddio ymadrodd braidd yn ystrydebol, mae'r bêl yn awr yn eu cwrt nhw.
Os ydym wedi gweld rhai datblygiadau cadarnhaol o ran yr agenda ddomestig, nid wyf yn gweld cymaint o le i fod yn optimistaidd ynglŷn â’r trafodaethau â’r UE-27. Yr wythnos diwethaf, cyfarfu'r Cyngor Ewropeaidd i ystyried a oedd cynnydd digonol wedi'i wneud i symud ymlaen i ail gam y trafodaethau. Yn anffodus, daethant i'r casgliad bod angen mwy o waith o hyd ar delerau’r DU i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd cyn y gall trafodaethau ddechrau am y berthynas hirdymor a’r cwestiwn hanfodol am drefniadau trosiannol. Ym marn ein partneriaid yn yr UE, nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi digon o eglurder ynghylch sut i amddiffyn hawliau dinasyddion yr UE yn y DU na sut i ddatrys y problemau cymhleth a achosir gan ffin dir Gogledd Iwerddon, nac ynghylch y telerau ariannol ar gyfer ymadawiad y DU. Mae hynny'n bryder mawr ac mae'n fethiant o ran polisi ac arweiniad gwleidyddol.
Beth fydden ni wedi'i ddweud pe baem wedi cael gwybod ar 30 Mehefin y llynedd, 16 mis yn ddiweddarach, a lai na 18 mis cyn inni adael yr UE yn ddiofyn hyd yn oed os na cheir cytundeb, na fydden ni hyd yn oed wedi dechrau trafod telerau ein perthynas â'r UE yn y dyfodol? Wrth gwrs, roedd sut i ddatrys y cymysgedd cymhleth iawn o gysylltiadau sydd wedi ein rhwymo ni ynghyd â'n cymdogion agosaf ers dros 40 mlynedd wastad yn mynd i fod yn gymhleth iawn. Ond o ran hawliau dinasyddion, rydym wedi dadlau ers diwrnod 1 y gallai, ac y dylai, Llywodraeth y DU fod wedi gwneud cynnig hael ac unochrog i sicrhau hawliau presennol yr holl ddinasyddion o’r UE sydd wedi dewis byw a gweithio yn y DU ar gyfer y dyfodol. Nid yw'n rhy hwyr i wneud hynny nawr. Nid mater moesol yn unig yw hwn—mae dinasyddion yr UE yng Nghymru yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'n busnesau, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymdeithas, ac ni allwn fforddio eu colli. Byddai wedi bod yn symudiad y byddai'r UE, rwy’n credu, wedi gorfod gweithredu yn yr un modd.
O ran ffin Iwerddon-Gogledd Iwerddon, mae wedi dod yn gynyddol glir na ellir cynnal ffin feddal, fel y’i gelwir, oni bai ein bod yn parhau i weithio o fewn undeb tollau gyda'r UE. Ac, eto, dylai'r dewis yma fod yn glir. Nid yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno dim tystiolaeth o gwbl i gyfiawnhau eu tybiaeth y byddai manteision economaidd symud oddi wrth undebau tollau, wedi’u hudo gan y posibilrwydd o gytundebau masnach rydd newydd, yn gwneud iawn am yr anfanteision o godi rhwystrau newydd i lif masnach rydd a dilyffethair i'n marchnad fwyaf.
Ac er ei bod yn amlwg na ddylid rhoi setliad ariannol gwael i drethdalwyr y DU, mae angen inni gydnabod dau beth: yn gyntaf, y byddai'r difrod economaidd a allai ddigwydd os na chaiff bargen ei tharo’n gwneud i unrhyw golled i'r Trysorlys oherwydd taliad untro i gydnabod ein rhwymedigaethau ymddangos yn gwbl bitw; ac, yn ail, bod gennym gyfrifoldebau moesol a gwleidyddol i anrhydeddu ymrwymiadau a wnaethpwyd gyda'n cytundeb fel aelod-wladwriaeth. Os na allwn gyflawni'r cytundebau hynny, pa obaith sydd y bydd pobl yn ymddiried ynom i wneud hynny yn y dyfodol? Gofynnaf i'r Aelodau yma feddwl sut y byddem yn ymateb pe bai’r Comisiwn Ewropeaidd yn rhoi gwybod inni y byddai rhaglenni gweithredol y gronfa strwythurol yng Nghymru, y cytunwyd arnynt â nhw ar ôl blynyddoedd o ddatblygu a thrafod, yn cael eu torri'n sylweddol oherwydd penderfyniad a wnaethpwyd mewn aelod-wladwriaeth arall, heb i weddill yr UE gael cyfle i ddylanwadu arno. Y posibilrwydd o bump neu chwe blynedd arall o arian ar gyfer prentisiaethau, ar gyfer seilwaith hanfodol fel y metro, i gynorthwyo i harneisio potensial ein prifysgolion i gymhwyso ymchwil i economi’r byd go iawn, a ninnau wedi credu ei fod yn ddiogel, sut y byddem yn ymateb pe bai hynny’n cael ei gipio i ffwrdd?
Mae'r methiant i sicrhau cynnydd digonol ar y materion hyn erbyn Cyngor Ewropeaidd mis Hydref yn un allweddol. Er bod Llywodraeth y DU, o’r diwedd, wedi derbyn yr angen, fel yr ydym wedi ei argymell ers y refferendwm, am gyfnod pontio i ddarparu elfen o sicrwydd economaidd, mae busnesau a sefydliadau busnes yn dweud wrthym fod angen iddynt wneud penderfyniadau buddsoddi allweddol nawr. Nid oes amser i’w golli o gwbl. Nid dim ond fi sy’n dweud hyn: gofynnwch i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain.
Llywydd, yr wythnos ddiwethaf, ymosododd rhywun arnaf am ddweud bod 'dim bargen' yn annychmygadwy a’i bod yn amhosibl lliniaru effeithiau canlyniad mor drychinebus i'r trafodaethau gyda'r UE-27. Dewch imi ddyfynnu, felly, rhai o'r enghreifftiau o rybuddion sefydliadau arbenigol am effaith 'dim bargen' a gyhoeddwyd yn y mis diwethaf yn unig: mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn dweud y byddai,
‘yn dileu'r warant o ddarpariaeth radioisotopau gyson a phrydlon’, sydd
‘yn hanfodol...i drin canser... o bosibl yn arwain at oedi cyn rhoi diagnosis a chanslo llawdriniaeth i gleifion’.
Meddai Cymdeithas Peilotiaid Awyrennau Prydain,
‘Gallai cwmnïau awyrennau yn y DU orfod rhoi'r gorau i hedfan—mae mor ddifrifol â hynny’.
Mae Consortiwm Manwerthu Prydain yn dweud y gallai dychwelyd at dariffau Sefydliad Masnach y Byd olygu bod siopwyr yn y DU yn talu hyd at draean yn fwy am eitemau bwyd bob dydd, gyda phris caws yn cynyddu 30 y cant a thomatos yn cynyddu bron i 20 y cant, ac y byddai cyflwyno rheolaethau tollau heb fawr o rybudd yn creu,
‘tarfu aruthrol ac yn cael effaith bosibl ar y bwyd sydd ar gael ar y silffoedd’.
Mae'r Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau yn dweud y byddai datrysiad ymyl dibyn, yn anfon siociau costus drwy lifoedd masnach a chadwyni cyflenwi'r UE.
Mae'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth yn modelu senario cadarnle’r DU lle rydym yn masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, a fyddai'n golygu bod ffermydd ucheldir yn anghynaladwy yn economaidd. Ac mae prif fanc yr Iseldiroedd, Rabobank, yn amcangyfrif y gallai ‘dim bargen’ arwain at lefel cynnyrch domestig gros sydd 18 y cant yn is yn 2030 nag y byddai pe byddem wedi aros yn yr UE.
Felly, mae'n amlwg i mi y byddai’n cymryd degawdau i wneud iawn am Brexit anhrefnus, ac y byddai hefyd yn arwain at anhrefn a niwed i'n heconomi, ein ffabrig cymdeithasol a'n diogelwch. Felly, sut ydym ni'n atal y canlyniad hwn? Wel, atal y canlyniad hwn, nid paratoi cynlluniau wrth gefn ar ei gyfer, yw’r hyn y dylem fod yn ei wneud, a'r hyn yr ydym yn ei wneud. Byddai gwneud fel arall fel teithiwr ar y Titanic sydd, wrth weld y mynydd iâ yn syth o’i flaen, yn mynd islaw i ddod o hyd i’w siaced achub a phacio ei fagiau, yn hytrach na rhuthro i'r bont a churo ar y drws mewn ymgais daer i rybuddio'r capten am y trychineb sydd o’i flaen—mae angen inni rybuddio pobl am yr hyn sydd o'n blaenau.
Felly, rwy’n ailadrodd yr hyn a ddywedais yr wythnos diwethaf: ni all ‘dim bargen’ fod yn opsiwn. Pa mor anodd bynnag—ac nid wyf yn tanbrisio'r anawsterau—mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wneud popeth yn eu pŵer i ffurfio safbwynt am y telerau ymadael, fel y bydd Cyngor Ewropeaidd mis Rhagfyr yn symud trafodaethau i'r ail gam ac yn gyflym iawn wedi hynny yn cyrraedd cytundeb am gyfnod pontio o ddwy flynedd o leiaf. Mae ein cynnig i gefnogi’r trafodaethau a chyfrannu atynt yn dal i sefyll, a, Llywydd, rydym yn parhau i bwyso ar bob cyfle i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried yn iawn.